4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 31 Ionawr 2023.
5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gyflwr ystadau ysbyty ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ59042
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am gyflwr ei ystadau ei hun. Fe all gyflwyno achosion busnes i Lywodraeth Cymru am gyllid cyfalaf ar gyfer ei flaenoriaethau asesiedig, y mae'n rhaid eu hystyried nhw gan gofio'r pwysau sylweddol sydd yn bodoli o ran cyfalaf ar draws GIG Cymru.
Diolch i chi am eich ymateb, Gweinidog. Rwy'n siŵr eich bod chi'n gallu rhagweld yr hyn yr wyf i am ei ddweud, oherwydd cafodd ei nodi gan y BBC wythnos diwethaf mai dim ond 62 y cant o'r adeiladau sy'n eiddo i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n cael eu hystyried fel rhai sy'n ddiogel i'w gweithredu. Yn ysbyty Abergele, sy'n rhoi gwasanaeth da i fy etholwyr i, dim ond 15 y cant o'r adeiladau sy'n cydymffurfio â safonau iechyd a diogelwch cyfredol. Y rheswm am hyn yn bennaf yw bod gan y bwrdd lawer o hen adeiladau gyda chostau rhedeg uchel a hen seilwaith nad yw wedi datblygu gyda'r oes nac anghenion iechyd cyfredol. Fy nghwestiwn i yw: os edrychwch chi ar hyn yn wrthrychol, Gweinidog, a ydych chi'n credu y byddai hi o gymorth i'r bwrdd o ran arbed arian gyda'r ystadau yn yr hirdymor pe byddech chi'n buddsoddi mwy nawr mewn seilwaith adeiladau newydd, fel ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych yn y Rhyl, er mwyn i ni allu sicrhau gofal iechyd gwell i bobl leol mewn ffordd sy'n lleihau costau rhedeg hefyd ac yn fwy caredig i'r amgylchedd, gan ganiatáu i ni fuddsoddi mwy mewn gwasanaethau rheng flaen?
Diolch yn fawr iawn. Fe fyddwn i wrth fy modd yn buddsoddi mwy yn ein hystad cyfalaf ni, ond yn anffodus nid yw ein cyllid ni oddi wrth Lywodraeth y DU, o ran cyllidebau cyfalaf, wedi cynyddu, ac mae hynny'n gwneud bywyd yn anodd iawn i ni. Yr hyn a fyddwn i'n ei ddweud yw bod Betsi wedi cael £455 miliwn mewn gwariant cyfalaf dros y 10 mlynedd diwethaf, sef tua 14 y cant o'r cyfanswm i Gymru. Mae hynny'n cynnwys tua £170 miliwn ar Ysbyty Glan Clwyd; £20 miliwn ar adran babanod newydd-anedig yn Ysbyty Glan Clwyd; yn Ysbyty Gwynedd, £14 miliwn i'r adran frys; £5 miliwn yn y Fflint; £4 miliwn ym Mlaenau Ffestiniog; a £5 miliwn yn Nhywyn. Fe allwn i fynd ymlaen ac ymlaen. Y pwynt yw, rydym ni'n ceisio gwneud ein gorau. Mae'n rhaid i chi flaenoriaethu yn yr amgylchiadau anodd hyn, ond mae'n amlwg fod cynnydd wedi bod yn y ffigurau ol-groniad, oherwydd, fel rydych chi'n dweud, oedran llawer o'r safleoedd mawr ac acíwt hynny, a dyna pam rydym ni wedi gofyn i'r bwrdd iechyd ei hun ystyried beth ddylai'r blaenoriaethau fod, ac yna'n amlwg fe fyddwn ni yn y Llywodraeth yn gwneud dyfarniad wedi hynny.