Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 25 Ionawr 2023.
Diolch yn fawr. Nid wyf yn hollol siŵr pam na chafodd y rheini eu grwpio gyda'i gilydd. Wrth gwrs, mae'r Bil hwn yn ymestyn i Gymru ac fel yr awgrymwyd gennych, yn rhoi pwerau ysgubol i'r Ysgrifennydd Gwladol yn Whitehall. Trafodwyd diogelwch yn helaeth yn y Bil blaenorol; wel, mae diogelwch wedi'i ddileu'n llwyr. Mae diogelwch y cyhoedd wedi'i dynnu allan o'r Bil hwn yn gyfan gwbl. Fe allai Ysgrifennydd Gwladol yn Whitehall atal streic oherwydd yr effaith y mae'n ei chael ar yr awr frys yng Nghaerdydd, neu fe allai atal streic oherwydd y posibilrwydd y gallai arwain at ganslo apwyntiadau ysbyty neu y gallai arwain at darfu ar ddosbarthiadau. Yn y bôn, i bob pwrpas, gallai Ysgrifennydd Gwladol yn Whitehall atal pob streic yma yng Nghymru yn y dyfodol. Felly, pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd y meini prawf ar gyfer lefelau gwasanaeth lleiaf yn dal i ganiatáu i streicio effeithiol ddigwydd yng Nghymru? Diolch yn fawr.