8. Dadl Plaid Cymru: Lleihau'r pwysau ar y GIG

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 25 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 5:51, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliannau yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon unwaith eto? Rwy'n dweud 'unwaith eto' am ein bod bob amser yn cael dadleuon iechyd. Mae'n debyg iawn i ddadl a gyflwynwyd yr wythnos diwethaf, ac ni chredaf y gallwn gael gormod o ddadleuon iechyd yn y Siambr. Mae'r Gweinidog yn edrych fel pe bai'n dweud, 'Os gwelwch yn dda, rhowch rywfaint o saib i mi', ond o ddifrif, ni chredaf y gallwn gael gormod o ddadleuon ynghylch yr heriau y mae ein gwasanaeth iechyd yn eu hwynebu. A byddwn yn awgrymu bod GIG Cymru mewn sefyllfa ansefydlog iawn, a byddwn yn cytuno â Chydffederasiwn GIG Cymru a'u hasesiad o'r pwysau, fel yr amlinellwyd yn y cynnig heddiw.

Credaf hefyd ei bod yn bwysig pwysleisio nad yw’r problemau y mae’r GIG yn eu hwynebu, a rhai o’n heriau, yn fai mewn unrhyw ffordd ar ein gweithwyr proffesiynol gwych sy’n gweithio yn y sector iechyd a gofal ledled Cymru. Maent yn gweithio mewn amgylchiadau heriol iawn, ac rydym yn diolch iddynt wrth gwrs am bopeth a wnânt. A dyna pam y credaf y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno strategaeth i leihau’r pwysau ar ein GIG, a byddwn yn awgrymu y byddai peidio â thorri’r gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol mewn termau real yn fan cychwyn.

Un peth roeddwn am ei grybwyll yn fy nghyfraniad—unwaith eto, cododd Andrew R.T. y mater gyda'r Prif Weinidog ddoe—oedd cyflwr ein seilwaith, cyflwr ein hysbytai, y cyflwr gwael y maent ynddo a'r amgylcheddau gwaith y mae'n rhaid i lawer o bobl weithio ynddynt. Ac fel y nododd Andrew ddoe, dim ond 62 y cant o'r adeiladau sy'n eiddo i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n ddiogel yn weithredol, ac nid yw honno'n sefyllfa anghyffredin. Dim ond 72 y cant o'r adeiladau sy'n eiddo i fyrddau iechyd Cymru a gofnodwyd fel rhai sy'n ddiogel yn weithredol. Wel, nid yw'n ormod disgwyl bod gan ein gweithwyr iechyd, ein nyrsys, amodau gwaith da i weithio ynddynt, heb sôn, wrth gwrs, am y materion sy'n ymwneud â diogelwch cleifion. Fel y nododd Conffederasiwn GIG Cymru cyn y ddadl heddiw, os ydym am gael gweithlu ac am wella morâl ein gweithwyr iechyd proffesiynol, ac os ydym am gadw nyrsys a gallu recriwtio mwy o weithwyr iechyd proffesiynol i’n GIG yng Nghymru, mae’n rhaid inni ddechrau drwy sicrhau bod gennym weithle sy’n addas i’r diben. A chredaf ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn cael y buddsoddiad hwnnw yn ein hysbytai. Rwy'n siomedig. Clywais y Prif Weinidog ddoe yn pwyntio bys at San Steffan. Wel, arhoswch funud, ond ers 25 mlynedd, chwarter canrif, Llywodraeth Lafur sydd wedi bod yn gyfrifol am GIG Cymru. Nid wyf yn credu ei bod yn rhesymol pwyntio bys at San Steffan pan ydym yn y sefyllfa hon, gyda dim ond 62 y cant o adeiladau yn ardal bwrdd Betsi Cadwaladr yn ddiogel yn weithredol.

Ond y mater arall hefyd yw buddsoddi mewn hyfforddiant, a hyfforddi staff GIG newydd. Rydym wedi cael rhywfaint o gyllid ar gyfer hynny, a chredaf fod hynny i'w groesawu; ni chredaf ei fod yn ddigon, ond credaf ei fod i'w groesawu. Rwy'n credu bod pob un ohonom yn cytuno—rydym wedi sôn cryn dipyn am nyrsio asiantaeth yn y Siambr—rwy'n credu ein bod i gyd yn cytuno bod hyn oll yn mynd i'r cyfeiriad anghywir. Mae’r gwariant ar nyrsio asiantaeth wedi cynyddu, fel y nododd Rhun ap Iorwerth, ac ni allwn fod mewn sefyllfa lle mae’r gwariant ar nyrsio asiantaeth yn cynyddu i’r graddau y mae'n cynyddu ar hyn o bryd, a dyna pam ein bod wedi cyflwyno un o’n gwelliannau heddiw ar gapio gwariant ar asiantaethau. Nid dyna'r ateb; mae'n un rhan o'r ateb, ond byddwn yn awgrymu bod angen inni sicrhau bod gennym gynllun ariannu cynaliadwy ar waith i recriwtio a hyfforddi staff yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.

Hoffwn sôn yn gryno hefyd am ddulliau ataliol. Mae atal mor bwysig. Nid yw’n un o flaenoriaethau’r Llywodraeth. Rwy'n sylweddoli na allwch gael gormod o flaenoriaethau, gan na fyddai unrhyw beth yn flaenoriaeth wedyn, ond teimlaf fod atal wedi'i wthio i lawr y rhestr o flaenoriaethau i'r man dadflaenoriaethu. Os ydym am allu cael GIG sy'n goresgyn rhai o'n heriau, mae'n rhaid inni wneud yn siŵr ein bod yn sicrhau y ceir ffocws priodol a gwariant priodol ar fesurau ataliol hefyd.

Yn olaf, Lywydd, roeddwn yn awyddus iawn i gefnogi rhan olaf y cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru heddiw ar weithrediaeth newydd y GIG, a chael pŵer i wneud newid go iawn. Rwy'n cytuno'n llwyr â’r safbwynt hwnnw. Yn sicr, ym maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig yn 2021, fe wnaethom addo creu GIG Cymru fel sefydliad ar wahân, yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, ac a fyddai, yn fy marn i, wedi lleihau biwrocratiaeth gan arwain at wneud penderfyniadau'n gyflymach ac wedi arfogi GIG Cymru yn well. Gallaf weld y Gweinidog yn ochneidio, ond efallai y gwnaiff hi fynd i'r afael â hynny yn ei sylwadau clo heddiw. Ond diolch, Lywydd.