Part of the debate – Senedd Cymru am 6:34 pm ar 31 Ionawr 2023.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Cyflawniad gwych, Gweinidog. Nawr, mae pobl o ardaloedd difreintiedig yng Nghymru yn wynebu canlyniadau gwaeth o ran canser yr ysgyfaint, canser yr ofari neu ganserau eraill, ac mae fy mhryder i, a godwyd gan Laura hefyd, ynglŷn â'r sgrinio—sgrinio wedi'i dargedu—rhwng 55 a 74 oed, fel yr ydym ni'n ei wneud gyda chanser y coluddyn. Ac mae'n hanfodol deall a mynd i'r afael ag achos anghydraddoldebau iechyd, a sut ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â hynny?