Part of the debate – Senedd Cymru am 5:46 pm ar 31 Ionawr 2023.
Rwy'n sicr yn croesawu'r cyfle i siarad ar BVD a'r clafr, dau glefyd dinistriol sy'n gofyn yn haeddiannol am sylw Llywodraeth Cymru. Rwy'n falch o glywed nifer y cyhoeddiadau yr ydych chi wedi'u gwneud y prynhawn yma, Gweinidog, ac yn croesawu'r rhai a fydd yn helpu i gefnogi'r gymuned amaethyddol yn eu hymdrechion eu hunain i frwydro yn erbyn yr anhwylderau hyn, felly diolch.
Mae eich datganiad yn tynnu sylw'n berffaith at pam mae'n rhaid i ni drin y materion hyn â'r pwysigrwydd mwyaf, a pham mae angen dull bioddiogelwch cyfannol ac wedi'i dargedu os ydym ni am fodloni eich uchelgeisiau ac uchelgeisiau'r diwydiant a chael unrhyw obaith o leihau a dileu trosglwyddiad BVD a'r clafr ymhlith gwartheg a defaid Cymru. Mae'r ddau glefyd hyn yn fygythiad cynyddol i'n buarthau fferm, o'r baich economaidd yn sgil y clafr ar ein heconomi amaethyddol, i'r gost unigol fesul buwch y caiff BVD ar ein ffermydd. Maen nhw'n ddau fater difrifol sydd â goblygiadau allweddol ar allu'r diwydiant amaethyddol i weithredu, masnachu a dod yn fodel busnes fferm hyfyw.
Gan ganolbwyntio ar BVD, mae hwn yn feirws endemig o ran maint, ac rydych chi'n iawn i ddweud bod yn rhaid gwneud pob ymdrech i ddileu BVD o'n gwartheg. Mae gwartheg sy'n rhydd o BVD yn iachach, yn llai agored i afiechydon a chlefydau eraill, ac, fel y gwnaethoch chi ddweud yn briodol, Gweinidog, yn lleihau'r angen am wrthfiotigau. Mae rhan o'r llwyddiant diweddar yn deillio o brosiect Gwaredu BVD, dull cydweithredol sydd wedi'i fabwysiadu gan y Llywodraeth yn gweithio gyda'r holl bartneriaid—undebau ffermio, ffermwyr gwartheg unigol, arwerthwyr a milfeddygon, fel y gwnaethoch chi sôn—i ddatblygu strategaeth sydd wedi'i thargedu ac sy'n achub y blaen yn ei dull o weithredu. A, Gweinidog, gallaf i ddweud wrthych chi, rwyf wedi bod yn ei chanol hi, yn tagio stoc ifanc gyda thagiau meinwe i'w hanfon i ffwrdd i gael eu dadansoddi.
Rwy'n credu bod, yn sicr, wersi y gellir eu dysgu o'n llwyddiannau yn y strategaeth hon, yn enwedig y ffordd y mae'r diwydiant cyfan wedi chwarae rhan uniongyrchol yn ei datblygiad a lefel perchnogaeth sydd gan y diwydiant wrth fynd i'r afael â BVD. Dangosir hynny gan y ganran uchel o fuchesi sy'n cael eu sgrinio yn y prosiect pum mlynedd. Nodais yn eich datganiad eich bod yn cyfeirio at baratoi deddfwriaeth yn y dyfodol, gan sicrhau bod ffermwyr da byw yn parhau i brofi eu buchesi am BVD ac i gael gwared ar anifeiliaid sydd wedi'u heintio'n barhaol cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog: a fydd ffermwyr yn cael iawndal am gael eu gorfodi i dynnu yr anifeiliaid sydd wedi'u heintio o'r fuches? Gyda'r symudiad o brofion gwirfoddol i brofion gorfodol, a methiant profion gorfodol yn gysylltiedig â thwbercwlosis mewn gwartheg, pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi na fydd y profion BVD gorfodol hefyd yn faich ychwanegol hirdymor i ffermwyr ac un a fydd yn sicrhau canlyniadau diriaethol yn y tymor byr a'r dyfodol agos?
Gan symud y pwyslais i'r clafr, rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn cydnabod graddfa'r clefyd parasitig hwn. Mae'n effeithio ar dros ddwy fil o ffermydd ledled Cymru, dros 3 miliwn o ddefaid, sy'n costio £78 miliwn i economi wledig y DU, £208 miliwn y flwyddyn. Ond nid y colledion economaidd yn unig ddylai ein pryderu ni. Mae'r clafr yn cael effaith sylweddol ar les a chysur defaid ac, o'r herwydd, yn broblem amlwg i amaethyddiaeth Cymru gyfan.
Rwy'n falch o nodi eich bwriad i lansio rhaglen dileu'r clafr trwy Gymru gyfan yn ddiweddarach eleni. Dylai'r amcanion strategol y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw yn eich datganiad ddarparu sail glir i ddatblygu strategaeth ddileu gydlynol a chydweithredol sy'n ceisio darparu cefnogaeth sylweddol i'n diwydiant defaid. Fodd bynnag, rwy'n anghytuno, ychydig, gyda'r syniad y dylai'r sector da byw fwrw ymlaen a bodloni'r heriau a gyflwynir gan y clafr. Rwyf wedi cwrdd â chynrychiolwyr diwydiant defaid Cymru, ac rwy'n credu ei bod yn amlwg eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i leihau ei drosglwyddiad ymysg y ddiadell, waeth beth yw'r beichiau yn eu ffordd.
Un baich y bydd y Gweinidog yn siŵr y byddwn i'n ei godi yn y datganiad hwn yw'r cynnydd arfaethedig yn ffioedd a thaliadau rheoleiddio Cyfoeth Naturiol Cymru—cam sydd ar fin niweidio yn sylweddol gallu Cymru i drechu'r clafr. Mae eu bwriad i gynyddu deg gwaith cost ceisiadau newydd ar gyfer gwasgaru dip defaid sydd wedi ei ddefnyddio a heb ei ddefnyddio ar dir yn draul enfawr, ac yn ddi-os bydd yn lleihau ein gallu i wella iechyd anifeiliaid. Felly, a gaf i annog y Gweinidog, unwaith eto, i weithio gyda'i chyd-Weinidog y Gweinidog newid hinsawdd i sicrhau nad yw'r ffioedd hyn yn rhwystro ymdrechion iechyd anifeiliaid y sector amaethyddol?
Gweinidog, rwy'n rhannu eich cydnabyddiaeth o bwysigrwydd mynd i'r afael â'r ddau fater hyn. Mae'n hanfodol ein bod yn cadw llygad barcud ar lwyddiant yr ymyraethau hyn, fel y gallwn eu haddasu a'u newid os ydym yn methu â chyflawni ar unrhyw un man ar hyd y daith. I'r perwyl hwnnw, a gaf i ofyn i chi sut y byddwch chi'n rhoi gwybod i ni fel Senedd, y diwydiant hefyd—yn bwysicaf oll—a pha gyfleoedd fydd i adolygu'r llwyddiannau, neu fethiannau o bosibl—pa un bynnag y gallant fod—wrth inni symud ymlaen? Edrychaf ymlaen yn fawr at eich ymateb. Diolch, Dirprwy Lywydd.