Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 31 Ionawr 2023.
Rydyn ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi'r ganolfan awyrofod. Rydyn ni'n parhau i weithio'n agos gyda Chyngor Gwynedd, gweithredwr y safle a phartneriaid eraill i helpu i ddenu buddsoddiad i'r safle. Rydym ni'n cydnabod ei botensial byd-eang i'r sector gofod yng Nghymru, ac o ran denu gweithgarwch economaidd i Wynedd wledig.