Part of the debate – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 31 Ionawr 2023.
Hoffwn gael datganiad, os gwelwch yn dda, yn amlinellu pa sgyrsiau brys sydd wedi eu cynnal rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am y cymorth sydd ar gael i bobl mewn anobaith sy'n methu fforddio eu biliau ynni. Rydyn ni'n byw mewn cyfnod o eithafion anfoesol. Yr wythnos diwethaf, adroddwyd bod cewri olew fel BP a Shell yn gwneud elw o £5,000 yr eiliad, ar adeg pan fo miliynau mewn diflastod, eisoes yn methu â chynhesu eu cartrefi, oherwydd bod aros yn fyw wedi dod yn argyfwng. Mae costau byw bron yn amhosib eu rheoli. Mae Climate Cymru yn rhybuddio bod 0.5 miliwn o oedolion Cymru wedi treulio'r Nadolig dan amodau Dickensaidd, mewn cartrefi oer, llaith, ac mae disgwyl i daliadau cymorth Llywodraeth y DU ddod i ben ymhen deufis. Felly, all datganiad amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi pwysau ar Lywodraeth San Steffan i estyn cefnogaeth i aelwydydd, cefnogaeth i fusnesau, a'u hannog i newid y system ofnadwy hon sy'n gwobrwyo cwmnïau cyfoethog ac yn gadael i'r bobl dlotaf rewi?