Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 25 Ionawr 2023.
Rwy'n gwrando ar eich araith. Mae’r Llywodraeth eisoes wedi ymateb i’r adroddiad; roeddwn yn gobeithio y byddai’r Gweinidog hefyd yn ymateb i’r ddadl. Un mater y ceisiais ei godi yn y ddadl oedd mater cydraddoldeb, a chredaf ei bod yn bwysig fod hynny a’r materion y mae cyd-Aelodau eraill wedi’u codi—materion pwysig iawn—yn y ddadl hon y prynhawn yma—credaf ei bod yn bwysig inni glywed ymateb i’r materion hynny, gan ein bod wedi darllen ymateb y Llywodraeth i’r adroddiad, ac rydym am glywed ymateb i’r ddadl hefyd.