4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 31 Ionawr 2023.
Cwestiynau llefarwyr nawr. Y cyfan heddiw i'w hateb gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Y cyntaf yw llefarydd y Ceidwadwyr, James Evans.
Diolch, Llywydd. Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod sicrhau bod data iechyd meddwl ynglŷn â phob cyflwr iechyd meddwl ar gael i'r cyhoedd yn hanfodol ar gyfer gwella gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru?
Ydw, rwy'n cytuno â chi bod sicrhau bod data ar gael yn hanfodol bwysig. Dyna pam mae gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cynyddu ein cyfres greiddiol o ddata iechyd meddwl yn flaenoriaeth allweddol i ni, ac fe fydd honno'n ategu'r wybodaeth yr ydym ni eisoes yn ei chyhoeddi yn rheolaidd ynglŷn ag amseroedd aros iechyd meddwl.
Diolch i chi, Dirprwy Weinidog. Mae gallu cael gafael ar yr wybodaeth yn bwysig, fel rydych chi newydd ei amlygu, i'r bobl yr ydym ni'n eu gwasanaethu, ac mae hynny'n taflu goleuni ar berfformiad Llywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd hefyd. Er enghraifft, mae gwybodaeth a ryddhawyd drwy geisiadau rhyddid gwybodaeth i fyrddau iechyd yn unig yn dangos bod 7,258 o blant yn aros i gael diagnosis awtistiaeth. Mae 40% o'r plant hynny yn aros dros flwyddyn, mae 22 y cant o'r rhain yn aros dros 18 mis, ac mae 804 o blant yn aros dros ddwy flynedd. Ac fe wrthododd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ateb y cais rhyddid gwybodaeth hyd yn oed.
Felly, fe hoffwn i wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r arosiadau hyn a sicrhau, pan ofynnir i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr am wybodaeth, ei fod yn darparu'r wybodaeth er mwyn i ni allu craffu ar ei berfformiad.
Diolch i chi am y cwestiwn yna, James, ac mae'n debyg y byddai hi o fudd pe byddwn i'n egluro mai fy nghyd-Weinidog Julie Morgan sydd â chyfrifoldeb am wasanaethau niwroddatblygiadol, er ein bod ni'n gweithio yn agos iawn gyda'n gilydd gan fod yna, yn amlwg, gysylltiadau cryf â gwasanaethau iechyd meddwl, yn enwedig i blant a phobl ifanc. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod Julie Morgan wedi cymryd camau pendant yn y maes hwn. Rydych chi'n ymwybodol bod £12 miliwn wedi cael ei gyhoeddi yn yr haf i ymdrin â'r ôl-groniad o amseroedd aros niwroddatblygiadol, a chefnogi'r gwaith o wella gwasanaethau niwroddatblygiadol hefyd. Yn ogystal â hynny, mae Julie Morgan wedi sefydlu grŵp cynghori niwroddatblygiadol hefyd ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd, ac fe geir cynllun gweithredu i wella'r amseroedd aros hynny.
Fy hun, rwy'n cydnabod hefyd fod ein fframwaith ni NEST/NYTH yn ddull allweddol i gefnogi'r plant a'r bobl ifanc hynny, oherwydd rydyn ni'n awyddus i'r gwasanaethau cofleidiol hynny fod ar gael, ac ni ddylai plant a phobl ifanc fod angen label diagnosis er mwyn cael y gefnogaeth. Felly, mae NYTH yn faes allweddol i ni yn hynny o beth hefyd, ac yn rhywbeth yr ydym ni'n gweithio yn agos arno.
Diolch yn fawr iawn am hynna, Dirprwy Weinidog. Ar ôl cyfarfod ag elusennau, mae llawer ohonyn nhw wedi sôn wrthyf i nad yw data ar gael yn rheolaidd, ac mai un ffordd y gallem ni gryfhau'r maes hwn yw drwy edrych unwaith eto ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 i wneud yn siŵr y ceir rhagor o dargedau y gall y Llywodraeth weithredu arnyn nhw mewn gwirionedd ac y gellir eu hadrodd nhw'n ôl i'r Senedd hon.
Felly, a ydych chi'n cytuno gyda'r elusennau hyn sy'n weithredol yn y sector bod angen i ni gael Mesur iechyd meddwl sy'n fwy cadarn, ac a fydd hwnnw'n rhywbeth y byddwch chi'n ei ystyried yn y Llywodraeth, i sicrhau y gallwn ni wneud ein gwaith ni yn y gwrthbleidiau yn y fan hon, i wneud yn siŵr bod gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu gwella ledled Cymru i fod â gwell canlyniadau i boblogaeth Cymru?
Diolch. Mae'n debyg eich bod chi'n ymwybodol, James, fod dyletswydd i adolygu'r Mesur Iechyd Meddwl. Nid oeddem ni'n gallu bwrw ymlaen â hynny oherwydd y pwysau yn ystod y pandemig, ac roedd yr oedi cyn adolygu'r Mesur iechyd meddwl yn rhywbeth y cytunwyd arno gyda Chynghrair Iechyd Meddwl Cymru—y cyrff trydydd sector yr ydym ni'n cwrdd â nhw. Felly, roedden nhw'n cefnogi'r penderfyniad hwnnw i ohirio hynny. Rydyn ni'n ailddechrau gwaith ynghylch y ddyletswydd i adolygu'r Mesur iechyd meddwl, felly rydyn ni'n bwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw.
Ond yr hyn a fyddwn i'n ei ddweud hefyd yw bod gennym Lywodraeth y DU sy'n diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983. Ar hyn o bryd, rydyn ni'n aros iddyn nhw fwrw ymlaen â hynny; fe fydd hynny'n golygu ein bod ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU ar sut mae hynny'n cael ei weithredu yng Nghymru. Rydyn ni'n aros i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen â'u deddfwriaeth ar ddiogeliadau amddiffyn rhyddid hefyd—mae'r terfynau amser ar gyfer hynny wedi parhau i symud. Felly, ar hyn o bryd, rydyn ni'n barod i fynd ar amrantiad yn hyn o beth; neilltuwyd symiau mawr o gyllid gennym ni ar gyfer rhoi hyn ar waith. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ymwybodol o'r pwysau deddfwriaethol eraill yr ydym yn eu hwynebu, a'r gallu o fewn y system i ymdrin â hynny.
Yr hyn yr wyf i'n ei gredu hefyd yw ei bod hi'n hanfodol bwysig i ni ganolbwyntio ar gyflawni, a'r peth pwysicaf i mi yw sicrhau bod pobl yn cael gafael ar wasanaethau, ac rwy'n credu bod rhaid i ni gofio hynny pan fyddwn ni'n ystyried unrhyw adolygiadau pellach.
Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae'r argyfwng costau byw yn cael effaith sylweddol ar ein gwasanaeth iechyd ni. O gynyddu anghydraddoldebau iechyd hyd at rwystro pobl rhag cadw'n gynnes a chael bwyta y gaeaf hwn, mae'r GIG yn dangos arwyddion o bwysau eithafol ac argyfwng. Mae'r straen yn amlwg hefyd ymhlith y rhai sy'n gweithio ym maes iechyd y cyhoedd. Mae streic y nyrsys, a gefnogir gan Blaid Cymru, yn hysbys iawn yn y Senedd hon. Fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn i dynnu sylw at effaith hyn ar y rhai hynny sy'n gweithio yn y sector defnyddio sylweddau a thrin dibyniaeth. Yn gynharach y mis hwn, adroddodd ITV Cymru ar drafferthion costau byw pobl sy'n gymheiriaid y gwasanaeth cyffuriau ac alcohol. Fe wnaethon nhw siarad â Vinnie, a oedd yn un o gymheiriaid gwasanaeth ac sydd wedi gwella ar ôl bod yn gaeth, ac wedi ymatal am dair blynedd, am ei frwydr i fyw ar ei gyflog. Meddai,
'Rwy'n dibynnu ar fanciau bwyd, mae hi'n anodd iawn, 'does gen i ddim gwres yn y tŷ. Rwy'n llythrennol yn ofni cynnau'r tân, a thanio'r nwy am fy mod i'n arswydo rhag y bil nesaf, am nad yw'r (arian) gen i.'
Nid yw Vinnie yn unigryw. Oherwydd ei hanes ef o ddefnyddio cyffuriau, mae ef a llawer tebyg iddo yn agored i niwed. Rwy'n ofni y bydd straen yr argyfwng costau byw yn gwthio llawer o bobl fel ef oddi ar lwyfan sobrwydd. A ydych chi'n cydnabod y problemau sy'n bodoli yn y sector hwn, ac a oes gennych chi gynlluniau i'w cywiro gyda thelerau ac amodau gwell? Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cytuno, yn enwedig o ystyried y cynnydd brawychus mewn marwolaethau oherwydd cyffuriau ac alcohol, na allwn ni fforddio caniatáu i wasanaethau cyffuriau ac alcohol gael eu rhedeg ar y nesaf peth i ddim.
Diolch yn fawr i chi, Peredur. Ac a gaf i achub ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolchgarwch i'r bobl sy'n gweithio fel cymheiriaid cefnogol yng Nghymru? Maen nhw'n gwneud gwaith anhygoel. Yn sicr, nid wyf i o'r farn y gallen ni gael ein cyhuddo o redeg gwasanaethau cyffuriau ac alcohol ar y nesaf peth i ddim. Fel gwyddoch chi, nid yn unig ein bod wedi gwarchod cyllid gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru, ond rydyn ni wedi cynyddu'r cyllid mewn gwirionedd, ac mae hynny'n cynnwys i'n gwasanaethau ni a arweinir gan gymheiriaid, bu'n rhaid i ni ddod o hyd i arian ychwanegol o fewn cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer hynny, oherwydd roedd rhywfaint o'r arian hwnnw'n dod o'r Undeb Ewropeaidd, ac yn amlwg fe wnaethon ni golli'r arian hwnnw. Rwy'n cydnabod, wrth gwrs, fod hwn yn gyfnod anhygoel o anodd i bawb, gan gynnwys pobl sy'n gweithio yn y trydydd sector, yr ydym ni'n ddiolchgar iawn iddyn nhw. Dyna pam mae'r Llywodraeth wedi canolbwyntio cymaint ar ddefnyddio pa ysgogiadau bynnag sydd ar gael i ni wrth fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, a dyna pam rydym ni'n parhau, er gwaethaf yr amgylchiadau dyrys iawn yr ydym yn eu hwynebu, i fuddsoddi yn y gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, i fod o gymorth wrth dywys pobl drwy'r cyfnod anodd iawn hwn.
Diolch. Rydyn ni'n dal i aros am gynllun gweithlu'r Gweinidog, a addawyd y mis hwn; o ystyried fod yna ychydig oriau yn weddill, rydyn ni'n parhau i obeithio y daw maes o law. O, gwych, mae arwydd cadarnhaol i'w weld fan acw, felly dyna beth da. A wnewch chi gadarnhau y byddwch chi a'ch swyddogion â rhan fawr yng nghyfansoddiad y cynllun hwn? Mae hwn yn gwestiwn allweddol, oherwydd yn aml, mae cymorth iechyd meddwl wedi cymharu yn wael â meysydd eraill o'r GIG o ran blaenoriaethau a chyllid. Roedd ei gwneud hi'n haws i gael therapïau seicolegol i fod yn nod allweddol i'r strategaeth wreiddiol 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', ac mae honno wedi bod yn flaenoriaeth o fewn pob un o'r cynlluniau cyflenwi, ac eto dros y 10 mlynedd diwethaf, mae nifer o adroddiadau wedi codi pryderon ynghylch sut i gael gafael ar therapïau seicolegol oherwydd effeithiau camddefnyddio sylweddau a chaethiwed a'r rhai sy'n agored i'r rheini. Mae hwnnw'n bryder gwirioneddol.
Er gwaethaf rhai gwelliannau, mae cannoedd o bobl yn parhau i aros mwy na'r targed 26 wythnos i gael cymorth. Yn aml, pobl yw'r rhain sydd ag angen am driniaeth frys i'w hatal rhag colli rheolaeth ar eu hiechyd meddwl. A yw'r Gweinidog yn bwriadu gostwng y targed 26 wythnos a pha gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â sefyllfa'r rhai sy'n aros cryn amser mewn rhai ardaloedd byrddau iechyd? Diolch i chi.
Diolch i chi, Peredur. Rwy'n credu eich bod wedi gweld y Gweinidog yn rhoi arwydd cadarnhaol nawr oherwydd bod pethau yn mynd yn dda o ran y cynllun gweithlu y mae hi'n ei ddatblygu. Mae gennym ni gynllun gweithlu ar wahân hefyd ar gyfer iechyd meddwl, sy'n cael ei ddatblygu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru. Cafodd hwnnw ei lansio ym mis Tachwedd. Rwy'n falch iawn, oherwydd y £75 miliwn o gyllid ychwanegol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru eleni ar gyfer iechyd meddwl, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, rydym yn gallu ariannu'r cynllun gweithlu hwn, y mae crocbris i'w dalu amdano i gyd. Fe fydd hwnnw'n ein galluogi i gymryd rhai camau byrdymor yn syth ynghylch y pwysau ar y gweithlu yr ydym yn eu hwynebu, gan gynnwys pethau fel hyfforddiant a chyflogi cymdeithion clinigol mewn seicoleg, nad ydyn nhw wedi cymhwyso yn llawn gyda doethuriaeth mewn seicoleg, ond sy'n gallu cynnig rhai therapïau seicolegol, ac mae mynediad at seicoleg yn rhan allweddol o'r cynllun gweithlu hwn.
Rwy'n nodi o'r sylwadau a wnaethoch chi am amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau seicoleg ac, yn amlwg, mae mwy o waith i'w wneud eto ar y mater hwnnw. Mae uned gyflawni'r GIG yn cynnal adolygiad o therapïau seicolegol i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Mae disgwyl i'r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth, ac fel yn achos eu hadroddiadau eraill nhw ar iechyd meddwl, fe fydd yn rhoi cyfres o argymhellion i ni i wneud yn siŵr y gallwn ni wella'r gwasanaethau mewn ffordd sy'n gynaliadwy.
Y pwynt arall y byddwn i'n ei wneud, Peredur, yw ein bod ni'n gwario symiau aruthrol o arian yng Nghymru ar gymorth Haen 0 a Haen 1 Mynediad Agored. Mae therapi ymddygiad gwybyddol ar-lein ar gael ledled Cymru ar gyfer ystod o broblemau iechyd meddwl lefel is. Mae gennyn ni linell gymorth sydd ar gael 24 awr y dydd ar gyfer gwneud galwadau, ac rydyn ni'n gwneud cynnydd da iawn o ran ein gwasanaeth 111 'pwyswch 2 ar gyfer iechyd meddwl', sydd ar waith ym mhob man nawr yng Nghymru ac a fydd ar gael 24/7 erbyn y gwanwyn. Rwy'n credu y bydd hynny drawsnewidiad gwirioneddol o ran y dull 'dim drws anghywir' ar gyfer iechyd meddwl.