Part of the debate – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 31 Ionawr 2023.
Diolch, ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Mae hwn yn fater pwysig iawn, ac yn amlwg mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, fel y dywedoch chi, wedi dangos arweiniad go iawn mewn cysylltiad â hyn. Soniais mewn ateb cynharach iddi gyfarfod ag Ofgem ddoe—rwy'n credu eich bod wedi eu cyfarfod sawl gwaith o'r blaen—yn ogystal â chyflenwyr ynni, i wir fynegi ei phryderon difrifol ynghylch y nifer fawr o warantau llys sydd wedi'u cyhoeddi o lysoedd ynadon. Ysgrifennodd y Gweinidog hefyd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn mynegi'r pryderon hyn. Mae yna wir berygl i ddiogelwch a chyfiawnder cymdeithasol i aelwydydd sy'n agored i niwed, gan gynnwys y rhai sydd ag aelodau â chyflyrau meddygol. Maen nhw'n cael eu gorfodi i gael mesuryddion rhagdalu yn erbyn eu hewyllys, neu hyd yn oed heb iddyn nhw wybod. Mae'r system yn esgeuluso pobl agored i niwed yn ein cymdeithas ar hyn o bryd, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi annog Llywodraeth y DU i roi diwedd ar yr arfer ffiaidd o orfodi gosod mesuryddion rhagdalu, a chryfhau rheolau a rhwymedigaethau cyflenwyr i sicrhau eu bod yn cefnogi yn hytrach na chosbi eu cwsmeriaid. Yng nghyfarfod Ofgem ddoe, cwestiynodd y Gweinidog mewn gwirionedd a oes ganddyn nhw'r pwerau a'r ymyraethau digonol i ddiogelu ein deiliaid tai yma yng Nghymru ac a yw'r rheoliadau'n mynd yn ddigon pell i ddiogelu aelwydydd. Rwy'n deall bod Ofgem yn cynnig adolygu'r polisi ynghylch mesuryddion rhagdalu yn ffurfiol yn ddiweddarach eleni a bydd yn cael trafodaethau gyda grwpiau defnyddwyr a diwydiant ar welliannau arfaethedig. Yn amlwg, bydd y Gweinidog a'i swyddogion yn parhau i ymgysylltu â nhw.