1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 31 Ionawr 2023.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch. Cyn i mi ddechrau, gyda'ch caniatâd chi, Llywydd, hoffwn uniaethu â'r sylwadau rydych chi a'r Trefnydd wedi eu rhoi ar y cofnod mewn cysylltiad â'r newyddion ysgytwol fod y Prif Weinidog wedi colli'i wraig dros y penwythnos. Ar ôl cwrdd â Clare ar sawl achlysur yn fy swyddogaeth yn arweinydd yma ac fel AS hefyd, rwy'n sylweddoli mai unigolyn hynod o garedig a thrugarog oedd hi a pha mor ymroddedig oedd y ddau i'w gilydd. Rwy'n gobeithio'n fawr fod y teimladau y mae pawb yn eu mynegi yn fath o gysur, ac rwy'n defnyddio'r gair 'fath' o gysur oherwydd ni fydd unrhyw beth byth yn gwneud yn iawn am golli eich partner bywyd. Estynnaf gydymdeimlad, gweddïau a dymuniadau gorau'r Ceidwadwyr Cymreig i deulu'r Prif Weinidog ac i'r Prif Weinidog ei hun.
Trefnydd, yn eich swyddogaeth flaenorol yn Weinidog adeiladu a Gweinidog cynllunio, byddwch yn ymwybodol iawn o'r materion sy'n ymwneud â diogelwch adeiladau yma yng Nghymru. Roedd llawer o ddyfalu a siarad yn y wasg ar y penwythnos mewn cysylltiad â'r mesurau adfer sydd wedi cael eu rhoi ar waith ar draws y Deyrnas Unedig, ond yn arbennig yma yng Nghymru. Drwy Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022 sydd wedi'i phasio yn San Steffan, mae mesurau i wneud yn siŵr y gellir adfer adeiladau pobl sy'n byw yn yr hyn a elwir yn 'adeiladau amddifad', sef adeiladau a gafodd eu codi gan gwmnïau sydd wedi chwalu ar ôl i'r prosiect ddod i ben, gyda rhwymedigaethau gwaith adfer yn disgyn ar y cwmnïau hynny. A fyddwch chi, fel Llywodraeth, yn codi'r mesurau hynny a'u hymgorffori yng nghyfraith Cymru yma, fel y gall trigolion sy'n eu cael eu hunain mewn adeiladau tebyg gael yr amddiffyniadau hynny? Rwy'n sylwi bod Mike Hedges wedi codi'r union fater gyda chi mewn cwestiynau busnes dim ond pythefnos yn ôl.
Diolch. Wel, fel sy'n digwydd yn Lloegr, mae'r Gweinidog yn gweithio'n agos iawn gyda datblygwyr, er enghraifft, ac rwy'n gwybod, ynghylch cytundeb y datblygwyr, mae'r Gweinidog wedi bod yn gwneud hynny. Mae hi hefyd wedi sicrhau bod Aelodau'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf, felly rwy'n gwerthfawrogi y bydd gennych yr wybodaeth honno eisoes hefyd. Mae'n amlwg bod y Gweinidog yn cydweithio'n agos â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i weld pa agweddau o'r ddeddfwriaeth y gallwn ni edrych arnyn nhw, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni.
Arweinydd, mae sawl blwyddyn bellach, yn amlwg, ers trychineb Grenfell. Mae'r ymchwiliad i drasiedi Grenfell wedi dod â'i waith i ben, ac rydym yn aros am ei adroddiad. Fel y dywedais i, yn Senedd y DU, pasiwyd y ddeddfwriaeth i roi cysur i drigolion sy'n byw yn yr adeiladau amddifad hyn—mae un yn llythrennol ychydig i fyny'r ffordd o'r lle hwn—sy'n eu cael eu hunain yn y sefyllfa erchyll o beidio â gwybod a fydd gwaith cyweirio yn cael ei wneud, ac maen nhw'n byw mewn eiddo sy'n anwerthadwy nawr ac mewn ofn am eu bywydau yn y bôn, oherwydd y gweithgarwch tân a allai ddigwydd yn yr adeiladau hynny o bosib. Roeddwn wedi gobeithio cael ateb mwy sylweddol gennych, o ystyried yr amser a aeth heibio ers trychineb tân Grenfell, ond rwy'n erfyn arnoch chi a'r Llywodraeth i ystyried y mesurau hynny er mwyn rhoi sicrwydd i'r trigolion hynny y byddant yn cael iawndal i drwsio'r difrod.
Ond peth arall a ddywedwyd gan Weinidog y DU, Michael Gove, oedd, pryd mae cwmnïau'n gwrthod anrhydeddu eu hymrwymiadau i gyweirio’r adeiladau hyn, y bydden nhw'n gosod mewn cyfraith y gallu i atal y cwmnïau hynny rhag gweithio, adeiladu adeiladau'r dyfodol, yn y gymdogaeth honno. A fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried mabwysiadu mesurau o'r fath yma ar frys, er mwyn rhoi mwy o rym i chi pan fyddwch chi'n trafod â'r cwmnïau hyn, er mwyn— os nad oedden nhw'n gallu adeiladu i safon dda yn y gorffennol, sut allwn ni fod yn ffyddiog y byddan nhw'n adeiladu i safon dda yn y dyfodol? Ac mae angen y newid deddfwriaethol hwnnw yma i roi'r gallu i'r Gweinidog fynd i'r trafodaethau hynny ac atal y cwmnïau hyn rhag gwneud yr hyn a wnaethant o'r blaen.
Felly, mewn cysylltiad â rhan gyntaf eich cwestiwn ynghylch cyweirio, rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau rhaglen waith y gellir ei hamlinellu, fel bod pobl yn ffyddiog, oherwydd ni allaf ddychmygu dim byd gwaeth na bod yn berchen ar gartref a gwybod am y drychineb posibl a allai ddod i'w ran. Ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog hefyd yn gweithio'n agos iawn, fel y dywedais i, gyda Llywodraeth y DU, ac wedi bod yn cael trafodaethau gyda Michael Gove ynghylch yr amddiffyniad hwnnw, fel y cyfeirioch chi ato, gyda datblygwyr nad ydyn nhw'n ystyried y gofynion fydd arnyn nhw, pan fyddant yn adeiladu yn y dyfodol. Felly, ie, yr ateb byr i'ch cwestiwn yw 'byddwn'.
Diolch am hynny. Rwy'n falch o glywed hynny, ac rwy'n siŵr y bydd trigolion a grwpiau gweithredu ledled Cymru, yr effeithir arnyn nhw gan hyn yn falch hefyd o glywed yr ymateb yna. Gair nad yw wedi cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, ond, ddydd Sul, a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth y DU, oedd ymddiheuro am y diffygion yn yr amgylcheddau rheoleiddio adeiladu a oedd yn caniatáu i'r adeiladau hyn gael eu codi yn y lle cyntaf, ac, yn y pen draw, arwain at y sefyllfa yr ydym ynddi ar hyn o bryd. O ystyried eich safle yn y Llywodraeth, a fyddwch yn ymddiheuro heddiw, yn debyg i'r modd yr ymddiheurodd Llywodraeth y DU ar y penwythnos, drwy Michael Gove? Oherwydd, er na fydd yn cyweirio'r adeiladau, bydd yn rhoi llawer iawn o gysur i'r unigolion a'r trigolion hynny sy'n cael eu hunain yn y sefyllfa anffodus hon heb fod yna unrhyw fai arnyn nhw.
Wel, wrth gwrs, mae'n ddrwg iawn gennym fod unrhyw un yn gorfod byw gyda'r pryderon hynny. Ond, fel rwy'n dweud, roedd hi'n bwysig iawn ein bod ni wedi cymryd cam yn ôl ac edrych ar ba waith y gellid ei wneud, ac, fel rwy’n dweud, mae gan y Gweinidog raglen waith i gynorthwyo'r bobl yma.
Arweinydd Plaid Cymru nawr—Adam Price.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A gaf innau, ar ran grŵp Plaid Cymru yn y Senedd, ond hefyd ar ran y blaid yn fwy eang, estyn ein cydymdeimladau dwysaf ni hefyd i'r Prif Weinidog ar ei golled? Mae'n ergyd y mae'n anodd amgyffred â hi, a dweud y gwir, ac rŷn ni eisiau gwneud yn sicr ei fod e'n ymwybodol faint o gefnogaeth rŷn ni eisiau dangos iddo fe yn y cyfnod anodd yma, ac mae hynny, fel sydd wedi cael ei ddweud eisoes, yn cael ei rannu mor eang. Mi oeddwn i yng nghynhadledd Melin Drafod ar y penwythnos, ac mi oedd pobl yno hefyd wedi teimlo yr ergyd o'r golled yma a'r ing y mae'r Prif Weinidog yn ei wynebu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau'r broses rownd gyflogau'r GIG yn ffurfiol ar gyfer 2023-24 drwy anfon llythyr cylch gwaith at gorff adolygu cyflogau'r GIG. Cafodd tystiolaeth Llywodraeth Cymru i'r corff adolygu cyflogau, ynghyd â'r llythyr, ei anfon ar 11 Ionawr, yr un diwrnod pan ddywedodd yr undebau iechyd nad oedden nhw bellach yn barod i ymgysylltu â phroses corff adolygu nad oedden nhw'n ymddiried ynddi bellach, gan alw yn hytrach am drafodaethau uniongyrchol gyda'r Llywodraeth ar gyfer y flwyddyn nesaf. Pam dechrau anghydfod newydd gyda'r undebau dros gyflog y flwyddyn nesaf hyd yn oed cyn i'r anghydfod cyflog eleni gael ei ddatrys? Sut mae hynny'n mynd i ailadeiladu ymddiriedaeth y gweithlu?
Diolch. Fel y gwyddoch chi, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i ymgysylltu ag undebau llafur. Rwy'n gwybod bod ei swyddogion hi wedi cwrdd â'r undebau llafur heddiw ac rwy'n credu eu bod nhw'n bwriadu cwrdd eto'r wythnos nesaf. Rydyn ni eisiau cadw ein drws ar agor; rydyn ni eisiau parhau i gael trafodaethau, yn amlwg, i gefnogi ein staff GIG. Fel y dywedoch chi, mae'r Gweinidog nawr yn edrych at y flwyddyn nesaf, oherwydd yn y broses, mae'n rhaid i chi wneud hynny. Ond, rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig iawn yw ein bod, yn wahanol i Loegr, wedi cadw'r ymgysylltu hwnnw â'n hundebau llafur i sicrhau eu bod yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnyn nhw.
Hefyd, dylwn i ddweud, ar draws Llywodraeth Cymru, fod pob Gweinidog yn edrych i weld pa gyllid ychwanegol y gallwn ni ei gyflwyno—rydyn ni'n edrych ar ein tanwario ac rydyn ni'n edrych ar ein cronfeydd wrth gefn—i geisio rhoi mwy o arian i'r pot hwnnw o arian rydyn ni eisiau ei roi nid yn unig i'n staff yn y GIG, ond i'n hathrawon a'n gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus. Os bydd hynny'n digwydd, fyddwn ni ddim yn gallu gwneud pethau eraill. Felly, dydw i ddim eisiau tanbrisio'r gwaith yr ydym yn ei wneud, fel Llywodraeth Cymru, i geisio datrys hyn.
Rydych chi'n dweud eich bod wedi mabwysiadu dull gwahanol i Lywodraeth y DU, ond mae'r llythyr cylch gwaith rydych chi wedi'i anfon yn adlewyrchu un Llywodraeth y DU yn union, wrth bwysleisio fforddiadwyedd. Rydych chi hefyd yn diffinio beth mae fforddiadwyedd yn ei olygu—y swm yr ydych chi, fel Llywodraeth, yn gallu fforddio ei dalu—oherwydd rydych chi'n dweud yn y llythyr:
'Yn absenoldeb cynnydd mewn cyllid gan Lywodraeth y DU, bydd angen i unrhyw newidiadau i delerau ac amodau staff y GIG ddod o gyllidebau sy'n bodoli eisoes.'
Y broblem yw nad yw hynny'n wir, gan y gallech gynyddu trethi incwm, a fyddai'n golygu y gallech fforddio cynnig cyflog tecach. Pam na wnaethoch chi gynnwys yr opsiwn hwnnw i'r corff adolygu cyflogau ei ystyried, os yw hon yn broses wirioneddol annibynnol?
Wel, yn anffodus, byddai hyd yn oed cynnydd o 1 y cant dim ond yn rhoi—rwy'n credu ei fod tua £55 miliwn, sydd, yn amlwg, ddim yn agos at fod yn ddigon o arian ar gyfer yr hyn sydd ei angen arnom. Yr hyn sydd ei angen arnom yw cynnydd yn ein cyllideb. Byddwch chi'n gwybod beth yw'r holl anawsterau—o fod yn y cytundeb cydweithredu, byddwch chi'n gwybod yr holl ffeithiau a'r ffigurau sy'n ymwneud â'n cyllideb. Rydyn ni'n gwybod bod angen rhagor o gyllid arnom gan Lywodraeth y DU i'n galluogi ni i fodloni nid yn unig galwadau o ran cyflog gweithlu'r GIG ond eraill hefyd.
Rydyn ni'n deall pam nad yw pobl nad ydyn nhw, mae'n debyg, erioed wedi mynd ar streic o'r blaen yn teimlo'r angen i wneud hynny, oherwydd ar ôl degawd o gyni, ac mae gennym ni'r argyfwng costau byw erbyn hyn, mae gennym ni ragfynegiadau o chwyddiant a rhagfynegiadau pellach o ddirwasgiad, rydyn ni'n deall yn llwyr bryderon ein gweithlu am eu safonau byw—maen nhw'n credu y gallen nhw gael eu herydu neu eu bod yn cael eu herydu nawr. Felly, fe wnaethom yn glir, heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU, fod cyfyngiadau ar ba mor bell y gallwn fynd. Ond, ni fyddai eich awgrym chi'n sicrhau maint y cyllid sydd ei angen arnom.
Rwy'n credu efallai bod y Trefnydd wedi camddweud yma, oherwydd byddai cynnydd o 1 y cant, yn ôl eich ffigurau chi'ch hun, yn lefel treth incwm ym mhob band yn codi £273 miliwn. Mae'r hyn rydych chi'n cyfeirio ato—y £55 miliwn—yn gynnydd o 1 y cant ym mil cyflog y GIG. Felly, mewn gwirionedd, gan ddefnyddio'ch pwerau treth incwm, gallech gyflawni cynnig cyflog sylweddol uwch na'r un rydych chi'n ei gynnig ar hyn o bryd.
Nawr, yn eich tystiolaeth i'r corff adolygu cyflogau, rydych chi'n adrodd bod nifer swyddi gwag staff y GIG wedi cynyddu o 1,925 yn haf 2020 i 3,305 ddwy flynedd yn ddiweddarach—cynnydd o dros 70 y cant. Ac mae hyd yn oed hynny, rydych chi'n cyfaddef, yn amcangyfrif rhy isel o'r gwir ffigur. Mae gwariant asiantaeth, rydych chi'n cadarnhau, wedi mwy na threblu dros y saith mlynedd diwethaf i'r ffigur uchaf erioed o £271 miliwn, sy'n cyfateb i fwy na 5 y cant o gyfanswm bil cyflog y GIG. O fis Mehefin 2021 i fis Mehefin 2022, mae cyfraddau salwch yn y GIG, yn ôl eich tystiolaeth eich hun, wedi codi o 5.7 y cant o'r holl staff i 7.1 y cant. Yn y cyfamser mae cyfran y nyrsys a'r bydwragedd sy'n gadael y GIG wedi codi o 6.5 y cant i 7.6 y cant. Swyddi gwag, cyfraddau salwch i fyny, gwariant asiantaeth i fyny, cyfraddau gadael i fyny. Yr unig beth sy'n mynd i lawr, Trefnydd, yw morâl y staff a'u hymddiriedaeth yn y Llywodraeth Lafur yma. Beth yw eich cynllun i wella'r sefyllfa hon?
Wel, yn ôl y ffigurau sydd gen i o fy mlaen ynghylch ystadegau gweithlu'r GIG—ac mae hyn yn ymwneud â staff sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol—mae'r gweithlu bellach ar y lefelau uchaf erioed. Mae gennym fwy na 105,000 o bobl, 90,943 cyfwerth ag amser llawn, yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan sefydliadau GIG Cymru. Mae'r holl staff—rydych chi'n sôn am nyrsys, rydych chi'n sôn am staff meddygol a deintyddol, meddygon ymgynghorol, nyrsys cofrestredig, bydwragedd cofrestredig, staff gwyddonol, therapiwtig, technegol—gallwn fynd ymlaen—yr holl therapyddion, maen nhw i gyd i fyny dros y tair blynedd diwethaf. Mae gen i'r ffigurau i gyd o fy mlaen.
Rydyn ni'n gweithio'n galed iawn i recriwtio. Gyda fy het AS ymlaen, cwrddais â phrif weithredwr dros dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddydd Gwener diwethaf a gwrando ar yr hyn maen nhw'n ei wneud fel bwrdd iechyd i geisio denu mwy o staff. Mae llawer o staff nyrsio yn arbennig yn rhoi eu cynlluniau ymddeol ar stop, er enghraifft, pan wnaeth y pandemig ein taro, a nawr, rydym yn gweld mwy o bobl eisiau bwrw ymlaen â'r cynlluniau ymddeol hynny. Felly, roedd yn dda clywed gan y bwrdd iechyd arbennig hwnnw am y cynlluniau y maen nhw'n eu llunio. Byddwch yn ymwybodol o'r ysgol feddygol yr ydym yn ei chael yn y gogledd—felly, i fyny yn y gogledd, mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud i ddenu staff newydd. Ond mae'n bwysig ein bod ni'n edrych yn rhyngwladol hefyd, cyn belled â'i bod hi'n foesegol gywir recriwtio staff yno, ac eto, rwy'n gwybod bod byrddau iechyd yn gwneud hynny, hefyd.