Part of the debate – Senedd Cymru am 6:26 pm ar 25 Ionawr 2023.
Rwy'n awyddus iawn i orffen, os nad oes ots gennych.
Cafodd hyn ei ddatblygu gan gyn-Weinidog iechyd Lloegr, Sajid Javid. Dyma bolisïau eich plaid. Mae am archwilio'r syniad o bobl yn talu i weld meddyg teulu—gyda phopeth y mae Sioned Williams newydd ei fynegi—ac mae'n credu mewn agor y GIG i'r farchnad rydd. Dyma sydd yn y fantol. Gyda'r Torïaid, mae bob amser yr un peth: maent eisiau crebachu'r wladwriaeth, tynnu cyllid cyhoeddus yn ôl—