Part of the debate – Senedd Cymru am 6:41 pm ar 25 Ionawr 2023.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am ganiatáu cyfle arall imi nodi'r hyn rydym eisoes yn ei wneud i ddiwygio a chefnogi'r GIG, ar adeg pan fo dan fwy o bwysau nag y bu erioed yn ei hanes. Ac rwy'n falch o weld ein bod yn cyflawni llawer o'r pwyntiau a nodir yn y cynnig drwy gyfres o gamau gweithredu, a gweithredoedd rydym ninnau hefyd wedi'u datblygu gyda grwpiau meddygol, a gweithwyr rheng flaen, a'r mathau o sefydliadau rydych chi'n amlwg wedi bod yn ymwneud â hwy. Felly, mae'n debyg ein bod yn siarad â'r un bobl, a dyna pam ein bod wedi dod i lawer o'r un casgliadau. Ac i fod yn onest, ar y prif benawdau—ac rwy'n credu mai ddoe ddiwethaf y cyhoeddoch chi'r cynllun hwn, felly nid wyf wedi cael cyfle i edrych ar y manylion—ar y prif benawdau, nid yw'n wreiddiol iawn, ond edrychaf ymlaen at ddarllen rhai o'r manylion.
Nawr, ym mhwynt cyntaf y cynnig, mae Plaid Cymru'n cyfeirio at sylwadau a wnaed gan Gonffederasiwn GIG Cymru, sy'n awgrymu bod GIG Cymru yn wynebu pwysau na ellir ymdopi ag ef. A hoffwn nodi bod dwy filiwn o gysylltiadau'r mis yn digwydd o fewn y GIG mewn poblogaeth o 3.1 miliwn. Felly, mae'r mwyafrif helaeth o'r bobl sy'n cael cysylltiad â'r GIG yn cael gwasanaeth da. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig tu hwnt nad ydym yn colli golwg ar hynny, a dyna pam nad wyf am dderbyn bod y GIG mewn argyfwng. Ond roedd cydffederasiwn y GIG yn cyfeirio at gyfnod penodol o amser dros y Nadolig pan na fu'r galw erioed mor uchel. Ond ar ben hynny, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nodi, pan wnaethant ddatgan hyn, nad cyfeirio at Gymru'n unig a wnâi eu sylwadau, roeddent yn cyfeirio at y pwysau yn y GIG, a dywedodd y cyfarwyddwr fod y pwysau hwn i'w weld ar draws y DU, yng Ngogledd Iwerddon, yng Nghymru ac yn Lloegr.
Nawr, fe wyddom fod ein gwasanaethau iechyd a gofal o dan bwysau, a mawredd, roedd yn bwysau di-ildio dros y Nadolig. Nid ydym erioed wedi gweld cyfraddau ffliw mor uchel ers y pandemig ffliw moch yn ôl yn 2010. Cyfraddau COVID—roeddwn i'n edrych ar y canlyniadau dŵr gwastraff, ac adeg y Nadolig, roeddent drwy'r to. Ac fe ddaeth y pethau hyn i gyd at ei gilydd, a dyna pam y cawson amser gwirioneddol anodd dros y Nadolig. Ac wrth gwrs, roedd gennym lawer o rieni'n pryderu am strep A. Felly, mae hynny'n esbonio'r pwysau ac mae'r pwysau wedi lleihau'n sylweddol. Nawr, nid ydym wedi cefnu ar y pethau hyn. Mae tywydd oer yn cael effaith, felly rydym yn cadw gwyliadwriaeth yn barhaus i weld beth sy'n dod nesaf. Ond mae'n amlwg fod y pwysau a welsom dros y Nadolig wedi lleihau'n sylweddol.
Nawr, mae'r ystadegau swyddogol yn dangos bod bron i 400,000 o ymgynghoriadau ysbyty wedi'u cyflawni ym mis Tachwedd, a chafodd dros 110,000 o lwybrau cleifion eu cau. Mae hynny'n gynnydd o 4.7 y cant o'r mis cyn hynny. Ac mae'n bwysig nodi ein bod bellach yn ôl i'r lefelau cyn y pandemig, sy'n eithaf anhygoel. Peidiwn ag anghofio ein bod yn dal i fod mewn pandemig, ond rydym yn ôl i'r lefelau cyn y pandemig. Nawr, fe welodd mis Tachwedd ail gwymp yn olynol hefyd yn nifer y cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth. Rydym yn parhau i wneud cynnydd ar yr arosiadau hiraf, a gostyngodd nifer y llwybrau sy'n aros yn hwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf i gleifion allanol 10.3 y cant—felly, mae hynny am y trydydd mis yn olynol.
Nawr, roedd y cyfnod y cyfeirir ato gan GIG Cymru yn fis eithriadol, fel y dywedais, gyda'r nifer uchaf erioed o alwadau 111, ac o alwadau coch lle roedd bywyd yn y fantol i'r gwasanaeth ambiwlans. Ond mae'r gwelliannau rydym yn eu gwneud ar fyrder i'r system yn gwneud gwahaniaeth, a heb y gwelliannau hyn mae'n amlwg y byddai'r pwysau ar wasanaethau wedi bod yn fwy byth.
Mae ein gweithwyr yn y sector iechyd a gofal yn parhau i weithio'n ddiflino mewn amgylchiadau eithriadol, a hoffwn ategu sawl un yn y Siambr heddiw i gymeradwyo eu hymdrechion arwrol. Nawr, rwy'n ymwybodol iawn o'r pwysau sydd ar y gweithlu a hoffwn yn fawr allu talu mwy o arian iddynt. Rydym wedi bod o amgylch y Llywodraeth gyfan i ailflaenoriaethu, i edrych ar ein cyllidebau, i weld a oes mwy y gallwn ei roi ar y bwrdd, ac rydym wedi rhoi arian ar y bwrdd i geisio helpu'r sefyllfa eleni. Ond nid wyf yn gweld neb yn codi llaw o Blaid Cymru i ddweud, 'Rydym yn mynd i ailflaenoriaethu'r cytundebau cydweithio.' [Torri ar draws.] Nac ydych. Nid ydych wedi gwneud unrhyw ymdrech i ailflaenoriaethu eich cyllidebau. Rydym ni wedi gwneud hynny ac nid ydych chi. Ewch i egluro hynny wrth y gweithwyr ambiwlans a'r nyrsys, oherwydd nid ydych chi wedi ei wneud. Nid yw'r cynnig wedi bod yno ac mae angen ichi fynd i egluro hynny wrth yr holl bobl y dywedwch eu bod ar y rheng flaen gyda chi.