Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 31 Ionawr 2023.
Rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein gweithlu yn y GIG i wella profiad i gleifion a staff, gan gynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer lleoedd hyfforddi ychwanegol i barafeddygon ac ystod o broffesiynau iechyd eraill yn 2023-24. Dyma'r nawfed flwyddyn yn olynol i gyllidebau addysg a hyfforddiant proffesiynol iechyd gynyddu yng Nghymru.