Safle'r 2 Sisters Food Group yn Llangefni

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 7 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:32, 7 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n credu bod 2 Sisters Poultry Ltd yn mynnu ei fod yn ymgynghoriad ystyrlon ac nad oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud. Ond, rwy'n credu eich bod chi yn llygad eich lle—mae angen i ni, yn amlwg, baratoi ar gyfer y gwaethaf. Fel y dywedais, nid oedd gennym ni unrhyw wybodaeth ymlaen llaw am hynny. Rwy'n credu y byddai wedi bod o gymorth pe baem ni wedi cael rhywfaint o wybodaeth ymlaen llaw. Fe wnaethom weithio'n agos iawn gyda'r gwaith hwnnw, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19; byddwch yn cofio y bu brigiad o achosion yno, ac fe wnaethon ni weithio'n agos iawn gyda nhw. Bu gennym ni berthynas â nhw, felly rwy'n credu ei bod hi'n siomedig na wnaethon nhw gysylltu â ni cyn y cyhoeddiad. 

Fel y gwyddoch—ac rydych chi'n sicr yn rhan o'r trafodaethau—rydyn ni i gyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda'n gilydd. Ar ddiwrnod y cyhoeddiad, fe wnes i a Gweinidog yr Economi gyfarfod ag arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn. Yna cafwyd trafodaethau pellach. Fe wnaeth y Prif Weinidog ei hun gyfarfod â'r awdurdod ar y bore canlynol, ac yna, gwn eich bod chi wedi cyfarfod â Gweinidog yr Economi ddydd Mawrth diwethaf, ac, yn amlwg, mae'r tasglu wedi cael ei sefydlu bellach. Fe'i cynhaliwyd am y tro cyntaf ar 3 Chwefror, pan oedd yr holl bartneriaid y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw yno, ynghyd â'r undeb llafur a'r Adran Gwaith a Phensiynau. Ac rwy'n credu ei bod hi'n gwbl briodol bod—. Mae hon yn enghraifft arall, onid yw, o le mae Brexit, chwyddiant a'r argyfwng ynni yn cael effaith gwbl niweidiol ar ein holl gymunedau, gan greu'r storm berffaith honno nad ydym ni wir eisiau ei gweld. Ond, mae'r rhain yn bobl go iawn yr effeithir arnyn nhw gan hyn, felly rydym ni'n annog Llywodraeth y DU, unwaith eto, i weithredu'n gyflym i gynorthwyo busnesau Cymru, ac, fel Llywodraeth, byddwn ni'n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu.