Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 31 Ionawr 2023.
Diolch i chi am yr ateb yna, Gweinidog. Yn ddiweddar, ymwelais ag Optegwyr Gwynn yn Aberdâr i ddysgu mwy am ragnodwyr annibynnol a'r cytundeb optometreg newydd. Roeddwn wedi rhyfeddu o glywed am y 70 o ragnodwyr annibynnol a'r gwaith y maen nhw'n gallu ei wneud eisoes o ran trin a rhoi diagnosis o gyflyrau fel glawcoma a dirywiad maciwlaidd, diolch i raglen hyfforddi a ariannir yn llawn gan Lywodraeth Cymru. Rydyn ni'n gwybod bod diwygio'r GIG i leddfu pwysau ar ein hysbytai ni drwy hwyluso darparu gwasanaethau ychwanegol o fewn cymunedau lleol yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, felly a wnewch chi roi diweddariad i ni ar y paratoadau cyn lansiad swyddogol y contract yn yr haf eleni?