Gwasanaethau Deintyddol y GIG

Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 31 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 3:23, 31 Ionawr 2023

Diolch am yr ateb hwnnw, Gweinidog. Mae hwn yn fater rŷn ni wedi'i drafod sawl gwaith, ac wedi bod yn destun gohebiaeth rhyngom ni hefyd. Mae'n rhaid pwysleisio difrifoldeb y broblem yma, gan fod miloedd o bobl yn ardal Rhydaman yn benodol yn ddibynnol ar y gwasanaeth a oedd yn cael ei ddarparu gan ddeintydd Stryd Margaret yno. Fe godais i'r mater yma gyda chi ym mis Tachwedd eto llynedd, ac, er tegwch i chi, Weinidog, fe wnaethoch chi roi ateb cadarnhaol cyn y Nadolig fod y bwrdd iechyd yn ail-gomisiynu gwasanaethau deintyddol yn yr ardal, a bod disgwyl i wasanaeth newydd ddechrau'r mis yma. Yn anffodus, y neges dwi wedi'i chael gan nifer o etholwyr yw does dim cyfathrebiad wedi bod gyda nhw, a bod y gwasanaeth heb ddechrau wrth i ni gyrraedd mis Chwefror yfory. Felly, a allwch chi nawr roi'r sicrwydd hwnnw i fy etholwyr i fod y gwasanaeth newydd yma yn dod, a hynny cyn gynted ag sy'n bosib?