Recriwtio a Chadw Staff yn y GIG

Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 31 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 4:01, 31 Ionawr 2023

Diolch, Weinidog. Wrth ymweld ag ysbytai a llinellau piced yn fy rhanbarth, mae staff wedi rhannu gyda mi, dro ar ôl tro, y straen aruthrol sydd arnyn nhw, a’r ffaith bod nifer o'u cydweithwyr profiadol yn gadael yn wythnosol. Dŷn nhw'n methu dygymod mwyach gyda’r pwysau sydd arnynt, y straen o fethu rhoi’r gofal gorau posibl i bob claf oherwydd maint y galw a’r straen, ynghyd â’r patrwm gwaith o ddydd i ddydd. Fe glywsoch chi a minnau dystiolaeth ddirdynnol mewn digwyddiad yma yn y Senedd gan staff yn ein hadrannau brys yn disgrifio’r profiad bob dydd o fynd i’r gwaith a sut maen nhw'n arwyddo cardiau gadael i staff yn wythnosol.

Dro ar ôl tro, rydych chi'n dweud bod yna fwy o staff yn gweithio i’r gwasanaeth iechyd nag erioed o’r blaen, ond, yn amlwg, ar lawr gwlad, mae’r stori yn un wahanol. Felly, pam fod y gwahaniaeth hwn o ran y profiadau o ddydd i ddydd gan y staff sy'n gweithio ar y rheng flaen yn dweud wrthon ni am gydweithwyr profiadol yn gadael, ond rydych chi'n dweud bod yna fwy a mwy o staff yn y gwasanaeth iechyd nag erioed o'r blaen? Beth sydd yn cael ei wneud i fynd i'r afael efo'r sefyllfa ddirdynnol hon? Oherwydd rydyn ni'n dweud bod yna fwy o staff, ond dydyn ni ddim yn cydnabod faint o arbenigedd sy'n cael ei golli'n wythnosol. A beth ydy'r cynllun i fynd i'r afael â hyn?