2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 31 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 2:27, 31 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Os caf i barhau ar yr hyn sy'n sgandal cenedlaethol a fy ymgyrch i ddod â'r sgandal cenedlaethol hwnnw i ben, sef gorfodi mesuryddion rhagdalu ar bobl, Trefnydd, byddwch yn ymwybodol bod 72, allan o 500,000 o warantau y gwnaethpwyd ceisiadau amdanyn nhw drwy'r llysoedd, dim ond 72 a wrthodwyd. Mae'n ymddangos i mi fod rhywbeth amlwg o'i le ac yn anghyfiawn. Dros wythnos yn ôl bellach, roedd Grant Shapps yn cydnabod bod yr wybodaeth hon yn peri pryder mawr. Ysgrifennodd at y cyflenwyr ynni, ond mae eto i wneud unrhyw beth ystyrlon. Mae hynny'n gwbl groes i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, sydd wedi dangos arweiniad go iawn ar y mater hwn. A gaf i ofyn am ychydig mwy o waith ymchwilio gan Lywodraeth Cymru ac yna am ddatganiad yn sgil hynny, yn gyntaf ar faint o warantau sy'n cael eu cyhoeddi, sy'n peri pryder, yn enwedig yn llysoedd Abertawe, lle mae'n ymddangos bod degau o filoedd o warantau yn gysylltiedig ag un asiant casglu dyledion penodol a hurir gan nifer o gyflenwyr ynni, ac yna, yn ail, ar lefel y ddyled sy'n sbarduno cais am warant ac a yw honno'n mynd yn is? Mae hwn yn sgandal cenedlaethol go iawn ac mae angen i ni roi diwedd ar hyn nawr.