Gweithwyr Ambiwlans

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 31 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:16, 31 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Trefnydd. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn falch o sefyll ar y llinell biced gyda gweithwyr ambiwlans ym Merthyr Tudful. Doedd dim un o'r parafeddygon a gweithwyr ambiwlans hynny eisiau bod ar streic—roedden nhw eisiau gweithio, oherwydd bod eu bywydau'n troi o gwmpas achub bywydau pobl eraill. Ond roedden nhw'n teimlo nad oedd ganddyn nhw ddewis gan fod eu cyflog yn mynd i lawr ac mae'r pwysau'n codi. Ond, i ffwrdd o gyflog ac amodau, roedden nhw'n siarad â mi am straen iechyd meddwl, sut mae trawma wedi dod yn gyffredin iddyn nhw, gweld pobl yn marw, a gweld gofid a phoen a galar pobl eraill, o ddydd i ddydd. Roeddwn i'n bryderus iawn o glywed nad yw'r cymorth rheoli risg trawma bob amser yn ddigon. Fe wnaeth un o'r parafeddygon ddisgrifio peth gwirioneddol ofnadwy oedd wedi digwydd ar ei shifft, a oedd yn cynnwys rhywun yn marw, a doedd rywsut ddim yn gymwys ar gyfer y gefnogaeth drawma honno. Felly, a allai Llywodraeth Cymru edrych ar frys eto ar y gefnogaeth sy'n cael ei chynnig i'r bobl sydd â'r swydd o'n cefnogi ni pan fyddwn ni mewn angen dirfawr? Sut allwn ni sicrhau ein bod ni'n rhoi digon o help i'r helpwyr?