1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 31 Ionawr 2023.
9. Pa drafodaethau mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU yn dilyn cyhoeddi cyllid ffyniant bro ar gyfer rheilffyrdd yng Nghaerdydd? OQ59036
Rydyn ni'n cefnogi'r datblygiad hwn yng Nghaerdydd ac mae'n cyd-fynd â buddsoddiad Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, nid oedd Llywodraeth Cymru yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r gronfa ffyniant bro ac nid yw wedi cael unrhyw rôl yn ei strategaeth na'i chyflawniad.
Diolch yn fawr, Trefnydd. Yn ddiweddar dywedodd yr arbenigwr ar drafnidiaeth gyhoeddus, Mark Barry, bod y cyfraniad o £50 miliwn tuag at linell cledrau croesi Caerdydd dim ond yn ddiferyn yn y môr o gymharu â'r £500 miliwn sydd ei angen er mwyn i'r llinell cledrau croesi fynd o Fae Caerdydd i Lantrisant. Dyw e ddim chwaith yn helpu gydag annigonolrwydd y gwasanaeth—dim bod â phedwar trên yr awr o hanner gorsafoedd Caerdydd oherwydd diffyg seilwaith. Fel y gwyddoch chi Gweinidog, mae Trafnidiaeth Cymru yn darparu'r gwasanaethau hynny, ond wrth gwrs maen nhw'n cael eu cyfyngu gan y seilwaith, gan Network Rail. Mae'n amlwg, hyd yn oed i fy ffrindiau, fy nghyd-Aelodau o'r Ceidwadwyr Cymreig, bod Cymru ar ei cholled pan ddaw hi i seilwaith y rheilffyrdd. A all Llywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda, ofyn i Lywodraeth y DU ddarparu arian digonol ar gyfer cwblhau'r llinell cledrau croesi o Fae Caerdydd i Lantrisant a'r arian sydd ei angen er mwyn cynyddu lefel y gwasanaethau sydd eu hangen ym mhob gorsaf yng Nghaerdydd? Diolch yn fawr.
Rydych chi'n hollol gywir, dim ond y cam cyntaf yw'r cyllid, mewn gwirionedd, o uchelgais llinell cledrau croesi Caerdydd. Felly, fel Llywodraeth, byddwn ni'n parhau i weithio gyda Chyngor Caerdydd a Trafnidiaeth Cymru. Fe fyddwch chi'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r tanfuddsoddi hanesyddol yn seilwaith y rheilffyrdd ym mhob rhan o Gymru. Fel Llywodraeth, rydyn ni'n hapus iawn i barhau i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru. Ddydd Iau diwethaf, yn fy swydd fel Gweinidog dros ogledd Cymru, roeddwn yn hapus iawn i lansio'r cyntaf o drenau newydd dosbarth 197 yn Llandudno, unwaith eto gyda chefnogaeth £80 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru, a bydd y trenau hyn yn cael eu cyflwyno ledled Cymru dros y 18 mis nesaf.
Diolch i'r Trefnydd ar ran y Prif Weinidog.