Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 31 Ionawr 2023.
Gan weithio mewn partneriaeth â phlismona gwrthderfysgaeth, rydym wedi cynhyrchu fideos ac adnoddau ar atal radicaleiddio ac eithafiaeth, a gyflwynir mewn ysgolion gan ein swyddogion SchoolBeat. Mae ein bwrdd Prevent yn dod â phartneriaid at ei gilydd i oruchwylio gweithgareddau yng Nghymru sydd wedi'u cynllunio i amddiffyn y rhai sydd fwyaf agored i radicaleiddio.