Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 7 Chwefror 2023.
Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 48 o welyau gofal llai dwys a phecynnau cymunedol ar draws Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hyn yn cyfrannu at y cyfanswm Cymru gyfan o 595 o welyau sydd wedi cael eu creu i gynorthwyo'r broses o ryddhau pobl o'r ysbyty y gaeaf hwn.