Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 31 Ionawr 2023.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Mae'r Llywodraeth, wrth gwrs, wedi buddsoddi milynau i mewn i ddatblygu canolfan awyrofod Eryri yn Llanbedr, ac mae gan y Llywodraeth uchelgeisiau arallfydol ar gyfer datblygu Cymru fel cenedl sy'n arwain mewn technoleg ofod. Ond, dywed arbenigwyr yn y maes, a'r tenantiaid sydd ar y safle, fod gwireddu'r uchelgeisiau yma am fod yn amhosibl heb wella'r isadeiledd i gyrraedd y safle. Yn absenoldeb unrhyw arian cyhoeddus i adeiladu'r ffordd gyswllt, mae'n anodd iawn gweld sut nad ydy uchelgeisiau'r Llywodraeth yn ddim byd ond breuddwyd gwrach. Pa gynllun credadwy sydd gan y Llywodraeth ar gyfer maes awyr Llanbedr felly, ynteu ydy'r Gweinidog yn hapus i weld arfordir Meirionydd yn ddim byd mwy na maes chwarae ar gyfer ymwelwyr? Diolch.