Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 31 Ionawr 2023.
Diolch. Wel, fel sy'n digwydd yn Lloegr, mae'r Gweinidog yn gweithio'n agos iawn gyda datblygwyr, er enghraifft, ac rwy'n gwybod, ynghylch cytundeb y datblygwyr, mae'r Gweinidog wedi bod yn gwneud hynny. Mae hi hefyd wedi sicrhau bod Aelodau'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf, felly rwy'n gwerthfawrogi y bydd gennych yr wybodaeth honno eisoes hefyd. Mae'n amlwg bod y Gweinidog yn cydweithio'n agos â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i weld pa agweddau o'r ddeddfwriaeth y gallwn ni edrych arnyn nhw, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni.