Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 25 Ionawr 2023.
Roeddwn innau'n siomedig iawn hefyd o gael galwad ffôn am 9 o'r gloch gan drigolion ar Ynys Môn. Yn amlwg, bûm yn siarad gyda chi, Weinidog, a bûm yn siarad hefyd gydag undeb Unite, sydd wedi bod yn cael trafodaethau gyda'r gweithlu. Mae angen imi ddatgan hefyd fy mod yn aelod o undeb Unite. Dylwn fod wedi datgan hynny'n gynharach hefyd pan oedd gennyf gwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Felly, ymddiheuriadau am hynny.
Mae'r ffatri'n cyflogi llawer o bobl leol, fel y dywedodd yr Aelod lleol, ond hefyd pobl ym Mangor a Chaernarfon hefyd, a phobl o ddwyrain Ewrop, India ac Affrica sy'n dod i wneud eu cartref ym Mangor hefyd. Mewn perthynas â Brexit hefyd, pan oeddem yn ymgyrchu o amgylch ffatri 2 Sisters yn sir y Fflint, roedd pobl yno'n ymgyrchu dros Brexit, ond roeddent yn dweud bryd hynny, rydych yn ymgyrchu dros hyn ac efallai y bydd yr effaith ar weithwyr sy'n dod o ddwyrain Ewrop yn golygu y byddai'r ffatri yn cau yn y dyfodol, oherwydd maent yn cynnal y swyddi i bobl leol yn ogystal.
Mae'r oddeutu 730 o swyddi hyn yn weithwyr ar gyflogau isel, ac i mi, rwy'n gwybod bod pwynt wedi'i wneud am ddarparu diwydiant a gwaith pellach, ond rwy'n wirioneddol bryderus am deuluoedd, am yr effaith ar iechyd meddwl a llesiant, ar y plant, a phopeth arall i'r gweithwyr hyn sydd ar gyflogau isel. Felly, a oes angen arian ar gyngor Ynys Môn i'w helpu i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon ar hyn o bryd? Rwy'n gwybod eich bod wedi dweud y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gweithio gyda hwy, ond wyddoch chi, nid yw nawdd cymdeithasol yn dda iawn drwy'r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae'n cymryd, faint, chwe wythnos, i gredyd cynhwysol ddod drwodd. Bydd angen cymorth cyflym iawn arnynt ar unwaith.
Felly, beth y gellir ei wneud? Clywais fod yna dasglu yn cael ei sefydlu, a hoffwn fod yn aelod o hwnnw hefyd, gan weithio gyda undeb Unite a'r Aelod lleol, ond byddant angen y cymorth hwn ar unwaith, oherwydd ni fydd ganddynt unrhyw arian wedi'i gynilo. Ni fydd ganddynt arian wrth gefn. Felly, a wnewch chi nodi beth y gallwch chi ei wneud ar hynny, os gwelwch yn dda, Weinidog.