Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 7 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:49, 7 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, rydym ni eisoes wedi defnyddio cronfeydd wrth gefn y ddwy flynedd nesaf, felly rydym ni eisoes wedi gwneud hynny. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn y cynnig ychwanegol hwnnw o 3 y cant yw—mae 1.5 y cant yn gyfnerthedig, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, ac nid yw'r 1.5 y cant arall. Mae'n rhaid i mi ddweud ein bod ni'n gwneud hyn gyda risg yn amlwg. Hon fu'r gyllideb anoddaf i mi ymdrin â hi erioed fel Gweinidog, ac rwy'n siŵr y byddai pawb sy'n eistedd o'm cwmpas ar y fainc flaen yn cytuno. Rydyn ni wedi gwneud ein gorau glas, ac rwy'n credu bod y Gweinidog a'i thîm, a weithiodd yn ddiflino i gyflwyno'r cytundeb hwn, a hefyd ynghyd â'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, sydd wedi dod o hyd i'r cyllid hwnnw, dylid eu llongyfarch nid eu beirniadu am dro pedol neu beth bynnag yr ydych chi eisiau ei alw. Croesawyd hyn gan y mwyafrif o bobl. Ni fyddem, wrth gwrs, wedi bod eisiau gweld gweithredu diwydiannol yn y ffordd yr ydym ni wedi ei weld, ac rydym ni'n falch iawn bod y mwyafrif o undebau llafur wedi gohirio'r streic yr oedden nhw'n mynd i'w chynnal ar y chweched a'r seithfed. Bydd hynny'n caniatáu amser i drafodaethau ystyrlon barhau. Mae drws y Gweinidog ar agor bob amser, ac rwy'n credu ei bod hi'n dda iawn ein bod ni wedi gallu parhau â'r trafodaethau hynny. Mae'n rhaid i ni ofyn i'r GIG wneud pethau hefyd. Felly, gwn, yn rhan o'r cynnig, bod y Gweinidog yn gofyn iddyn nhw edrych ar waith asiantaeth i weld pa arian y gellid ei arbed drwy staff asiantaeth hefyd. Felly, mae'n fater o bawb yn chwarae eu rhan ac yn gweithio gyda'i gilydd.