Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 31 Ionawr 2023.
Wel, dwi'n falch o ddweud bod y bwrdd iechyd wedi bod yn llwyddiannus i roi cytundeb newydd i bractis newydd ar gyfer Rhydaman. Un o'r problemau sydd wedi bod oedd bod y premises oedd yna, dyw e ddim yn functional, a hynny sydd yn creu problem ar hyn o bryd. Mae'n mynd i gymryd amser i wneud yn siŵr bod y premises yn iawn ar gyfer triniaeth pobl. Felly, fydd hwnna ddim yn barod tan fis Medi. Ond beth fydd yn digwydd yw mae yna mobile dental unit a hwb ar gael, a bydd yna urgent care ar gael o fis Chwefror ymlaen.