– Senedd Cymru am 5:37 pm ar 31 Ionawr 2023.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, ar reoli BVD mewn gwartheg a'r clafr mewn defaid. Y Gweinidog, felly, i wneud y datganiad. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae effaith negyddol dolur rhydd feirysol buchol, BVD, a'r clafr ar les anifeiliaid a chynaliadwyedd ein ffermydd gwartheg a defaid yn destun pryder mawr. Ni allaf bwysleisio digon bwysigrwydd bod ein sector da byw yn bwrw ymlaen a chydweithio i ddileu'r ddau glefyd hyn o Gymru. Mae rheoli, yn lleol ac, yn y pen draw, yn genedlaethol, a dileu BVD a'r clafr yn flaenoriaethau yn ein fframwaith iechyd a lles anifeiliaid ac maen nhw wedi'u cynnwys yn ei gynllun gweithredu ar gyfer 2022-24.
Fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru, y mae'r ddau glefyd hyn yn effeithio ar y cyfan ohono: mae gan Gymru anifeiliaid cynhyrchiol iach; mae gan anifeiliaid yng Nghymru ansawdd bywyd da; mae pobl yn ymddiried ac yn hyderus yn y ffordd y mae bwyd yn cael ei gynhyrchu; mae gan Gymru economi wledig lewyrchus; mae gan Gymru amgylchedd o safon. Mae dileu'r ddau glefyd yma yn ein symud ni'n nes at gyflawni'r nodau hyn, a bydd o fudd mawr i les gwartheg a defaid yng Nghymru.
Nid yw BVD na'r clafr yn effeithio ar bobl, ond rydym yn arddel agwedd un iechyd at eu rheoli a'u dileu. Mae hyn yn golygu mynd i'r afael ag iechyd anifeiliaid, amgylcheddol a dynol yn gyfannol ym mhopeth a wnawn. Felly, bydd ein gwaith o fudd i iechyd a lles defaid a gwartheg, a bydd hefyd yn arwain at wella iechyd yr amgylchedd ac yn cael effaith gadarnhaol ar les ein ceidwaid defaid a gwartheg. Mae'r dull un iechyd yn bwysicach nawr nag erioed wrth i Gymru symud yn nes at lansio'r cynllun ffermio cynaliadwy.
Fe ddechreuaf gyda BVD. Rhaid i ni wneud pob ymdrech i ddileu BVD o'n gwartheg. Mae llawer o wledydd Ewrop yn dileu'r afiechyd, ac rwyf eisiau i Gymru gadw ei statws fel cynhyrchydd iechyd uchel ac ni allwn gael ein gadael ar ôl. Mae'r clefyd hwn yn achosi i anifeiliaid yr effeithir arnyn nhw ddioddef yn fawr oherwydd ei fod yn imiwnoataliedig, ac yn cynyddu amlygiad i glefydau. Pan gaiff BVD ei ddileu, mae pob agwedd ar iechyd gwartheg yn gwella, gan gynnwys eu lles a'r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau. Mae nodweddion y clefyd yn golygu er y gall ei reoli ac y dylid ei reoli ar lefel fferm, mae angen cydlynu cenedlaethol ar gyfer dileu eang. Mae hyn yn pwysleisio'r angen am weithio mewn partneriaeth, ac er mai ceidwaid gwartheg sydd â'r cyfrifoldeb, mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r diwydiant er mwyn llwyddo i'w ddileu.
Rwyf eisiau tynnu sylw at waith rhagorol y prosiect Gwaredu BVD. Lansiwyd y cynllun gwirfoddol hwn, sy'n cael ei arwain gan y diwydiant yn Sioe Frenhinol 2017, gyda £9 miliwn o gyllid wedi'i sicrhau gan raglen datblygu gwledig Llywodraeth Cymru. Drwy gynnal profion ar stoc ifanc, mae'r rhaglen wedi nodi'r buchesi sydd wedi'u heintio â BVD ac wedi cefnogi'r ffermwyr hynny i ddod o hyd i anifeiliaid sydd wedi'u heintio a'u tynnu oddi yno. Mae'n bleser dweud bod y rhaglen bum mlynedd wedi sgrinio dros 9,163 o fuchesi yn llwyddiannus, sef dros 83 y cant o'r buchesi gwartheg yng Nghymru. Mae'r rhaglen hefyd wedi nodi dros 1,000 o anifeiliaid sydd wedi'u heintio'n barhaol dros ei chwrs.
Un o brif egwyddorion fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru yw gweithio mewn partneriaeth. Mae'r rhaglen Gwaredu BVD yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio mor llwyddiannus. Hoffwn gydnabod pwysigrwydd y partneriaid cyflawni milfeddygol a'r llawfeddygon a helpodd i gyflawni'r cynllun hwn ar lawr gwlad.
Yn dilyn llwyddiant y cynllun Gwaredu BVD, sy'n cael ei arwain gan y diwydiant, fe wnaeth ei grŵp llywio rhanddeiliaid argymell cyflwyno rhaglen orfodol, yn seiliedig ar ddeddfwriaeth. Prif her y cynllun gwirfoddol oedd tynnu anifeiliaid wedi'u heintio o fuchesi gwartheg er mwyn atal BVD rhag lledaenu. Mae hwn yn gam hanfodol tuag at ddileu BVD, ac rwyf bob amser wedi bod yn glir: byddai deddfwriaeth yn cael ei hystyried yn dilyn cyfnod gwirfoddol llwyddiannus ac yn amodol ar dystiolaeth briodol sy'n cael ei darparu i lywio a chyfiawnhau rheolaeth ddeddfwriaethol.
Rydym wedi casglu safbwyntiau'r diwydiant ar y cynnig ar gyfer cynllun dileu gorfodol yng Nghymru. Gan weithio mewn partneriaeth ochr yn ochr â Gwaredu BVD a grŵp llywio BVD, lansiwyd ein hymgynghoriad fis Mehefin diwethaf, yn gofyn am farn gan y gymuned cadw gwartheg a rhanddeiliaid ehangach. Cawsom dros 100 o ymatebion gan wahanol gynrychiolwyr y diwydiant gwartheg yng Nghymru, gan gynnwys ceidwaid, milfeddygon, undebau ffermio ac arwerthwyr. Rwy'n falch o nodi cefnogaeth ysgubol y diwydiant ar y mater pwysig hwn, a chadarnhaodd yr ymgynghoriad awydd am fesurau llymach, gyda'r mwyafrif yn cefnogi cyflwyno deddfwriaeth a gofynion gorfodol i ddileu BVD yng Nghymru yn effeithiol. Fe wnaethom wrando ar yr adborth, ac wrth i ni fynd i mewn i'r cyfnod pontio a pharatoi ar gyfer deddfwriaeth yn y dyfodol, mae'n hanfodol bod ceidwaid yn parhau i brofi eu buchesi am BVD a chael gwared ar anifeiliaid sydd wedi'u heintio'n gyson cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl.
Y bwriad ar gyfer cynllun yn y dyfodol o hyd yw darparu set o ofynion i ganiatáu i geidwaid dynnu BVD o'u buchesi a'i gadw allan drwy fioddiogelwch da. Byddai gofynion gorfodol yn sicrhau bod egwyddorion dileu BVD effeithiol yn cael eu dilyn a gall y fuches genedlaethol elwa ar ganlyniadau hirdymor cyflawni rhyddid rhag BVD. Byddwn yn parhau i adeiladu ar gynnydd a llwyddiannau cam gwirfoddol y cynllun, ac wrth i ni fynd ymlaen i'w gam nesaf, hoffwn ddiolch i'r diwydiant gwartheg, partneriaid cyflenwi a cheidwaid ledled Cymru am eu gwyliadwriaeth a'u hymdrechion hyd yma tuag at ddileu BVD.
Gan droi at y clafr: un o glefydau mwyaf heintus defaid, mae'r clafr yn fygythiad sylweddol i'n diwydiant defaid. Y rheswm dros hyn yw nifer fawr a maint y diadellau, patrymau symudiadau defaid a defnydd helaeth o bori cyffredin yng Nghymru. Rhaid i bob ceidwad defaid gydnabod ei gyfrifoldeb i sicrhau bod ei anifeiliaid yn cael eu cadw'n rhydd o'r clafr. Rwyf wedi ymrwymo £4.5 miliwn o gyllid cynllun buddsoddi gwledig i'w ddefnyddio i helpu i gefnogi'r diwydiant i fynd i'r afael â'r clefyd. Bydd dileu'r clefyd difrifol hwn yn diogelu lles defaid yng Nghymru, yn diogelu enw da 'brand Cymru' ac yn sicrhau manteision economaidd sylweddol i'r sector, a hynny ar adeg arbennig o heriol wrth i ni bontio o'n hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd.
Yn 2021 a 2022, comisiynais ddau brosiect prawf-o-gysyniad y clafr i nodi bylchau gwybodaeth. Fe wnaethon nhw dreialu tri pheth yn llwyddiannus: yn gyntaf, prawf diagnostig gwaed ELISA newydd ac arloesol i nodi'r clafr mewn diadellau cyfagos sydd mewn risg; yn ail, trin diadellau yr effeithiwyd arnynt gan ddipio symudol proffesiynol i ddileu'r clefyd gan sicrhau nad oedd perygl o'r niwed amgylcheddol o lygredd dip; ac yn drydydd, hwylusodd y prosiectau grwpiau rheoli clefydau lleol i gymryd perchnogaeth o achosion pan oeddynt yn digwydd a grymuso ceidwaid defaid i weithio ar y cyd i ddileu'r clefyd yn eu hardal. Yn ogystal â hyn, rydym yn ariannu profion crafu croen trwy gydol y flwyddyn am ddim ar gyfer y clafr, trwy Ganolfan Ymchwil Filfeddygol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yng Nghaerfyrddin ar gyfer diadellau Cymru.
Yn dilyn y cynlluniau treialu hyn, ym mis Gorffennaf 2022, aeth tendr i'r diwydiant i gyflwyno cais i gyflawni rhaglen dileu y clafr Cymru gyfan gwerth £4.5 miliwn. Mae'r prosiect yn cynnig cefnogaeth sylweddol gan Lywodraeth Cymru i'r diwydiant defaid a'n milfeddygon defaid i fynd i'r afael â'r clafr a'i ddileu. Rydym yn gobeithio ac yn disgwyl y bydd y diwydiant defaid yn defnyddio'r cyfle hwn i roi'r mesurau angenrheidiol ar waith i atal y clafr rhag lledaenu rhwng diadellau.
Mae amcanion strategol y rhaglen yn seiliedig ar egwyddorion rheoli clefydau heintus: ei gadw allan—drwy wella bioddiogelwch yn sylweddol o fewn y sector defaid; ei ganfod yn gynnar—drwy ddefnyddio'r prawf ELISA newydd, sy'n canfod y clafr bythefnos cyn bod arwyddion clinigol yn dangos; ei atal rhag lledaenu—drwy annog prynu defaid gwybodus a thrwy gymryd y rhagofalon bioddiogelwch angenrheidiol pryd bynnag y bydd defaid yn cael eu symud; a'i ddileu—drwy drin defaid sydd wedi'u heintio yn effeithiol ac mewn ffordd amgylcheddol gynaliadwy.
Mae disgwyl i'r rhaglen gael ei lansio yng ngwanwyn 2023. Mae Llywodraeth Cymru'n gwneud ei rhan, a nawr mae'n rhaid i ni weithio mewn partneriaeth â'n ffermwyr defaid, contractwyr, arwerthwyr, cludwyr a'n sector defaid i gadw ein 9.5 miliwn o ddefaid a'n hŵyn yn ddiogel rhag y clafr. Diolch.
Rwy'n sicr yn croesawu'r cyfle i siarad ar BVD a'r clafr, dau glefyd dinistriol sy'n gofyn yn haeddiannol am sylw Llywodraeth Cymru. Rwy'n falch o glywed nifer y cyhoeddiadau yr ydych chi wedi'u gwneud y prynhawn yma, Gweinidog, ac yn croesawu'r rhai a fydd yn helpu i gefnogi'r gymuned amaethyddol yn eu hymdrechion eu hunain i frwydro yn erbyn yr anhwylderau hyn, felly diolch.
Mae eich datganiad yn tynnu sylw'n berffaith at pam mae'n rhaid i ni drin y materion hyn â'r pwysigrwydd mwyaf, a pham mae angen dull bioddiogelwch cyfannol ac wedi'i dargedu os ydym ni am fodloni eich uchelgeisiau ac uchelgeisiau'r diwydiant a chael unrhyw obaith o leihau a dileu trosglwyddiad BVD a'r clafr ymhlith gwartheg a defaid Cymru. Mae'r ddau glefyd hyn yn fygythiad cynyddol i'n buarthau fferm, o'r baich economaidd yn sgil y clafr ar ein heconomi amaethyddol, i'r gost unigol fesul buwch y caiff BVD ar ein ffermydd. Maen nhw'n ddau fater difrifol sydd â goblygiadau allweddol ar allu'r diwydiant amaethyddol i weithredu, masnachu a dod yn fodel busnes fferm hyfyw.
Gan ganolbwyntio ar BVD, mae hwn yn feirws endemig o ran maint, ac rydych chi'n iawn i ddweud bod yn rhaid gwneud pob ymdrech i ddileu BVD o'n gwartheg. Mae gwartheg sy'n rhydd o BVD yn iachach, yn llai agored i afiechydon a chlefydau eraill, ac, fel y gwnaethoch chi ddweud yn briodol, Gweinidog, yn lleihau'r angen am wrthfiotigau. Mae rhan o'r llwyddiant diweddar yn deillio o brosiect Gwaredu BVD, dull cydweithredol sydd wedi'i fabwysiadu gan y Llywodraeth yn gweithio gyda'r holl bartneriaid—undebau ffermio, ffermwyr gwartheg unigol, arwerthwyr a milfeddygon, fel y gwnaethoch chi sôn—i ddatblygu strategaeth sydd wedi'i thargedu ac sy'n achub y blaen yn ei dull o weithredu. A, Gweinidog, gallaf i ddweud wrthych chi, rwyf wedi bod yn ei chanol hi, yn tagio stoc ifanc gyda thagiau meinwe i'w hanfon i ffwrdd i gael eu dadansoddi.
Rwy'n credu bod, yn sicr, wersi y gellir eu dysgu o'n llwyddiannau yn y strategaeth hon, yn enwedig y ffordd y mae'r diwydiant cyfan wedi chwarae rhan uniongyrchol yn ei datblygiad a lefel perchnogaeth sydd gan y diwydiant wrth fynd i'r afael â BVD. Dangosir hynny gan y ganran uchel o fuchesi sy'n cael eu sgrinio yn y prosiect pum mlynedd. Nodais yn eich datganiad eich bod yn cyfeirio at baratoi deddfwriaeth yn y dyfodol, gan sicrhau bod ffermwyr da byw yn parhau i brofi eu buchesi am BVD ac i gael gwared ar anifeiliaid sydd wedi'u heintio'n barhaol cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog: a fydd ffermwyr yn cael iawndal am gael eu gorfodi i dynnu yr anifeiliaid sydd wedi'u heintio o'r fuches? Gyda'r symudiad o brofion gwirfoddol i brofion gorfodol, a methiant profion gorfodol yn gysylltiedig â thwbercwlosis mewn gwartheg, pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi na fydd y profion BVD gorfodol hefyd yn faich ychwanegol hirdymor i ffermwyr ac un a fydd yn sicrhau canlyniadau diriaethol yn y tymor byr a'r dyfodol agos?
Gan symud y pwyslais i'r clafr, rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn cydnabod graddfa'r clefyd parasitig hwn. Mae'n effeithio ar dros ddwy fil o ffermydd ledled Cymru, dros 3 miliwn o ddefaid, sy'n costio £78 miliwn i economi wledig y DU, £208 miliwn y flwyddyn. Ond nid y colledion economaidd yn unig ddylai ein pryderu ni. Mae'r clafr yn cael effaith sylweddol ar les a chysur defaid ac, o'r herwydd, yn broblem amlwg i amaethyddiaeth Cymru gyfan.
Rwy'n falch o nodi eich bwriad i lansio rhaglen dileu'r clafr trwy Gymru gyfan yn ddiweddarach eleni. Dylai'r amcanion strategol y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw yn eich datganiad ddarparu sail glir i ddatblygu strategaeth ddileu gydlynol a chydweithredol sy'n ceisio darparu cefnogaeth sylweddol i'n diwydiant defaid. Fodd bynnag, rwy'n anghytuno, ychydig, gyda'r syniad y dylai'r sector da byw fwrw ymlaen a bodloni'r heriau a gyflwynir gan y clafr. Rwyf wedi cwrdd â chynrychiolwyr diwydiant defaid Cymru, ac rwy'n credu ei bod yn amlwg eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i leihau ei drosglwyddiad ymysg y ddiadell, waeth beth yw'r beichiau yn eu ffordd.
Un baich y bydd y Gweinidog yn siŵr y byddwn i'n ei godi yn y datganiad hwn yw'r cynnydd arfaethedig yn ffioedd a thaliadau rheoleiddio Cyfoeth Naturiol Cymru—cam sydd ar fin niweidio yn sylweddol gallu Cymru i drechu'r clafr. Mae eu bwriad i gynyddu deg gwaith cost ceisiadau newydd ar gyfer gwasgaru dip defaid sydd wedi ei ddefnyddio a heb ei ddefnyddio ar dir yn draul enfawr, ac yn ddi-os bydd yn lleihau ein gallu i wella iechyd anifeiliaid. Felly, a gaf i annog y Gweinidog, unwaith eto, i weithio gyda'i chyd-Weinidog y Gweinidog newid hinsawdd i sicrhau nad yw'r ffioedd hyn yn rhwystro ymdrechion iechyd anifeiliaid y sector amaethyddol?
Gweinidog, rwy'n rhannu eich cydnabyddiaeth o bwysigrwydd mynd i'r afael â'r ddau fater hyn. Mae'n hanfodol ein bod yn cadw llygad barcud ar lwyddiant yr ymyraethau hyn, fel y gallwn eu haddasu a'u newid os ydym yn methu â chyflawni ar unrhyw un man ar hyd y daith. I'r perwyl hwnnw, a gaf i ofyn i chi sut y byddwch chi'n rhoi gwybod i ni fel Senedd, y diwydiant hefyd—yn bwysicaf oll—a pha gyfleoedd fydd i adolygu'r llwyddiannau, neu fethiannau o bosibl—pa un bynnag y gallant fod—wrth inni symud ymlaen? Edrychaf ymlaen yn fawr at eich ymateb. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch yn fawr iawn am groesawu'r datganiad y prynhawn yma a'r cyhoeddiadau ynghylch dileu BVD a'r clafr.
Rwy'n credu, o ran BVD, y bu'n dda rhoi rhywfaint o amser sylweddol i'r cynllun gwirfoddol. Rwy'n credu bod galw gwirioneddol wedi bod i fynd am ddeddfwriaeth, ac rwy'n deall hynny'n llwyr, oherwydd rwy'n credu mai'r hyn nad oedd y sector ei eisiau oedd colli'r enillion a wnaed. Yn amlwg, roedd problem sylweddol gydag ychydig o ffermydd yn unig—canran fach o ffermydd—heb ymgymryd â rhan wirfoddol y cynllun. Weithiau, dydych chi ddim eisiau defnyddio deddfwriaeth i ymdrin â phroblem fach—mae'n rhy lawdrwm. Roeddem ni eisiau i'r cynllun gael y pum mlynedd i edrych ar y data, ac roeddwn i'n hollol glir mai dim ond pe bai'r dystiolaeth yno i ddangos bod angen deddfwriaeth y byddem ni'n gwneud hynny. Rwy'n credu ein bod wedi gwneud enillion o'r fath mewn cysylltiad â dileu BVD, ac yn wir byddai'n drueni colli hynny, yn enwedig, fel y soniais i yn y datganiad, oherwydd y cyfnod heriol yr ydym yn ei wynebu, yn enwedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Dydych chi ddim eisiau i wledydd eraill fynd o'n blaenau ni o ran dileu.
O ran y clafr, mae'n debyg mai'r hyn rwy'n ei olygu wrth 'bwrw ymlaen' yw rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod y diwydiant ei hun yn cael rheolaeth arno, perchnogaeth ohono. Rwy'n hapus iawn i weithio mewn partneriaeth. Roeddwn i wedi gobeithio cyflwyno'r cynllun hwn ychydig yn ôl. Rwy'n credu mai nôl yn 2019 wnes i gyhoeddi'r cyllid, a bu'n rhaid ailbwrpasu'r cyllid hwnnw yn ystod pandemig COVID am gwpl o flynyddoedd. Ond roeddwn i wedi addo cyflwyno'r cyllid i gael y rhaglen dileu'r clafr Cymru gyfan honno, er ei bod hi wedi bod ychydig yn hirach nag yr oeddwn i wedi gobeithio. Dydyn ni ddim wir wedi gweld llawer o gynnydd. Felly dyna, mae'n debyg, yw'r hyn rwy'n ei olygu. Rwy'n hapus iawn i weithio mewn partneriaeth. Rwy'n credu, os ydyn ni'n mynd i wneud unrhyw beth, mae angen i ni weithio mewn partneriaeth.
Rwy'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am yr ymgynghoriad parhaus ynghylch ffioedd rheoleiddio a thaliadau Cyfoeth Naturiol Cymru. Byddwch chi wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen mai'r hyn y mae'r adolygiad hwnnw yn ceisio ei sicrhau yw bod CNC yn sicrhau adferiad costau llawn, oherwydd nid yw'r ffioedd hynny wedi'u hadolygu am nifer o flynyddoedd. Ond mae CNC yn disgwyl y bydd y cynnydd mewn costau dim ond yn effeithio ar nifer fach iawn o ffermydd. Ar hyn o bryd, maen nhw'n cyflwyno, ar gyfartaledd, tua 37 trwydded y flwyddyn, felly gallwch chi weld nad yw'n fater sylweddol i lawer o bobl.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Mae'n ddatganiad hirddisgwyliedig, a thra bod yna lawer o bethau yno i'w groesawu, mae'n flin gen i ddweud fy mod i hefyd yn siomedig.
Os caf i gychwyn efo BVD. BVD, fel rydyn ni wedi clywed, ydy un o'r heintiau a'r heriau mwyaf sydd yn wynebu'r sector gwartheg yng Nghymru, ac yn wir, yn y Deyrnas Gyfunol. Mae yna lawer gormod o wartheg yn dioddef o'r haint erchyll yma, ac mae'n arwain at bryderon ynghylch lles anifeiliaid, lles busnesau bach cefn gwlad, a lles ein ffermwyr a'u teuluoedd. Ond y gwir anffodus ydy bod y sector milfeddygol yn dweud wrthyf i ei fod hefyd yn rywbeth cymharol hawdd i fynd i'r afael ag e.
Mae yna £10 miliwn eisoes wedi cael ei wario er mwyn mynd i'r afael â'r haint yma. Fel y soniodd y Gweinidog, mae canran fawr—dros 80 y cant—o'r gyrrod—beth bynnag yw lluosog 'gyr' yn y Gymraeg—wedi cael eu trin. Ond dwi'n meddwl mai'r Athro George Gunn, sy'n arbenigo mewn epidemioleg milfeddygol, ddywedodd mai'r allwedd i lwyddiant unrhyw bolisi i fynd i'r afael â BVD ydy momentwm. Yn anffodus, yn ôl beth welaf i yma heddiw, mae'r momentwm hwnnw a oedd wedi dechrau yma yng Nghymru am ddirwyn i ben. Bydd y £10 miliwn o bres Ewropeaidd a wariwyd yn wastraff heb fod yna barhad efo hyn. Yr unig ffordd go iawn o sicrhau parhad llwyddiant y rhaglen yma ydy trwy ddeddfu, fel rydym ni wedi clywed. Mae'n rhaid deddfu er mwyn sicrhau bod ffermwyr yn parhau i brofi. Dyna beth roeddwn i, y milfeddygon a'r ffermwyr yn gobeithio ei glywed heddiw. Ac er fy mod yn croesawu'r uchelgais tuag at hyn, mae yna beryg go iawn y byddwn yn colli momentwm os nad ydym yn gweld Bil yn cael ei gyflwyno.
Mi oeddech chi'n sôn am adeiladu ar lwyddiant phase gwirfoddol y cynllun BVD ac am fynd ymlaen i'r phase nesaf. Ond mae'r datganiad yn gorffen yn sydyn yn fanno. Dwi'n gwybod y bydd milfeddygon a ffermwyr sy'n gwrando yn gwbl rhwystredig heddiw, oherwydd ble mae'r manylion am y phase nesaf? Dydyn ni ddim yn gwybod. Tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym ni beth ydy manylion y phase nesaf. Sut ydyn ni am adeiladu ar y gwaith yma? Sut mae'r Gweinidog yn disgwyl i ffermwyr barhau i brofi yn wirfoddol? Mae profi yn costio, wrth gwrs. O ble ddaw'r pres ar gyfer y profion yma? Am ba hyd mae'r phase nesaf am fod? Ond, yn bwysicach fyth, pryd fedrwn ni ddisgwyl Bil er mwyn gorfodi hyn? Fan leiaf, a gawn ni amserlen glir ar gyfer deddfwriaeth, os gwelwch yn dda?
Yn olaf, efo'r clafr, mae hwn yn ddatblygiad cadarnhaol, a dwi'n ei groesawu. Ond, unwaith eto, mae yna wendid sylfaenol, sef y diffyg mewn cefnogaeth statudol i gynlluniau i fynd i'r afael â'r clafr. Mewn ateb i gwestiwn gen i rai misoedd yn ôl ynghylch yr addewid i roi £5 miliwn i gynllun er mwyn mynd i'r afael â'r clafr, fe ddywedodd y Gweinidog yn ei hymateb ei bod hi wedi rhoi swm sylweddol, ond bod COVID wedi amharu ar y rhaglen. Rwy'n deall nad oedd hwnnw ar y pryd yn gwbl gywir, ac efallai i'r Gweinidog gamsiarad. Felly, a all y Gweinidog heddiw gadarnhau os mai'r un pres ydy'r £4.5 miliwn yma sy'n cael ei gyhoeddi heddiw a gafodd ei gyhoeddi'n flaenorol, ac felly nad pres newydd ydy o, ond ailddatgan rhywbeth a wnaed yn flaenorol ydy hwn, yntau ai pres newydd ydy hwn?
Yn olaf, mae cyhoeddiad diweddar Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod am gynyddu'r ffi o gael gwared ar ddip defaid i 10 gwaith y pris presennol wedi codi braw ar ffermwyr, ac, yn wir, mewn peryg o arwain at lai o ddipio, a fydd yn niweidio ffermwyr, busnesau gwledig a lles anifeiliaid. Mi fuasai hyn yn mynd yn groes i unrhyw uchelgais gan y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r clafr. Yn yr ymgynghoriad, roedd yna sôn bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn barod i ganiatáu hepgor peth o'r ffioedd, efo ffioedd llai, hwyrach, er mwyn rheoli heintiau. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddwyn perswâd ar Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud ar draws y bwrdd, i bob fferm sy'n delio efo defaid, er mwy galluogi ffermwyr i barhau i ddipio yn ddiogel, a sicrhau lles eu hanifeiliaid? Diolch.
Diolch. Rwy'n siomedig o glywed eich siom, Mabon, oherwydd, fel y dywedais i, rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol—mae dros 80 y cant o fuchesi wedi cael eu profi trwy'r cynllun gwirfoddol. Ac er bod galwad wedi bod am ddeddfwriaeth, fe glywsoch chi fi'n dweud yn fy ateb cynharach i Sam Kurtz ei bod hi'n bwysig iawn bod gennym ni'r dystiolaeth honno oedd ei hangen i fwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth, a'n bod yn wir yn cael y ddeddfwriaeth honno. Rydych chi'n gofyn am amserlen, a bydd hi o fewn y flwyddyn ariannol nesaf pan fyddwn yn cyflwyno'r ddeddfwriaeth. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n croesawu hynny.
Byddwn i'n annog pob ceidwad gwartheg i barhau i brofi sampl fach o'u gwartheg. Amcangyfrifir bod y gost rhwng £50 a £150 y flwyddyn, felly nid yw'n swm sylweddol o gyllid sydd ei angen. Yn amlwg, mae'r gymhareb cost a budd o ddileu BVD yn hynod gadarnhaol, ac, rwy'n credu, yn fuddsoddiad gwerth chweil mewn unrhyw fusnes ffermio.
O ran cyllid y rhaglen dileu'r clafr, yr un cyllid ydyw, fel y dywedais i yn fy ateb cynharach i Sam Kurtz. Fe wnes i'r cyhoeddiad nôl yn 2019 ac roeddwn i wedi gobeithio cyflwyno'r cynllun yn llawer cyflymach nag yr ydym ni, ond fe wnaethon ni ailbwrpasu'r cyllid yn ystod COVID, felly cafodd yr arian ei ddefnyddio bryd hynny. Felly, yr un arian ydyw, os ydych chi'n gwybod beth rwy'n ei olygu, yn y cyhoeddiad hwnnw nôl yn 2019.
Unwaith eto, byddwch wedi fy nghlywed yn ateb y pryderon ynghylch Cyfoeth Naturiol Cymru. Maen nhw'n disgwyl i'r cynnydd hwnnw effeithio ar nifer fach o ffermydd yn unig. Fyddwn i ddim eisiau i hynny gael ei ddefnyddio fel esgus i beidio â thrin y clafr, a gwneud yn siŵr bod pawb yn cymryd rhan yn y rhaglen dileu'r clafr Cymru gyfan hon. Dydy'r Llywodraeth ddim yn gallu gwneud hyn ar ei phen ei hun, ac rwy'n gallu gweld nad yw'r diwydiant yn gallu gwneud hyn ar ei ben ei hun, ond mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gweithio mewn partneriaeth.
Diolch i'r Gweinidog.