Lleihau Amseroedd Aros yn y GIG

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 31 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sarah Murphy Sarah Murphy Labour 2:12, 31 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Felly, rhywfaint o newyddion da: rwy'n falch iawn o ddweud bod yr adran trawma ac orthopedig yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi ennill gwobr arloesedd MediWales ar ddiwedd 2022 yng nghategori gwobr 'gweithio gyda'r diwydiant' GIG Cymru. Enillwyd y wobr gan mymobility, sy'n ap digidol gofal iechyd y mae cleifion yn ei lawrlwytho i'w ffonau clyfar, ac yna mae'n anfon fideos a chanllawiau rhagsefydlu ac adsefydlu ôl-lawdriniaeth y gellid eu haddasu pan fo pobl yn cael clun a phen-glin newydd.

Nid yn unig y llwyddodd ein tîm yn Ysbyty Tywysoges Cymru Pen-y-bont ar Ogwr i ennill y wobr, ond mae mymobility yn rhan o gwmni byd-eang sy'n arwain mewn technoleg feddygol sef Zimmer Biomet, sydd â'i ffatri gyflenwadau meddygol hefyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac sy'n cynnig swyddi medrus, gwaith teg, swyddi sy'n cydnabod undebau llafur i'r etholwyr ar draws fy nghymuned, yn ogystal ag etholaeth Ogwr Huw Irranca-Davies. Hefyd, roeddwn i eisiau dweud 'diolch' i'n Gweinidog iechyd, wnaeth ymweld â nhw gyda ni'r llynedd. Yn ôl Dr Kotwal, sy'n llawfeddyg orthopedig ymgynghorol fu'n arwain y prosiect, mae adborth cleifion wedi bod yn 'wych'.

'Mae gennym ni gleifion...rhai yn eu 80au, sy'n defnyddio'r ap ac yn ei hoffi'n fawr iawn.'

Mae'r ap hefyd yn lleihau'r nifer o ymweliadau â'r ysbyty a galwadau ffôn, oherwydd eu bod nhw'n gallu cyfathrebu gan ddefnyddio'r ap yn unig, ac maen nhw eisiau ei ehangu i lawdriniaeth ar yr ysgwydd. Felly, Gweinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn gwerthuso mentrau arferion da fel mymobility, ac ehangu ledled Cymru i leihau rhestrau aros a chynyddu capasiti? Diolch.