– Senedd Cymru am 6:00 pm ar 31 Ionawr 2023.
Eitem 9 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cynllun gwella gwasanaethau canser. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw hoffwn gyhoeddi cynllun gwella gwasanaethau canser gan GIG Cymru. Mae'r cynllun yn nodi sut y bydd y GIG, ar y cyd, yn ymateb i'r datganiad ansawdd ar gyfer canser a'n hymrwymiadau ehangach i wella gofal diagnostig a diwedd oes i bobl y mae canser yn effeithio arnyn nhw. Mae'n dilyn ymlaen o sawl dadl bwysig rydym wedi eu cynnal dros y flwyddyn ddiwethaf ar y mater o wella canlyniadau canser a fy ymrwymiad i i gyflwyno cynllun o'r fath.
Rydym yn nodi yn y fframwaith clinigol cenedlaethol y byddem yn disgrifio sut olwg ddylai fod ar wasanaethau clinigol da mewn datganiadau o ansawdd, ac y byddem yn disgwyl i'r GIG gynllunio ar sail y disgwyliadau hynny. Mae byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn gwneud hyn drwy fframwaith cynllunio'r GIG, sy'n canolbwyntio ar wasanaethau canser, ymhlith blaenoriaethau gweinidogol eraill, ac ar hyn o bryd maen nhw'n datblygu'r rhain yn eu cynlluniau tymor canolig integredig, gan nodi eu hymateb. Felly, rwyf wedi nodi chwe maes blaenoriaeth—canser yw un o'r meysydd blaenoriaeth hynny. Mae'r cynllun gwella gwasanaethau canser a gyhoeddwyd heddiw yn cefnogi'r broses honno. Mae'n disgrifio sut mae'r GIG yn bwriadu cyflawni ein bwriadau polisi.
Un o'r meysydd allweddol yn y datganiad ansawdd yw sicrhau gofal yn unol â'r amser aros am ganser. Mae hyn yn golygu y dylai 75 y cant o gleifion sydd angen triniaeth canser ddechrau triniaeth benodol o fewn 62 diwrnod i'r adeg pan gafodd canser ei amau gyntaf. Mae'r disgwyliad hwn wedi bod yn heriol iawn i'w gyflawni ac mae tri phrif reswm am hyn. Y cyntaf yw cyflwyno'r llwybr amheuaeth o ganser newydd, a ailwampiodd sut roeddem ni'n cyfrif pobl ar y llwybr canser—sy'n unigryw yn y DU—gan ddal mwy o bobl yn gynharach ar eu llwybr heb oedi'r cloc amser aros. Yr ail yw'r twf hanesyddol yn y galw am ymchwiliad i ganser a thriniaeth, a achosir gan ffactorau ein poblogaeth a gostwng y trothwy risg ar gyfer atgyfeirio, i sicrhau nad ydym yn colli unrhyw ganserau posib. Ac, yn drydydd, mae cyflawni wedi'i gyfyngu gan gapasiti ein gwasanaeth i atgyfeirio, ymchwilio, trin a gofalu am bobl y mae canser yn effeithio arnyn nhw. Yn fyr, mae'r galw'n tyfu, mae ein capasiti'n ei chael hi'n anodd cadw'i fyny, ac rydym bellach yn llawer gwell wrth gyfrif pawb ar lwybr canser yn gywir. Mae hynny'n trosi i'r perfformiad canser a welwn yn cael ei adrodd, sydd wedi bod yn llawer is na'n holl ddisgwyliadau ers cyflwyno'r llwybr amheuaeth o ganser newydd. Ac mae'n deg dweud bod y pandemig wedi cael ei effaith hefyd. Mae COVID wedi ystumio mynediad a chreu pwysau enfawr yn y system ehangach sydd wedi bod â goblygiadau i ymchwiliadau canser a mynediad i theatrau a gofal critigol.
Cynhaliais uwchgynhadledd o arweinwyr gwasanaethau canser ym mis Hydref i atgyfnerthu ein disgwyliadau cynllunio ein bod yn adfer y nifer ar y rhestr aros canser, ein bod yn lleihau nifer y bobl sy'n aros dros 62 diwrnod, ac yn bwrw ymlaen tuag at y targed hwnnw o 62 diwrnod. Mae pethau'n anodd iawn, iawn, a gwasanaethau'n gweithio'n galed iawn i ddiwallu anghenion cleifion. Ond, rwy'n falch o ddweud bod data rheoli'r GIG yn dangos gostyngiad yn nifer y bobl sy'n aros dros 62 diwrnod i'w triniaeth ddechrau rhwng mis Hydref a dechrau Rhagfyr, ac mae'n dangos gostyngiad yn y nifer cyffredinol o bobl sy'n aros ar y llwybr canser a gwelliant bach ym mherfformiad canser yn y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer mis Tachwedd. Mae hyn yn dangos bod y GIG yn rhoi'r pwyslais y maen nhw'n ei haeddu i lwybrau canser, er bod y Nadolig, gweithredu diwydiannol ac afiechydon anadlol wedi tarfu ar hynny ac wedi achosi rhagor o heriau i ni yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Fe wnaethon ni ofyn hefyd am ffocws ar weithredu'r 21 o lwybrau sydd wedi eu cytuno'n genedlaethol ar gyfer Cymru. Mae hynny'n sylfaenol i'r ffordd y byddwn ni'n gwneud yn siŵr bod cleifion yn cael y gofal iawn lle bynnag y maen nhw yng Nghymru. Mae'r llwybrau sydd wedi'u safoni yn ein helpu ni i ganolbwyntio ar wella cysondeb ac ansawdd y gofal, ac maen nhw'n cynnwys y llwybr symptomau amhenodol newydd sy'n gysylltiedig â'r canolfannau diagnosis cyflym—y rapid diagnosis centres. Bydd y canolfannau hyn yn dod ar gael i wasanaethu holl boblogaeth Cymru yn ystod y misoedd nesaf, sy'n gam ardderchog ymlaen. Mae llawer ohonyn nhw eisoes yn bodoli, a bydd y rhain mewn lle flwyddyn gyfan cyn Lloegr.
Mae'r datganiad ansawdd yn rhoi pwyslais ar ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac, yn gynharach y mis yma, mi wnes i siarad am ganlyniadau'r arolwg profiad cleifion canser. Roedd hwn yn dangos, hyd yn oed yn ystod y pandemig, fod 92 y cant o gleifion wedi dweud bod eu gofal yn 'dda' neu'n 'dda iawn'. Roedd yr arolwg hefyd yn rhoi gwybodaeth bwysig am fynediad at weithwyr allweddol a chyngor ar fudd-daliadau, a bydd hyn nawr yn rhan o waith lleol ar wella profiad cleifion.
Dwi hefyd wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn ddiweddar ar y system gwybodaeth canser. Dyma'n buddsoddiad o £11 miliwn mewn system i gymryd lle'r cofnod digidol o gleifion canser. Fe gyrhaeddon ni garreg filltir bwysig cyntaf y rhaglen gyffredinol ym mis Tachwedd, wrth i Ganolfan Ganser Felindre ddechrau defnyddio system gweinyddu cleifion Cymru i reoli clinigau, a dechrau defnyddio'r cofnod digidol newydd ar gyfer cleifion sy'n cael gofal canser. Mae hyn wedi datrys risg fawr o ran parhad gwasanaethau, sy'n rhywbeth roedd y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus wedi tynnu sylw ato.
Rŷn ni gyd yn gwybod pa mor hanfodol yw datblygu'r gweithlu, a dyna pam rŷn ni wedi ymrwymo i gynllunio'r gweithlu i gwrdd â'r angen am ofal canser yn y dyfodol. Felly, rôn i'n falch, ar 18 Ionawr, i gyhoeddi'r cynllun addysg a hyfforddiant gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Roedd hwn yn cynnwys cynnydd, am y drydedd flwyddyn yn olynol, yn y swyddi hyfforddi uwch mewn oncoleg glinigol a meddygol, yn ogystal â chynnydd pellach mewn hyfforddi radioleg glinigol a gofal lliniarol, sy'n rolau hanfodol mewn llwybrau canser.
Mae yna nifer fawr o feysydd eraill i'w nodi neu eu dathlu, gan gynnwys rhaglen llawfeddygaeth robotig Cymru gyfan, y canolfannau rhagoriaeth newydd ar gyfer canser y fron, gostwng oed sgrinio'r coluddyn, a mwy o bobl yn cymryd rhan yn y rhaglen. Ond, dwi am gloi trwy gyfeirio at ein cyhoeddiad yr wythnos diwethaf o fwy na £86 miliwn ar gyfer offer a chyfleusterau radiotherapi newydd, gan gynnwys canolfan radiotherapi ategol newydd yn y Fenni. Gyda'i gilydd, mae'r datblygiadau yma, sy'n cael eu disgrifio yn y cynllun gwella gwasanaethau canser, yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi gwell gwasanaethau a chanlyniadau canser. Dwi'n gobeithio y byddwn nhw'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r bobl sy'n darparu ac, wrth gwrs, i'r rheini sy'n derbyn gofal canser yma yng Nghymru. Diolch.
Diolch, Gweinidog, am y datganiad heddiw. Mae croeso mawr iddo, ac mae croeso mawr i'r cynllun canser yn wir hefyd. Tan y bore yma, Cymru oedd yr unig ardal o Brydain oedd heb gynllun canser, ac mae'n hen bryd cyflwyno'r cynllun canser. Ond, ar nodyn cadarnhaol, mae gennym ni'r cynllun canser heddiw, ac mae croeso mawr iddo.
Yr hyn yr oeddwn i'n hoff iawn ohono, wrth i mi edrych drwy'r cynllun gweithredu canser, oedd bod llawer iawn o amserlenni a nodau, a dyddiadau ynghlwm â'r nodau a'r targedau hefyd. Mae hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Mae'n debyg mai'r cwestiwn amlwg yw: ydych chi'n credu bod yr amserlenni sydd ynddo, a'r dyddiadau sy'n cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â'r nodau, Gweinidog, yn rhesymol? Ac ydych chi'n credu eu bod nhw'n rhesymol i'w cyflawni, am wn i, yw'r cwestiwn amlwg i'w ofyn?
Yn rhyfedd iawn roeddwn i'n edrych yn ôl, Gweinidog, a blwyddyn yn ôl i ddydd Mercher nesaf wnes i arwain dadl Senedd ar wasanaethau canser yng Nghymru. Ar y pryd, gwnaethom ni siarad am—fe wnes i yn sicr siarad am—y sgil effeithiau negyddol i lawer o gleifion a'r pwyslais a oedd ei angen ar adferiad, a llawer o bobl yn poeni am gostau ychwanegol hefyd. Ac, ar y pryd, gofynnais am rai mesurau, fel gofal deintyddol am ddim i gleifion canser, ac awgrymais y gellid cynnig hynny fel rhan o'u hadferiad, yn enwedig nawr o ystyried y pwysau costau byw yr ydym ni i gyd yn ymwybodol ohonyn nhw. Doeddwn i ddim yn gallu gweld dim byd yn y cynllun am hynny, a tybed a yw hynny'n rhywbeth y gellid ei archwilio, Gweinidog.
Ar y pryd, soniais hefyd bod nifer y bobl sy'n mynd i'r ysbyty yng Nghymru am driniaeth canser wedi gostwng dros 40,000 ym mlwyddyn gyntaf y pandemig. Felly, byddai gen i ddiddordeb pe gallech siarad ar y pwynt hwnnw, mewn gwirionedd, am sut mae'r cynllun yn benodol yn helpu'r rhai sydd wedi colli cyfle, o bosib, ar ddiagnosis hefyd.
Cyn y pandemig, gwnaeth uned gwybodaeth canser Cymru ddangos mai Cymru oedd â'r cyfraddau goroesi isaf ar gyfer chwe chanser, a'r ail isaf ar gyfer tri yn y DU. Roeddem ni eisoes y tu ôl i Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ym maes canserau benywaidd, y fron, yr ysgyfaint, y colon, y rectwm a'r stumog. Felly, byddwn i'n gofyn i chi, Gweinidog, yn hynny o beth, a ydych chi'n ffyddiog y bydd Cymru mewn sefyllfa llawer gwell pan ddaw'r cynllun hwn i ben. Mae'n debyg y dylwn i ofyn i chi am amserlen y cynllun. Mae'r cynllun am dair blynedd. Byddwn i'n gofyn pam tair blynedd. Dydw i ddim yn awgrymu ei fod yn anghywir; dim ond gofyn pam ydw i, yn benodol, amserlen tair blynedd, mae'n debyg. Ond, hefyd, gallaf weld rhai rhanddeiliaid, tra eu bod yn croesawu'r cynllun, ac fe wnaethon nhw groesawu'r cynllun tair blynedd, hefyd yn awgrymu y dylai fod cynllun mwy hirdymor. Felly, gallaf eich gweld chi'n edrych ar hynny, Gweinidog, a meddwl 'O, na mae'n gofyn am gynllun arall nawr', ond, na, dim ond i gael dealltwriaeth ar beth fyddai eich ymateb chi i randdeiliaid sy'n dweud bod angen rhywbeth mwy hirdymor hefyd.
Hefyd, hoffwn holi am gyfranogiad byrddau iechyd wrth ddatblygu'r cynllun. Ydych chi'n fodlon y bydd byrddau iechyd lleol yn gallu cyflawni'r nodau a nodir yn y cynllun, ac yn enwedig, am wn i, rwy'n gofyn y cwestiwn hwnnw yng nghyd-destun materion y gweithlu yr ydym i gyd yn ymwybodol ohonyn nhw hefyd.
Roeddwn i hefyd eisiau crybwyll profiad cleifion canser yng Nghymru. Yn eich datganiad, rydych chi'n honni bod 92 y cant o gleifion wedi dweud bod eu gofal yn 'dda' neu'n 'dda iawn'. Eto i gyd, mae'r canlyniadau a gyhoeddwyd o arolwg elusennol yn amlygu bod gwasanaethau canser yn dal i wneud tro gwael â chleifion yn aruthrol. Roedd cael gwybodaeth allan i gleifion yn faes y dangoswyd ei fod yn annigonol i raddau helaeth, gyda 30 y cant o'r ymatebwyr yn dweud nad oedd sgil-effeithiau posibl wedi'u hesbonio'n llawn iddyn nhw, neu doedden nhw ddim yn cael eu hesbonio'n llawn iddyn nhw. A dywedodd 52 y cant nad oedden nhw'n derbyn yr holl wybodaeth angenrheidiol am sut i reoli eu hiechyd a'u llesiant yn dilyn eu triniaeth. Felly, Gweinidog, rwyf eisiau deall gennych chi pa mor hyderus ydych chi y bydd pawb yn derbyn eu hasesiad anghenion personol a addawyd yn y cynllun gofal gwella canser, pan ddywedodd 70 y cant o'r ymatebwyr na wnaethon nhw hyd yn oed dderbyn cynllun gofal ysgrifenedig ar ôl eu diagnosis yn 2021-22? Diolch.
Diolch yn fawr, Russell. Rwy'n falch eich bod yn cytuno ei fod yn beth da bod gennym ddyddiadau a nodau a thargedau, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig dwyn pobl i gyfrif; rydych yn fy nwyn i gyfrif, rydw i'n dwyn y byrddau iechyd i gyfrif. Felly, mae'n bwysig cynnwys hynny, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n nodi bod gan y cynllun gweithredu gweithlu sydd wedi'i gyhoeddi heddiw dargedau clir iawn o gymharu â'r amserlen hefyd.
Mae hwn yn gynllun sydd wedi'i ddatblygu ac sy'n eiddo i'r GIG. Nid cynllun Llywodraeth Cymru mohono; mae'n eiddo i'r GIG. Ac, felly, os ydyn nhw wedi datblygu'r cynllun hwn, rwy'n llwyr ddisgwyl iddyn nhw allu cyflawni'r cynllun. Felly, maen nhw'n credu ei fod yn gyraeddadwy. Rwy'n credu bod llawer iawn o waith wedi mynd i mewn i hyn, a hoffwn dalu teyrnged i'r holl bobl sydd wedi gweithio dros gyfnod hir i gael hyn i'r sefyllfa gywir, oherwydd nid ysgrifennu cynllun yn unig mohono; mae'n rhaid i chi gael cefnogaeth o bob cwr o Gymru gyfan wrth sôn am fod angen safonau o ansawdd cyson. Allwch chi ddim gwneud datganiad am hynny yn unig; mae'n rhaid i chi gael cefnogaeth i wneud yn siŵr bod pawb yn cytuno ar hynny.
Ar y gofal deintyddol am ddim, edrychwch, ar hyn o bryd, rydych chi'n gwybod gymaint o bwysau sydd ar ein cyllidebau, felly mae unrhyw beth sy'n cynnwys unrhyw arian ychwanegol mewn gwirionedd, yn anodd iawn. Er cymaint y byddem wrth ein boddau yn mynd i lawr y llwybr hwnnw, byddai hynny'n heriol iawn ar hyn o bryd. Ond, yn amlwg, gallwn bwyntio, fel y dywedais yn fy natganiad, at y math o rwydweithiau cymorth a ffrydiau ariannu sydd ar gael, yn enwedig i bobl sy'n ei chael hi'n anodd.
Roedd COVID wrth gwrs yn taflu pethau allan am gyfnod. Rydyn ni'n mynd yn ôl ar y trywydd iawn nawr o ran sgrinio. Mae wedi cymryd amser, yn enwedig mewn perthynas â chanser y fron, oherwydd roedd angen i ni gael ardaloedd lle na fyddai pobl yn dod i gysylltiad â'i gilydd. Felly, rydyn ni wedi gorfod addasu cryn dipyn, a dim ond newydd fynd yn ôl ar y trywydd iawn gyda rhai o'r rheini ydyn ni o hyd. Ond, mae'n bryder, wrth gwrs, bod gennym gyfraddau goroesi isel yng Nghymru, ond, rwy'n credu, ei bod yn bwysig iawn i ni ddeall bod pethau wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf, mewn gwirionedd. Rydym mewn sefyllfa lle mae'r canlyniadau i bobl lawer gwell nag y buon nhw yn y gorffennol. Felly, mae'r gyfradd oroesi blwyddyn wedi mynd o 66 y cant i 73 y cant yn y ddau ddegawd diwethaf, felly, dwi'n credu, ein bod ni'n mynd i'r cyfeiriad cywir. Rydyn ni bron â dyblu faint o arian sydd wedi mynd mewn i gefnogaeth canser, felly dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod hynny.
Mae gennym gyfraddau goroesi is. Mae peth o hyn yn ymwneud â gwneud yn siŵr ein bod yn deall yr agenda ataliol. Mae'n rhaid i ni fynd i'r lle iawn. Rydyn ni'n dal ati i siarad am bwysigrwydd yr agenda ataliol, Yn ôl pob tebyg, mae modd atal rhwng 30 a 50 y cant o ganserau, felly mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i chwarae ein rhan os ydym am roi cynnig arni—. Nawr, dydy hynny ddim yn wir i bawb; mae'n bwysig iawn i ddatgan hynny, ond, mewn gwirionedd, mae yna bethau y gallwn ni eu gwneud i helpu ein hunain. Rwy'n hyderus y byddwn mewn sefyllfa well ar ddiwedd y rhaglen hon.
O ran y tymor hirach, wel, ein datganiad ansawdd canser yw ein cynllun ar gyfer y tymor hirach. Dyna'r datganiad sydd, unwaith eto, wedi ei ddatblygu gan a gyda'r GIG. Ac roedd y byrddau iechyd, fel y dywedaf i, yn allweddol i ddatblygu'r cynlluniau yma, yn enwedig, ymddiriedolaeth canser Felindre. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn i'w nodi yna—y buddsoddiad enfawr, enfawr a'r gwaith sydd wedi mynd i mewn i hyn.
Ac, wrth gwrs, pan ddaw hi at y gweithlu, y byrddau iechyd a'r ymddiriedolaethau sy'n dweud wrth AaGIC lle mae'r bylchau, ac, wedyn, maen nhw'n comisiynu'r gwaith hwnnw. A, dim ond o ran eich asesiad anghenion personol, erbyn 2024, bydd gan bob claf canser weithiwr achos, felly gobeithio y bydd hynny'n rhoi rhywfaint o gysur i bobl.
Am wn i, y peth cyntaf i'w ddweud ydy fy mod i'n falch bod gennym ni gynllun canser erbyn hyn, a dwi'n edrych ymlaen, gobeithio, i'w weld o'n gwneud gwahaniaeth. Dŷn ni'n gwybod bod ein cyfraddau goroesi ni ddim yn ddigon da. Dŷn ni'n gwybod bod yna bobl—rôn i'n siarad efo un ffeindiodd allan yn rhy hwyr dros y penwythnos yma fod canser arno fo—mae gormod o bobl yn methu â chael y driniaeth y gallen nhw fod wedi ei chael. Mae gormod o staff sydd eisiau gwneud mwy wedi methu gwneud mwy, ac mae hynny'n torri eu calonnau nhw.
Mae gennym ni gynllun, rŵan, ac edrych ymlaen sydd yn bwysig. Ond mae hi'n bwysig iawn cofio am yr oedi sydd wedi bod cyn i ni gyrraedd at y pwynt yma heddiw. Dau gynllun canser diwethaf—2012 i 2016, wedyn 2016 i 2020—a dŷn ni bron i dair blynedd yn ddiweddarach yn cael y cynllun yma. Dydy o ddim yn ddigon da. A chyn i'r Gweinidog ddweud, 'Wel, COVID oedd y broblem fawr o 2020 ymlaen', mi ddylai fod y cynllun 2020 ymlaen yn barod cyn i COVID daro. Beth gawsom ni, wrth gwrs, oedd y datganiad ansawdd, ond mi oedd hi'n berffaith amlwg nad oedd hynny'n cael ei ystyried i fod yn ddigon da gan bob corff a oedd yn ymwneud â'r frwydr yn erbyn canser yng Nghymru. Ydy, mae wedi cymryd tair blynedd i gyrraedd y pwynt yma.
Mae nifer o'r cwestiynau sydd gen i rŵan yn adlewyrchu'r rhai sy'n cael eu codi gan gyrff sydd wedi bod yn rhan o lunio hwn, ond sydd dal yn gweld ambell i gap yn y wybodaeth allweddol—Tenovus, er enghraifft, yn gofyn am ragor o wybodaeth o gwmpas monitro perfformiad ac atebolrwydd. Sut ydyn ni'n mynd i fod yn gallu adnabod a ydyn ni ar y trywydd iawn? Ydy'r cynllun yma'n gwneud yr hyn y mae o i fod i'w wneud? Tybed all y Gweinidog ddweud mwy wrthon ni am hynny?
Y gweithlu wedyn—mae natur y cwestiynau wedi newid rywfaint yn ystod y dydd, oherwydd ein bod ni, yn y llai na dwy awr diwethaf, wedi cael y cynllun gweithlu addawyd i ni erbyn diwedd mis Ionawr. Ryw bump awr a 40 munud o fis Ionawr sydd ar ôl. Nid fel hyn mae gweithredu, mae gennyf i ofyn. Mi ddylem ni fod mewn sefyllfa lle gallem ni fod â datganiad i’r Senedd ar y cynllun gweithlu. Mi ddefnyddiaf i’r cyfle i ofyn cwestiynau am y gweithlu oherwydd bod y datganiad wedi cael ei roi i ni, ond dydw i, a dwi’n siŵr y rhai sy’n ymwneud â’r frwydr yn erbyn canser, ddim yn hapus mai yn y ffordd yma mae pethau wedi cael eu gwneud.
Dwi wedi cael cyfle sydyn i fwrw golwg dros y cynllun gweithlu newydd. Roeddwn i’n bryderus y bore yma—roedd y BBC yn adrodd ar sylwadau gan y Gweinidog yng nghyd-destun y ffaith bod y gweithlu canser yn flinedig, bod yna ormod o swyddi gwag, a’r hyn a ddywedodd y BBC oedd bod y Gweinidog yn dweud bod gan y byrddau iechyd yr arian a’i bod hi i fyny iddyn nhw i flaenoriaethu. Nid dyna sy’n cynrychioli cynllun gweithlu, mae gennyf i ofyn. Ond, rŵan, mae gennym ni gynllun gweithlu, ac mae o’n dweud bod ymateb i’r heriau cynllun canser sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yma yn un o’r blaenoriaethau ar gyfer y cynllun gweithlu newydd hwnnw, ond dwi’n methu gweld beth ydy’r cynllun ar gyfer y cynllun, ar gyfer cryfhau’r gweithlu canser. Mae yna sôn am amserlenni ar gyfer gwahanol elfennau o gryfhau’r gweithlu; dwi’n methu gweld cyfeiriad at y gweithlu canser yn benodol yn yr amserlen honno. O bosibl, gall y Gweinidog egluro rhagor wrthym ni am sut yn union mae’r cynllun sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yma'n mynd i fod yn helpu i weithredu’r cynllun canser. Oherwydd, heb y gweithlu, does gennym ni ddim modd i wella’r cyfraddau goroesi, a does gennym ni ddim modd i dynnu pwysau oddi ar y gweithlu sydd gennym ni. Felly, mi edrychaf i ymlaen at ymateb ar hynny.
Ac mi ofynnaf i, os caf i, un cwestiwn ynglŷn â rhan fawr o’n tirlun canser ni, sef, Felindre. Dwi wedi bod yn ymwybodol dros yr wythnosau diwethaf fod mwy o bobl eto, fel dwi wedi gwneud yn y gorffennol, wedi awgrymu’n gryf mai cydleoli’r gwasanaethau canser efo gwasanaethau brys eraill sydd yn gwneud synnwyr, yn hytrach na'u datblygu nhw fel canolfannau canser ar eu pennau nhw eu hunain. Ydy’r Gweinidog iechyd wedi cael cyfle i ystyried y sylwadau diweddaraf gan bobl sydd yn flaenllaw iawn ym maes canser sydd yn dal i awgrymu bod y penderfyniad anghywir yn cael ei wneud? Rydyn ni eisiau’r gwasanaethau canser gorau posibl, ond dydyn ni ddim eisiau gweld penderfyniadau'n cael eu gwneud y byddwn ni’n eu difaru mewn blynyddoedd i ddod.
Diolch yn fawr. Dwi’n meddwl bod lot o bobl, yn anffodus, yn ffeindio mas bod canser gyda nhw wrth iddyn nhw fynd i’r emergency departments—dyw’r symptomau ddim yn dangos tan y funud olaf, ac mae hwnna’n amlwg yn rhywbeth sydd yn anodd iawn iddyn nhw. Rhan o beth rŷn ni’n sôn amdano yn y cynllun yma yw gwneud yn siŵr bod yna acute oncology services ar gael yn ein hunedau brys ni.
Cynllun, fel dwi wedi dweud, yr NHS yw hwn, ac mae hwn yn ymateb i’r system ansawdd sydd gyda ni. Ac o ran atebolrwydd, wrth gwrs, mae’r byrddau iechyd yn atebol i fi drwy’r cadeiryddion, ond bydd yr NHS executive gyda rôl benodol i wneud yn siŵr bod hwn yn cael ei ddelifro, felly, dwi’n gobeithio—. Ac wrth gwrs, trwy’r integrated medium-term plans, y broses IMTPs, fel rŷch chi’n gwybod, mae canser yn un o’r chwech o flaenoriaethau sydd gen i. Felly bydd monitro’r rheini a gwneud yn siŵr bod y rheini'n cael y sylw sydd ei angen yn golygu bod hwn yn un o’r blaenoriaethau.
O ran y gweithlu, mae’n anodd, onid yw e? Achos mae cymaint ar yr agenda ar hyn o bryd, mae cymaint yn mynd ymlaen, a phetasem ni ddim wedi cyhoeddi’r adroddiad HEIW heddiw, byddech chi wedi cwyno am hynny. So, roedd e'n well geni i actually gwneud beth oeddwn i’n dweud fy mod i’n mynd i’w wneud. Allaf i ddim ffitio mwy o bethau ar yr agenda—dim ond un diwrnod sydd gyda ni yr wythnos yma. Dwi eisoes wedi bod ar fy nhraed i ddwywaith heddiw. Felly, diffyg lle yw’r broblem. Rŷn ni wedi’i wneud e. Gwnes i addo y byddwn ni’n ei gael e erbyn diwedd y mis, ac mae e wedi’i delifro.
O ran cydleoli, mae'r penderfyniad ar Felindre wedi cael ei wneud. Rŷm ni wedi clywed pob ochr o'r ddadl, ac mae yna gwestiwn, wrth gwrs, o ran amseru a ble mae'r lleoliad gorau, ac ati. Mae'r penderfyniad wedi cael ei wneud, fyddwn ni ddim yn newid y penderfyniad yna, ac mi fydd y gwaith yn dechrau cyn bo hir. Ond roeddwn i'n falch iawn o weld yr £86 miliwn rŷm ni wedi gyhoeddi ddydd Gwener ar gyfer offer radiotherapi newydd. Mae hyn yn 10 peiriant newydd, dau ohonyn nhw yn mynd i fynd i'r Fenni, sy'n golygu fydd pobl ddim yn gorfod teithio cweit mor bell o ochr yna Cymru. Felly, dwi yn falch ein bod ni yn mynd i symud ymlaen a bod yr offer newydd gyda ni mewn lle.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad gonest a hefyd am eich cyflawniadau, er gwaethaf popeth rydych chi'n gorfod ei wneud yn y maes iechyd.
Roeddwn i eisiau rhannu gyda'r Aelodau drafodaeth a gynhaliwyd yng ngrŵp trawsbleidiol iechyd menywod ym mis Rhagfyr, lle gwnaethom ni drafod y pum canser gynae. Roedd un o'r siaradwyr yn ymgyrchydd cleifion cwbl ardderchog efallai eich bod chi wedi clywed amdano o'r enw Jim Sweet, y bu farw ei wraig o ganser yr ofari, ac ers hynny mae wedi datblygu'n arbenigwr go iawn mewn canser yr ofari, oherwydd iddi farw bythefnos ar ôl cael diagnosis cywir, ar ôl cael diagnosis anghywir o fod â syndrom coluddyn llidus a chael ei hanfon i'r clinig gastroenteroleg. Rwy'n credu nad yw hyn yn anarferol.
Roedd hefyd yn arbenigwr gwych o ran cymharu'r ffordd y mae'r system gofal iechyd yn trin dynion o'u cymharu â menywod, a gwn fod hyn yn rhywbeth yr ydych chi'n poeni'n fawr amdano. Cymharodd y gwasanaeth rhagorol a gafodd ar gyfer canser y prostad gyda'r gwasanaeth darniog iawn a gafodd ei wraig. Sut mae gwella hynny, oherwydd mae'n amlwg bod rhagfarn yn erbyn menywod sy'n cwyno am symptomau penodol, sydd ddim yn cael eu clywed yn ddigon eglur? A sut mae gwella ymwybyddiaeth o symptomau ar draws pob arbenigedd clinigol fel bod gastroenteroleg, er enghraifft, yn gweithio'n agos iawn gyda gwasanaethau canser, oherwydd nid yn anaml y ceir diagnosis anghywir o'r mathau hyn o bryderon gan bobl y mae'n debyg ddylai wybod llawer mwy am ganser yr ofari, a hefyd rhai o'r mesurau ataliol ynghylch bwydo ar y fron, beichiogrwydd lluosog, y bilsen atal cenhedlu, a all, yn amlwg, leihau eich tebygolrwydd o gael canser yn aruthrol, yn ogystal â'r ffaith bod wyth o bob 10 achos yn digwydd mewn menywod dros 50 oed?
Diolch yn fawr. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ymwybodol bod un o bob dau berson yn debygol o gael canser, ac felly mae canser yn effeithio arnom bob un ohonom ni mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Ac felly, mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud ein gorau glas i gael gwell dealltwriaeth. Bob dydd, ceir datblygiadau newydd, technolegau newydd a gwelliannau genetig newydd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr holl bethau hyn yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i wella'r perfformiad yn y maes hwn.
Mae diagnosis cynnar yn gwbl allweddol. Mae hynny'n wir, wrth gwrs, ar gyfer canserau gynae, ac rwy'n poeni'n arbennig am y cyfraddau o ran canserau gynae. Gwn y bydd hyn yn rhywbeth y bydd y tîm ledled Cymru yn edrych arno ac yn canolbwyntio arno. Mae sgrinio, wrth gwrs, yn gwbl allweddol o ran gwneud yn siŵr bod pobl yn manteisio ar y cyfle hwnnw o sgrinio, a'n bod ni'n mynd ar drywydd—yn yr un ffordd ag yr ydym ni wedi mynd ar drywydd pobl sydd heb gael eu brechiadau, mae angen i ni feddwl am wneud hynny o ran sgrinio hefyd.
Rydych chi yn llygad eich lle—rwy'n bryderus iawn bod angen i'r system gofal iechyd wneud yn siŵr eu bod nhw'n trin menywod yn deg, yn gywir, ac mewn ffordd sy'n parchu menywod yn ogystal â dynion. Dyna pam rydym ni eisoes wedi llunio'r datganiad ansawdd iechyd menywod, ac rydych chi'n hollol iawn, rwy'n credu bod llawer mwy y gallem ni i gyd ei wneud o ran dysgu beth i gadw llygad amdano o ran ymwybyddiaeth o symptomau. Mae rhai o'r elusennau sy'n sicr wedi bod yn siarad â mi wrth i ni ddatblygu'r cynllun hwn, maen nhw'n dda iawn am godi ymwybyddiaeth, ond rwy'n credu bod gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i geisio dysgu ychydig mwy am yr hyn y ddylem ni fod yn cadw llygad amdano. Ond y pwynt yw ein bod ni, mewn gwirionedd, yn adnabod ein cyrff ein hunain; os oes newid, mae angen i ni fod yn sensitif i'r newid hwnnw a gwneud yn siŵr ein bod ni'n mynd i gael cymorth.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n falch o weld datganiad a chynllun heddiw o'r diwedd, gan fod fy etholwyr wedi bod yn aros am amser maith iawn i hyn ddwyn ffrwyth. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig, a fy nghyd-Aelod yma, Russell George wedi bod yn galw am gynllun canser ers amser maith bellach, a Chymru oedd yr unig wlad yn y DU lle nad oedd y Llywodraeth wedi cyhoeddi cynllun canser am lawer rhy hir. Felly, rwy'n croesawu hynny heddiw.
Ond, Gweinidog, roeddwn i eisiau trafod canserau y mae'n fwy anodd eu goroesi. Cyfeirir at y rhain yn y cynllun, sydd i'w groesawu, ond rwy'n ymwybodol bod ymgyrchoedd cyfathrebu Llywodraeth Cymru, yn y gorffennol, wedi bod yn wael. Felly, o ran ymwybyddiaeth o symptomau, a fyddwch chi'n sefydlu ymgyrch ymwybyddiaeth o symptomau canser i helpu aelodau'r cyhoedd a meddygon teulu? Ac o ran un o'r canserau sy'n peryglu bywyd fwyaf, canser yr ysgyfaint, a fyddwch chi'n cynyddu ac yn gweithredu archwiliadau iechyd yr ysgyfaint wedi'u targedu, a allai achub dros 100 o fywydau'r flwyddyn ar ôl eu cyflwyno yng Nghymru? Ac a fydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu argymhellion Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU? Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Wel, wrth gwrs, mae llawer o ymgyrchoedd sydd eisoes ar y gweill o ran canserau y mae'n fwy anodd eu goroesi gan rai o'r sefydliadau hynny. Yr hyn nad wyf i'n mynd i'w wneud yw—. Rwyf i newydd gyhoeddi cynllun; dydyn ni ddim yn mynd i ddechrau ychwanegu pethau newydd at y cynllun. Datblygwyd hwn gan bobl, gweithiwyd arno gan sefydliadau ledled Cymru, gan y GIG. Felly, yr hyn sydd yna yw'r hyn yr ydym ni'n mynd i'w gyflawni, ac nid ydym ni'n mynd i ychwanegu unrhyw beth newydd ato, oherwydd mewn gwirionedd mae wedi cael ei gynllunio yn ofalus iawn. Ond mae pethau o ran sgrinio'r ysgyfaint, er enghraifft, ac mae cynllun peilot yr ydym ni'n ei gynnal yn hynny o beth, ac yn amlwg byddwn ni'n gweld sut mae'r cynllun peilot hwnnw'n mynd. A nod hwnnw yw targedu pobl sydd wedi bod yn smygwyr ac ati mewn ardal benodol. Felly, rydym ni'n mynd i weld sut mae hynny'n mynd, ac, yn amlwg, byddwn yn adeiladu ar hwnnw os yw hwnnw'n gweithio.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae gen i ddiddordeb go iawn mewn gwybodeg y GIG a sut y gellir ei defnyddio i wella gwasanaethau. Felly, nodaf eich sylwadau ynghylch systemau digidol a Chanolfan Ganser Felindre yn symud i system gweinyddu cleifion Cymru, ac roedd yn ddiddorol gen i ddarllen eich datganiad ysgrifenedig ddoe ar y rhaglen gwybodeg canser. Felly, mae gen i ambell gwestiwn am hynny, ac, yn benodol, am gam nesaf y cyflwyniad. A allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y garreg filltir arwyddocaol nesaf sy'n cael ei hanelu ato ar y daith hon o welliant, a phryd ydych chi'n rhagweld y gallem ni gyrraedd y garreg filltir nesaf honno? Roedd yn ddiddorol gen i hefyd weld eich sylwadau ar gasglu data ychwanegol drwy'r system hon. Felly, pa wybodaeth benodol fyddai Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei chasglu yn ystod camau nesaf hyn y cyflwyniad?
Diolch yn fawr iawn. Wel, rwy'n awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod ni'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i geisio gwella ein systemau. Dyna pam rydym ni eisoes wedi gwario £86 miliwn ar y peiriannau radiotherapi newydd hyn; dyna pam rydym ni wedi gwario £3 miliwn ar system cofnodion electronig; ac mae gennym ni hefyd dechnoleg llawfeddygaeth robot newydd eisoes yn weithredol ac yn gweithio ac yn cyffroi llawer o lawfeddygon ledled Cymru. Felly, mae gwneud yn siŵr ein bod ni'n defnyddio'r peiriannau a'r therapïau ddiweddaraf yn gwbl hanfodol. Rydym ni hefyd wedi gwario £4 miliwn ar rwydwaith canser Cymru, a chefais fy holi'n gynharach am sut rydym ni'n monitro hyn. Wel, mewn gwirionedd, mae'r rhwydwaith canser yn mynd i fod yn allweddol i wneud yn siŵr bod y cynllun hwn, mewn gwirionedd, yn cael ei ddarparu. O ran gwybodeg a chasglu data, wel, mae'r manylion a'r amserlenni wedi'u nodi yn y cynllun o'r hyn a ddisgwylir a phryd. Ond, o ran casglu gwybodaeth, y peth allweddol i mi yw ein bod ni'n parhau i ddysgu gan bobl a'u profiadau, a'n bod ni'n rhoi adborth ar sail gylchol a fydd yn gwella ein gwasanaethau yn gyson, o ran gofal canser.
Ac yn olaf, Altaf Hussain.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Cyflawniad gwych, Gweinidog. Nawr, mae pobl o ardaloedd difreintiedig yng Nghymru yn wynebu canlyniadau gwaeth o ran canser yr ysgyfaint, canser yr ofari neu ganserau eraill, ac mae fy mhryder i, a godwyd gan Laura hefyd, ynglŷn â'r sgrinio—sgrinio wedi'i dargedu—rhwng 55 a 74 oed, fel yr ydym ni'n ei wneud gyda chanser y coluddyn. Ac mae'n hanfodol deall a mynd i'r afael ag achos anghydraddoldebau iechyd, a sut ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â hynny?
Diolch yn fawr iawn. Wel, rydych chi'n iawn, ac rwy'n credu fod yn rhaid i ni geisio dysgu yn barhaus o'r hyn sy'n gweithio. Felly, er enghraifft, rydym ni bellach yn targedu sgrinio o ran canser y coluddyn, ac anfonir prawf imiwnocemegol ar ysgarthion i bobl, ac mae wedi bod yn ddiddorol iawn gweld ei bod yn ymddangos bod pobl yn fwy parod i ddefnyddio'r prawf FIT y gallan nhw ei wneud gartref, yn hytrach na dod i feddygfa ac ati. Felly, mae'n rhaid i ni ddefnyddio mwy o'r hyn sy'n gweithio a gwneud yn siŵr ein bod ni'n targedu, fel rydych chi'n dweud, rhai o'r ardaloedd difreintiedig hynny. Ac mae gwaith gwych yn cael ei wneud, er enghraifft, rwy'n credu, yn etholaeth Dawn Bowden o ran ceisio annog dynion yn arbennig i fanteisio ar y cyfle i sgrinio am ganser y coluddyn, ac mae Sefydliad Moondance wedi bod yn gwthio hyn ac yn ceisio gwneud yn siŵr ein bod ni, mewn gwirionedd, yn ymgysylltu â phobl, yn cael pobl i fanteisio ar y cyfleoedd pan y'u rhoddir iddyn nhw. Ac felly rwy'n credu ein bod ni wedi dysgu cryn dipyn drwy'r rhaglen frechu o adael neb ar ôl, ac mae'n rhaid i ni barhau i ddefnyddio'r technegau hynny nawr o ran mynd ar drywydd pobl sydd ddim yn manteisio ar y cyfleoedd hynny pan ddaw i sgrinio.
Diolch i'r Gweinidog.