Gwasanaethau Deintyddol y GIG

Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 31 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:22, 31 Ionawr 2023

Diolch. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, nhw sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau deintyddol yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Ar hyn o bryd, mae 92 y cant o gyllid contract deintyddol yr NHS yn y bwrdd iechyd yn mynd i bractisys sy'n gweithio dan amrywiad diwygio'r contract. Mae hyn yn golygu bod bron i 12,000 o gleifion newydd wedi cael eu gweld ar draws y bwrdd iechyd yn ystod naw mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon.