Part of the debate – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 31 Ionawr 2023.
Gan barhau â'r thema ynni, rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar gynnydd sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru ynghylch dod â thaliadau sefydlog i ben ar ddiwrnodau pan nad yw ynni'n cael ei ddefnyddio. Pan fo pobl yn bwyta eu pryd poeth cyntaf ers dyddiau, sy'n debygol o fod yn dun o gawl, a chanfod eu bod wedi defnyddio hyd at chwarter eu credyd ynni, i mi mae hyn yn sylfaenol anghywir. Byddwn i'n ychwanegu'r gair 'creulon' hefyd. Gan wrthwynebu, mewn egwyddor, daliadau sefydlog, a darodd y tlotaf galetaf, fel cam cyntaf mae'n hanfodol nad yw taliadau sefydlog yn cael eu gwneud ar ddyddiau pan nad oes ynni'n cael ei ddefnyddio.
Hoffwn hefyd ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ddyfodol papurau bro yng Nghymru. Papurau newydd Cymraeg, lleol, cymunedol yw'r rhain a gynhyrchir gan wirfoddolwyr ac a gyhoeddir yn gyffredinol yn fisol. Yn Abertawe, mae gennym ni Wilia, sy'n dda iawn, ac sydd bellach ar-lein yn unig. Mae'n rhoi cyfle gwerthfawr i wybod y diweddaraf am yr hyn sy'n digwydd mewn ysgolion Cymraeg, y cymdeithasau Cymraeg lleol, a chapeli Cymraeg. Rwy'n gofyn am gynllun gan y Llywodraeth ar gyfer parhau â'r adnoddau hanfodol hyn.