5. Datganiadau 90 Eiliad

– Senedd Cymru am 4:11 pm ar 25 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 4:11, 25 Ionawr 2023

Symudwn ymlaen at eitem 5, datganiadau 90 eiliad. Yn gyntaf, Samuel Kurtz.

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, arwyddodd ColegauCymru a Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu gytundeb cydweithio hirddisgwyliedig yng Ngholeg Sir Benfro. Disgwylir i'r cytundeb gryfhau'r berthynas rhwng cynrychiolwyr colegau addysg bellach yng Nghymru a chynrychiolwyr y diwydiant adeiladu, a chydnabyddiaeth fod gan y ddau sefydliad ddiddordeb cyffredin mewn cefnogi'r diwydiant adeiladu drwy hwyluso prentisiaethau a datblygu cyflogwyr, pobl ifanc ac oedolion sy'n ddysgwyr. Mae'r ddau sefydliad wedi ymrwymo i ragoriaeth, ond maent hefyd yn ymdrechu i sicrhau bod dysgwyr yn cael yr hyfforddiant a'r sgiliau cywir sy'n angenrheidiol i flaenoriaethau'r diwydiant. Yn wir, mae'r rhaglen Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, sy'n codi ymwybyddiaeth o addysg a hyfforddiant galwedigaethol a llwybrau gyrfa a fydd yn effeithio'n gadarnhaol ar fusnesau Cymru, yn enghraifft wych o golegau addysg bellach a Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu yn cydweithio er budd dysgwyr, cyflogwyr ac economi ehangach Cymru. Yn rhan o'r rhaglen, yr wythnos diwethaf, fe wnaeth Coleg Sir Benfro groesawu dros 70 o ddysgwyr o bob cwr o Gymru i gystadlu yn rownd gyntaf Cystadleuaeth Sgiliau Cymru. Roedd y gystadleuaeth yn cynnwys 11 crefft yn y maes adeiladu ac roedd nifer o gwmnïau adeiladu lleol yn bresennol, yn cynnwys W.B. Griffiths a'i Fab, Carreg Construction, Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu a Grŵp Hyfforddi Dyfed. Hoffwn longyfarch pob dysgwr a gymerodd ran a dymuno'r gorau iddynt yn y gystadleuaeth. Diolch yn fawr.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 4:12, 25 Ionawr 2023

Dwi am gymryd y cyfle i longyfarch O Ddrws i Ddrws, elusen cludiant cymunedol yn Llŷn, am ddarparu 20 mlynedd o wasanaeth i drigolion yr ardal. Ymgorfforwyd O Ddrws i Ddrws yn Ionawr 2003 ac, ers hynny, mae wedi cludo cannoedd o deithwyr ar filoedd o siwrneiau angenrheidiol—o apwyntiadau meddygol, siopa lleol neu ymweld ag anwyliaid, i ysgol, coleg neu i'r gwaith. Erbyn hyn, mae'r elusen yn darparu gwasanaeth llesiant, Lôn i Les, ac yn arloesi mewn gwasanaeth rhannu a gwefru ceir trydan, Gwefryl, a gwasanaeth Flecsi Llŷn, sy'n darparu cludiant cyhoeddus ar alw yn ystod misoedd yr haf yn ogystal. Mae'r diolch yn fawr i'r holl wirfoddolwyr a staff sydd wedi cyfrannu at barhad yr elusen dros y blynyddoedd, yn ymddiriedolwyr, gweinyddwyr a gyrwyr, etifeddwyr, dyngarwyr ac arianwyr, eu haelioni yn tystio i'r angen parhaol a'r gwaith hanfodol sydd yn cael ei gyflawni gan yr elusen. Heb wasanaethau O Ddrws i Ddrws, byddai bywyd cymunedol ymarferol annibynnol heb fynediad at drafnidiaeth bersonol yn amhosib yn Llŷn. Diolch amdanynt, ac ymlaen i'r 20 mlynedd nesaf. 

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 4:14, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Mae'n Wythnos Atal Canser Ceg y Groth yr wythnos hon, ac mae elusen Jo's Cervical Cancer Trust wedi lansio ei hymgyrch fwyaf eto, yr ymgyrch i gael gwared ar ganser ceg y groth. Mae tua 160 diagnosis yn cael eu gwneud bob blwyddyn, a dyma'r math mwyaf cyffredin o ganser i fenywod o dan 35 oed. Ond yma yng Nghymru, mae gennym yr arfau i sicrhau bod canser ceg y groth yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol: rhaglen frechu feirws papiloma dynol, HPV, eang a gwasanaethau sgrinio serfigol a cholposgopi effeithiol iawn. Gall sgrinio rheolaidd yn unig leihau'r risg hyd at 70 y cant. Rydym yn atal mwy o achosion o ganser ceg y groth nag erioed, ond rydym hefyd yn wynebu rhwystrau, gan gynnwys anghydraddoldeb o ran mynediad a chwymp yn nifer y bobl sy'n manteisio ar y gwasanaeth. Mae effaith y pandemig hefyd wedi bod yn sylweddol ac mae angen gwneud gwaith i unioni hyn. Mae'r posibilrwydd o sicrhau bod un math o ganser yn rhywbeth sy'n perthyn i lyfrau hanes yn un cyffrous, ac mae'n bosibilrwydd y dylem ei groesawu a chael ein hysgogi ganddo. Er mwyn cyrraedd yno, mae'n rhaid inni fynd i'r afael â materion sy'n codi heddiw, ac edrych ar raglenni'r dyfodol. Mae'r adroddiad diweddaraf gan Jo's Cervical Cancer Trust yn tynnu sylw at y rhwystrau a'r cyfleoedd i gael gwared ar ganser ceg y groth. Yn ystod Wythnos Atal Canser Ceg y Groth, hoffwn annog pawb i gael eu brechlyn HPV a'u sgriniad serfigol, ac i gysylltu ag elusen Jo's Cervical Cancer Trust am wybodaeth a chefnogaeth. Gyda'n gilydd, gallwn gael gwared ar ganser ceg y groth.