1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Chwefror 2023.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella lles anifeiliaid? OQ59099
Diolch. Cyhoeddwyd diwygiadau i'n canllawiau statudol ar gyfer Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014. Bydd cyflwyno rheoliadau lles anifeiliaid newydd yn cael ei flaenoriaethu dros ddiwygio rheoliadau presennol yn ystod cyfnod y cynllun.
Mae'n gymorth mawr cael gwybod hynna. Yn y 15 mis diwethaf, mae dau o drigolion Caerffili wedi cael eu lladd gan gŵn peryglus. Roedd un yn fachgen 10 oed, a'r llall yn fenyw 83 oed. Roedd y ddau yng nghymuned Penyrheol, sydd wedi cael ei tharo gan y ddau ddigwyddiad trasig, ar wahân, hyn. Mae fy nghydweithiwr Wayne David AS wedi codi'r mater yn Nhŷ'r Cyffredin ac mae'n rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i ddiweddaru a diwygio Deddf Cŵn Peryglus 1991. Mae rhaglen ddogfen y BBC Panorama yn ddiweddar wedi tynnu sylw at weithgareddau bridwyr cŵn diegwyddor, sy'n bridio cŵn ac yn cyfuno bridiau i osgoi bylchau yn y gyfraith, ac yna mae'r cŵn hynny yn cyrraedd cymunedau fel Penyrheol ac eraill ledled Cymru.
Felly, wrth ddiweddaru Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014, yr ydych chi wedi ymrwymo i'w wneud, a oes modd ystyried y mater hwn, yn enwedig traws-fridio? A byddwn yn hapus i eistedd i lawr gyda'r Gweinidog i drafod canlyniadau newid y gyfraith a sut y gall fod o fudd i'r cymunedau hynny yr effeithiwyd arnyn nhw yn y ffordd drasig yma.
Byddwn, yn sicr, byddwn yn fwy na pharod i gyfarfod â chi. Roedd gen i un yn fy etholaeth fy hun hefyd—bu ymosodiad angheuol gan gi yn fy etholaeth fy hun—a chyn i Julie Morgan ymuno â'r Llywodraeth, rwy'n cofio cael sawl cyfarfod gyda hi a chynghorydd lleol yng Nghaerdydd ynghylch hyn. Mae hyn yn rhywbeth y mae wir angen mynd i'r afael ag ef. Fel rydych chi'n dweud, nid yw'r Ddeddf Cŵn Peryglus wedi'i datganoli, ac rwyf i wedi codi hyn gyda chydweithwyr yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i weld a ellid cael cynllun i ddiwygio'r Ddeddf. Yn anffodus, nid yw'n ymddangos bod unrhyw symudiad gan Lywodraeth y DU i wneud hynny. Mae'r Ddeddf yn cwmpasu perchnogaeth bridiau penodol o gŵn yr ystyrir eu bod nhw'n beryglus, ond rydyn ni'n gwybod, wrth gwrs, y gall pob brîd o gŵn ddangos ymddygiad ymosodol weithiau. Felly, rwy'n meddwl bod hwnnw'n bwynt pwysig i'w gofio. I mi, fel Llywodraeth Cymru, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol, yn enwedig o ran y pwynt penodol hwnnw.
Rwy'n sicr yn hapus iawn i edrych ar eich awgrym. Fel y gwyddoch, fe wnaethon ni ddiweddaru'r rheoliadau trwyddedu lles anifeiliaid, ac fe wnaethon ni gau bylchau yn y rheini yn ymwneud â gwerthu anifeiliaid anwes i geisio gwella gorfodaeth gan awdurdodau lleol. Bu gennym ni'r prosiect gorfodi y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ariannu ers tair blynedd. Rwy'n credu bod angen i ni wneud yn siŵr bod y cyhoedd yn gwneud penderfyniadau cytbwys pan fyddan nhw'n prynu anifail anwes, felly roedd hynny'n rhan o'r rheoliadau hynny hefyd. Ond yn sicr mae mwy y gallwn ni ei wneud. Rwyf i wedi gofyn i swyddogion ddechrau edrych ar drwyddedu cŵn eto. Pan oeddwn i'n ifanc, roedd yn rhaid i bobl fod â thrwydded gŵn, ac efallai mai nawr yw'r amser i ystyried hynny. Rwyf i wedi gofyn i fy prif swyddog milfeddygol dros dro wneud hynny i mi.
I symud y pwyslais at les anifeiliaid nad ydyn nhw'n anifeiliaid anwes, rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol yn eich swyddogaeth fel y Gweinidog materion gwledig bod dyfrgwn a llwynogod wedi'u dynodi'n gludwyr y ffliw adar pathogenig iawn H5N1. Yn ôl data'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, mae 66 o famaliaid wedi eu profi hyd yma ar gyfer y clefyd, a chanfuwyd bod naw o ddyfrgwn a llwynogod yn bositif. Mae'n ymddangos bod yr anifeiliaid carthysol hyn, sy'n ysglyfaethu ar adar heintus, mewn perygl o ddal H5N1. Felly, o ystyried hyn, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddadansoddi hyn a sicrhau nad yw hyn yn lledaenu drwy'r llwynogod gwyllt a'r dyfrgwn gwyllt yma yng Nghymru?
Diolch. Fel y gwyddoch, rydym ni wedi cael achosion parhaus o ffliw adar ledled y DU dros yr 16 i 17 mis diwethaf bellach. Rydych chi yn llygad eich lle, mae'n rhywbeth y mae swyddogion yn gweithio'n agos iawn arno o ran y canfyddiadau gan APHA oherwydd nid wyf i'n credu ei fod yn rhywbeth yr ydym ni wedi ei weld—yn sicr doeddwn i ddim wedi bod yn ymwybodol ohono mae'n debyg bum mlynedd yn ôl. Felly, rwy'n credu ei fod yn rhywbeth sy'n esblygu—nid dyna'r gair cywir. Felly, os oes mwy o wybodaeth i ddod i'r amlwg, byddaf yn sicr yn hapus i rannu, ond gwn, eto, fod y prif swyddog milfeddygol dros dro yn awyddus iawn i weld beth allwn ni ei ddysgu o'r data hynny.
Prynhawn da, Gweinidog. Fyddwch chi ddim yn synnu o wybod mai un agwedd yr wyf i wedi ei chodi yma'n gyson yn y Siambr yw gwahardd rasio milgwn. Yn amlwg mae llawer ohonoch chi'n gwybod fy mod i wedi codi mater ein ci, Arthur. Yn anffodus, fe wnaethon ni ffarwelio ag Arthur ddoe. Dim ond 11 oed oedd Arthur, a dim ond ers tair blynedd yr oedd wedi bod gyda ni. Y cyfnod cyn hynny, yr wyth mlynedd cyn hynny, roedd naill ai wedi bod mewn cartref cŵn, neu bum mlynedd ar drac rasio, lle daeth y cartref cŵn o hyd iddo mewn amodau gwael ofnadwy. Roedd Arthur yn gi pryderus iawn. Aeth ei goesau cefn, a chafodd anaf difrifol iawn i'w wddf wrth rasio. Nid wyf i eisiau gweld mwy fel Arthur; nid wyf i eisiau dim mwy o gŵn yn dod allan fel Arthur. Felly, mae'n rhaid i ni wahardd rasio milgwn. Byddwn yn dweud wrthych: beth sy'n mynd i ddigwydd o ran eich swyddogion ddim yn ystyried a ddylid rheoleiddio rasio milgwn, ond ein bod ni eisiau gweld rasio milgwn yn cael ei wahardd yma yng Nghymru? Diolch yn fawr iawn.
Jane, mae'n ddrwg iawn gen i glywed am Arthur. Cafodd dair blynedd wych gyda chi. Rwy'n gwybod hynny'n bendant. Ac os gallwn ni wneud rhywbeth er cof am Arthur, byddwn yn sicr yn gwneud hynny. Fel y gwyddoch, mae hyn yn rhywbeth yr wyf i wedi bod yn edrych arno'n fanwl iawn. Rydyn ni wedi cael adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar wahardd rasio milgwn, ac, fel y gwyddoch, mae fy swyddogion wedi bod yn edrych ar yr hyn y gellir ei wneud yn hynny o beth. Mae angen i ni gasglu tystiolaeth os dyna'r ffordd yr ydym ni'n credu y dylai fynd. Ni allwn wneud unrhyw beth heb dystiolaeth ac edrychaf ymlaen yn fawr at barhau â'r ddadl hon. Ond mae'n wir ddrwg gen i am Arthur.