Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 7 Chwefror 2023.
Jane, mae'n ddrwg iawn gen i glywed am Arthur. Cafodd dair blynedd wych gyda chi. Rwy'n gwybod hynny'n bendant. Ac os gallwn ni wneud rhywbeth er cof am Arthur, byddwn yn sicr yn gwneud hynny. Fel y gwyddoch, mae hyn yn rhywbeth yr wyf i wedi bod yn edrych arno'n fanwl iawn. Rydyn ni wedi cael adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar wahardd rasio milgwn, ac, fel y gwyddoch, mae fy swyddogion wedi bod yn edrych ar yr hyn y gellir ei wneud yn hynny o beth. Mae angen i ni gasglu tystiolaeth os dyna'r ffordd yr ydym ni'n credu y dylai fynd. Ni allwn wneud unrhyw beth heb dystiolaeth ac edrychaf ymlaen yn fawr at barhau â'r ddadl hon. Ond mae'n wir ddrwg gen i am Arthur.