Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 31 Ionawr 2023.
Mae'n amlwg bod Canol De Cymru, Gweinidog, yn gartref i ddau barth menter—un ym Mro Morgannwg a'r parth menter ariannol yng nghanol Caerdydd. Sefydlwyd nhw gan Weinidog blaenorol ac maen nhw wedi bod yn rhan ganolog o Lywodraethau olynol yma ym Mae Caerdydd o ran cyfleoedd gwaith a chyfleoedd i fuddsoddi. Pa rôl, wrth symud ymlaen, sydd gan y parthau menter o ran gwella cydnerthedd economaidd, wrth symud ymlaen â'r weledigaeth sydd gennych chi fel y Gweinidog? Ydych chi'n gallu ein diweddaru ni ynglŷn â'r canlyniadau o'r ddau barth menter sydd wedi'u lleoli yng Nghanol De Cymru, o ran cyfleoedd cyflogaeth—cynnydd y gallem ni fod wedi'i weld—ac arian mewnfuddsoddiad a allai fod wedi dod oherwydd creu yr ardaloedd hyn?