2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 31 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:24, 31 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wel, rwy'n siŵr na fyddwch yn synnu o glywed bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cytuno'n llwyr â chi ar y mater sylweddol rydych chi'n ei godi. Rwy'n gwybod ei bod hi wedi cael sawl cyfarfod gyda chwmnïau ynni a hefyd gydag Ofgem. Rwy'n credu mai'r tro diwethaf i ni gwrdd ag Ofgem oedd ddoe, pryd y cododd y mater hwn gyda nhw. Rydym yn credu na ddylai fod unrhyw daliadau sefydlog ar gyfer cwsmeriaid sy'n rhagdalu. Maen nhw'n gwneud cam go iawn â chwsmeriaid sy'n rhagdalu.

O ran eich ail gwestiwn, mae papurau bro yn ffynonellau cwbl unigryw yma yng Nghymru ar gyfer ein newyddion yn y gymuned Gymraeg. Rydym yn ddiolchgar iawn am waith nifer o wirfoddolwyr sy'n gweithio'n galed iawn i sicrhau eu bod yn cael eu cyhoeddi bob mis. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod COVID-19 wedi bod yn fygythiad gwirioneddol iddyn nhw. Roedd nifer ohonyn nhw'n parhau i gael eu cyhoeddi ac addasodd rhai ar gyfer eu cyhoeddi ar-lein, fel y cyfeirioch chi ato. Rwy'n gwybod yr wythnos diwethaf cyhoeddodd y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg gymorth chwyddiant un tro i sefydliadau sy'n cael eu hariannu gan grantiau Cymraeg, a bydd y rhwydwaith o bapurau bro yn cael £6,000 ychwanegol.