Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 7 Chwefror 2023.
Diolch, Weinidog. Rydyn ni yn tynnu am bythefnos rŵan ers y cyhoeddiad—cyfnod byr oedd yr ymgynghoriad i gyd. Ac, er ei bod hi'n amlwg o'r cychwyn mai'r perig ydy bod hwn yn benderfyniad sydd eisoes wedi ei wneud, mae hi'n allweddol, wrth gwrs, mai'r flaenoriaeth ydy gweld a oes unrhyw beth y mae modd ei wneud er mwyn newid meddwl y cwmni. Ond, mae'n rhaid ar yr un pryd baratoi am y gwaethaf. Rydyn ni yn sôn am impact enfawr ar y gymuned—3 y cant o holl weithlu Ynys Môn.
Yn wyneb hynny, ydy'r Gweinidog yn cytuno efo fi bod rhaid i'r ymateb fod yn sylweddol ac yn gyflym, a hynny gan Lywodraethau Cymru a Phrydain, gan fod gymaint o beth sydd wedi gyrru hyn, o Brexit i gostau ynni, yn faterion dan gyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac, o fuddsoddiad mawr mewn creu swyddi i gefnogaeth efo costau byw, fod angen i Weinidogion yng Nghaerdydd, a Gweinidogion yn Llundain, wneud datganiad buan, y gallwn ni, y gymuned, y cyngor, y cynlluniau datblygu economaidd, ddisgwyl cefnogaeth ariannol sylweddol?