Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 31 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:41, 31 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, ddechrau'r mis, fe wnaethoch chi gyhoeddi y byddech chi'n lansio cynllun gweithredu gweithgynhyrchu wedi'i adnewyddu sy'n nodi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector gweithgynhyrchu. Allwch chi gadarnhau pryd y bydd y cynllun gweithredu hwnnw'n cael ei gyhoeddi?