Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 7 Chwefror 2023.
Diolch. Fel y gwyddoch, rydym ni wedi cael achosion parhaus o ffliw adar ledled y DU dros yr 16 i 17 mis diwethaf bellach. Rydych chi yn llygad eich lle, mae'n rhywbeth y mae swyddogion yn gweithio'n agos iawn arno o ran y canfyddiadau gan APHA oherwydd nid wyf i'n credu ei fod yn rhywbeth yr ydym ni wedi ei weld—yn sicr doeddwn i ddim wedi bod yn ymwybodol ohono mae'n debyg bum mlynedd yn ôl. Felly, rwy'n credu ei fod yn rhywbeth sy'n esblygu—nid dyna'r gair cywir. Felly, os oes mwy o wybodaeth i ddod i'r amlwg, byddaf yn sicr yn hapus i rannu, ond gwn, eto, fod y prif swyddog milfeddygol dros dro yn awyddus iawn i weld beth allwn ni ei ddysgu o'r data hynny.