Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 25 Ionawr 2023.
Mae'r Comisiwn yn cefnogi cyfleoedd i hyrwyddo ac arddangos ein Senedd a'i gwaith arloesol ar lwyfan rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys cefnogi Aelodau i gymryd rhan mewn rhwydweithiau rhyngwladol, a hwyluso rhaglenni ar gyfer ymweliadau gan ddirprwyaethau rhyngwladol, fel Senedd ffederal Canada’r wythnos diwethaf, a chroesawu diplomyddion i'r lle yma, fel cynrychiolydd Llywodraeth Catalwnia y bore yma. Cytunwyd ar ein fframwaith rhyngwladol mewn cyfarfod Comisiwn yn ddiweddar. Mae’n amlinellu’r nod o godi proffil y Senedd a gwerth meithrin ein henw da drwy ymgysylltu a chydweithio, p’un a yw’r gwaith hwnnw’n cael ei arwain gan Aelodau neu bwyllgorau, neu a yw’n digwydd ar lefel swyddogion neu rhwng seneddau.