Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 25 Ionawr 2023.
Wel, nid wyf wedi'i weld, ac nid wyf wedi cael cyfle i edrych arno, ac nid oes unrhyw syniadau newydd yn unrhyw beth a ddywedoch chi, Rhun. Rydych chi eisiau inni dalu mwy i staff y GIG, ac rwy'n cytuno'n llwyr eu bod yn haeddu cael mwy o gyflog, ond nid ydych yn dweud o ble rydym yn mynd i'w gael. Ai oherwydd bod gennym ni ryw fath o beiriant Roneo ym Mharc Cathays?