Part of the debate – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 31 Ionawr 2023.
Diolch. Rwy'n siŵr bod llawer ohonom wedi coffáu Diwrnod Cofio'r Holocost. Roeddwn i'n ffodus iawn i fod â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn fy etholaeth, ac fe aethon ni i ddigwyddiad gyda'n gilydd. Ar y pwynt a godwyd gennych, mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu diffiniad IHRA fel diffiniad gwaith, fel y gwyddoch chi, mater i bob prifysgol yw ei fabwysiadu wedyn. Gwn fod y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg wedi cael y trafodaethau hynny gyda nhw.