8. Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoli BVD mewn gwartheg a’r clafr mewn defaid yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 31 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 5:40, 31 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Un o brif egwyddorion fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru yw gweithio mewn partneriaeth. Mae'r rhaglen Gwaredu BVD yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio mor llwyddiannus. Hoffwn gydnabod pwysigrwydd y partneriaid cyflawni milfeddygol a'r llawfeddygon a helpodd i gyflawni'r cynllun hwn ar lawr gwlad.

Yn dilyn llwyddiant y cynllun Gwaredu BVD, sy'n cael ei arwain gan y diwydiant, fe wnaeth ei grŵp llywio rhanddeiliaid argymell cyflwyno rhaglen orfodol, yn seiliedig ar ddeddfwriaeth. Prif her y cynllun gwirfoddol oedd tynnu anifeiliaid wedi'u heintio o fuchesi gwartheg er mwyn atal BVD rhag lledaenu. Mae hwn yn gam hanfodol tuag at ddileu BVD, ac rwyf bob amser wedi bod yn glir: byddai deddfwriaeth yn cael ei hystyried yn dilyn cyfnod gwirfoddol llwyddiannus ac yn amodol ar dystiolaeth briodol sy'n cael ei darparu i lywio a chyfiawnhau rheolaeth ddeddfwriaethol.

Rydym wedi casglu safbwyntiau'r diwydiant ar y cynnig ar gyfer cynllun dileu gorfodol yng Nghymru. Gan weithio mewn partneriaeth ochr yn ochr â Gwaredu BVD a grŵp llywio BVD, lansiwyd ein hymgynghoriad fis Mehefin diwethaf, yn gofyn am farn gan y gymuned cadw gwartheg a rhanddeiliaid ehangach. Cawsom dros 100 o ymatebion gan wahanol gynrychiolwyr y diwydiant gwartheg yng Nghymru, gan gynnwys ceidwaid, milfeddygon, undebau ffermio ac arwerthwyr. Rwy'n falch o nodi cefnogaeth ysgubol y diwydiant ar y mater pwysig hwn, a chadarnhaodd yr ymgynghoriad awydd am fesurau llymach, gyda'r mwyafrif yn cefnogi cyflwyno deddfwriaeth a gofynion gorfodol i ddileu BVD yng Nghymru yn effeithiol. Fe wnaethom wrando ar yr adborth, ac wrth i ni fynd i mewn i'r cyfnod pontio a pharatoi ar gyfer deddfwriaeth yn y dyfodol, mae'n hanfodol bod ceidwaid yn parhau i brofi eu buchesi am BVD a chael gwared ar anifeiliaid sydd wedi'u heintio'n gyson cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl.

Y bwriad ar gyfer cynllun yn y dyfodol o hyd yw darparu set o ofynion i ganiatáu i geidwaid dynnu BVD o'u buchesi a'i gadw allan drwy fioddiogelwch da. Byddai gofynion gorfodol yn sicrhau bod egwyddorion dileu BVD effeithiol yn cael eu dilyn a gall y fuches genedlaethol elwa ar ganlyniadau hirdymor cyflawni rhyddid rhag BVD. Byddwn yn parhau i adeiladu ar gynnydd a llwyddiannau cam gwirfoddol y cynllun, ac wrth i ni fynd ymlaen i'w gam nesaf, hoffwn ddiolch i'r diwydiant gwartheg, partneriaid cyflenwi a cheidwaid ledled Cymru am eu gwyliadwriaeth a'u hymdrechion hyd yma tuag at ddileu BVD.

Gan droi at y clafr: un o glefydau mwyaf heintus defaid, mae'r clafr yn fygythiad sylweddol i'n diwydiant defaid. Y rheswm dros hyn yw nifer fawr a maint y diadellau, patrymau symudiadau defaid a defnydd helaeth o bori cyffredin yng Nghymru. Rhaid i bob ceidwad defaid gydnabod ei gyfrifoldeb i sicrhau bod ei anifeiliaid yn cael eu cadw'n rhydd o'r clafr. Rwyf wedi ymrwymo £4.5 miliwn o gyllid cynllun buddsoddi gwledig i'w ddefnyddio i helpu i gefnogi'r diwydiant i fynd i'r afael â'r clefyd. Bydd dileu'r clefyd difrifol hwn yn diogelu lles defaid yng Nghymru, yn diogelu enw da 'brand Cymru' ac yn sicrhau manteision economaidd sylweddol i'r sector, a hynny ar adeg arbennig o heriol wrth i ni bontio o'n hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd.

Yn 2021 a 2022, comisiynais ddau brosiect prawf-o-gysyniad y clafr i nodi bylchau gwybodaeth. Fe wnaethon nhw dreialu tri pheth yn llwyddiannus: yn gyntaf, prawf diagnostig gwaed ELISA newydd ac arloesol i nodi'r clafr mewn diadellau cyfagos sydd mewn risg; yn ail, trin diadellau yr effeithiwyd arnynt gan ddipio symudol proffesiynol i ddileu'r clefyd gan sicrhau nad oedd perygl o'r niwed amgylcheddol o lygredd dip; ac yn drydydd, hwylusodd y prosiectau grwpiau rheoli clefydau lleol i gymryd perchnogaeth o achosion pan oeddynt yn digwydd a grymuso ceidwaid defaid i weithio ar y cyd i ddileu'r clefyd yn eu hardal. Yn ogystal â hyn, rydym yn ariannu profion crafu croen trwy gydol y flwyddyn am ddim ar gyfer y clafr, trwy Ganolfan Ymchwil Filfeddygol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yng Nghaerfyrddin ar gyfer diadellau Cymru.

Yn dilyn y cynlluniau treialu hyn, ym mis Gorffennaf 2022, aeth tendr i'r diwydiant i gyflwyno cais i gyflawni rhaglen dileu y clafr Cymru gyfan gwerth £4.5 miliwn. Mae'r prosiect yn cynnig cefnogaeth sylweddol gan Lywodraeth Cymru i'r diwydiant defaid a'n milfeddygon defaid i fynd i'r afael â'r clafr a'i ddileu. Rydym yn gobeithio ac yn disgwyl y bydd y diwydiant defaid yn defnyddio'r cyfle hwn i roi'r mesurau angenrheidiol ar waith i atal y clafr rhag lledaenu rhwng diadellau.

Mae amcanion strategol y rhaglen yn seiliedig ar egwyddorion rheoli clefydau heintus: ei gadw allan—drwy wella bioddiogelwch yn sylweddol o fewn y sector defaid; ei ganfod yn gynnar—drwy ddefnyddio'r prawf ELISA newydd, sy'n canfod y clafr bythefnos cyn bod arwyddion clinigol yn dangos; ei atal rhag lledaenu—drwy annog prynu defaid gwybodus a thrwy gymryd y rhagofalon bioddiogelwch angenrheidiol pryd bynnag y bydd defaid yn cael eu symud; a'i ddileu—drwy drin defaid sydd wedi'u heintio yn effeithiol ac mewn ffordd amgylcheddol gynaliadwy. 

Mae disgwyl i'r rhaglen gael ei lansio yng ngwanwyn 2023. Mae Llywodraeth Cymru'n gwneud ei rhan, a nawr mae'n rhaid i ni weithio mewn partneriaeth â'n ffermwyr defaid, contractwyr, arwerthwyr, cludwyr a'n sector defaid i gadw ein 9.5 miliwn o ddefaid a'n hŵyn yn ddiogel rhag y clafr. Diolch.