Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 31 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:52, 31 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Rydych chi'n dweud eich bod wedi mabwysiadu dull gwahanol i Lywodraeth y DU, ond mae'r llythyr cylch gwaith rydych chi wedi'i anfon yn adlewyrchu un Llywodraeth y DU yn union, wrth bwysleisio fforddiadwyedd. Rydych chi hefyd yn diffinio beth mae fforddiadwyedd yn ei olygu—y swm yr ydych chi, fel Llywodraeth, yn gallu fforddio ei dalu—oherwydd rydych chi'n dweud yn y llythyr:

'Yn absenoldeb cynnydd mewn cyllid gan Lywodraeth y DU, bydd angen i unrhyw newidiadau i delerau ac amodau staff y GIG ddod o gyllidebau sy'n bodoli eisoes.'

Y broblem yw nad yw hynny'n wir, gan y gallech gynyddu trethi incwm, a fyddai'n golygu y gallech fforddio cynnig cyflog tecach. Pam na wnaethoch chi gynnwys yr opsiwn hwnnw i'r corff adolygu cyflogau ei ystyried, os yw hon yn broses wirioneddol annibynnol?