Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 31 Ionawr 2023.
Diolch. Hoffwn longyfarch Cwm Taf ar ennill eu gwobr. Mae nifer o wasanaethau digidol tebyg ar gael yn y farchnad, ac rwy'n gwybod bod byrddau iechyd yn gweithio gyda nifer o ddarparwyr i ddeall sut y gallant effeithio ar ddarparu gwasanaethau, ac mae hynny'n cynnwys teclyn sydd wedi ei dreialu o dan y fenter ymchwil busnesau bach, sy'n cael ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ar draws tri bwrdd iechyd ac ar draws nifer o arbenigeddau clinigol. Rydym yn cydnabod yn llwyr y gwerth y gall y gwasanaethau digidol hyn ei gynnig wrth drawsnewid gofal wedi'i gynllunio ar gyfer ein cleifion, ac mae hynny, yn amlwg, hefyd yn cyfrannu at ein nod o ofal yn agosach at gartref.
Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig iawn yw bod yr offer digidol rydyn ni'n ei fabwysiadu yn cael eu trosoli ar sail Cymru gyfan, fel eu bod yn gallu cyfnewid data yn ddiogel. Rwy'n credu bod rhannu data mor bwysig ar draws ein gwasanaethau iechyd yma yng Nghymru. Dydyn ni ddim eisiau i ddata gael ei gloi o'r neilltu a pheidio cael ei rannu, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod y data hwnnw'n hygyrch, wrth symud ymlaen. Mae angen i ni hefyd sicrhau bod gwasanaethau ar gyfer cleifion yn hygyrch drwy un llwybr, a dyna ap GIG Cymru, fel arall mae risg—doeddwn i ddim yn gwybod bod y fath beth â niwl ap yn bodoli, pan fydd gennych chi ormod o apiau, pob un at ddiben gwahanol.