Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 31 Ionawr 2023.
Diolch, Gweinidog, am yr ateb yna. Rydych chi'n ymwybodol o achos un o fy etholwyr i, Barry Topping-Morris. Fe gafodd ei hun yn rhan o ddigwyddiadau ynghlwm â rhyddhau claf o glinig Caswell ym Mhen-y-bont ar Ogwr a aeth ymlaen wedyn i gyflawni dynladdiad. Mae Mr Topping-Morris wedi codi pryderon ers tro am yr ymchwiliad i'r digwyddiadau hyn a'r effaith a gafodd hynny ar ei yrfa ef yn dilyn hynny. Pa sicrwydd y gallwch chi ei roi iddo ef fod y gwersi wedi cael eu dysgu o ddigwyddiadau blaenorol ac y bydd ymchwiliadau i unrhyw ddigwyddiad tebyg heddiw yn cael ei gynnal yn ôl safonau cyfredol? Ac a fyddech chi'n barod, Gweinidog, i ymddiheuro i Mr Topping-Morris a'i deulu am yr holl ofid dros y blynyddoedd lawer ers cofnodi'r gŵyn hon yn y lle cyntaf?