Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 7 Chwefror 2023.
Diolch. Ar y cyd â rhaglen Cymru Iach ar Waith, bydd gwasanaeth cymorth mewn gwaith newydd yn dechrau ym mis Ebrill 2023. Bydd hwn yn darparu cymorth galwedigaethol a therapiwtig i weithwyr aros mewn cyflogaeth neu ddychwelyd i gyflogaeth sy'n absennol o'r gwaith neu mewn perygl o fod yn absennol oherwydd eu salwch corfforol neu feddyliol.