1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 7 Chwefror 2023.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. A gaf i uniaethu â'r sylwadau a wnaethoch yn gynharach yn y sesiwn hon, Llywydd? Ac a gaf i ofyn i chi, Trefnydd, yn sgil y golygfeydd erchyll sydd yn dod o Dwrci a Syria, a maint y cyfanswm o farwolaethau sy'n cynyddu fesul cannoedd, os nad miloedd, bob awr, pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r cymorth y byddwn ni yng Nghymru yn gallu ei roi? Yn aml iawn, mae hynny'n cynnwys timau chwilio ac achub, mae'n cynnwys cymorth dyngarol a chyflenwadau meddygol yn gyffredinol. Yn amlwg, bydd Llywodraeth y DU yn arwain ar hyn, ond mae gan Gymru draddodiad balch o helpu mewn sefyllfaoedd fel hyn, ac mae ymyrraeth gyflym ac amserol yn hollbwysig. Rwy'n cymryd eich bod chi wedi gwneud asesiad y gall Llywodraeth Cymru wneud cyfraniad allweddol. Felly, beth fydd y cyfraniad hwnnw a pha sgwrs ydych chi wedi ei chael gyda Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr ei fod yn digwydd mewn modd amserol?
Gwn fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi gofyn i'w swyddogion ddechrau'r trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU. Bydd hi ei hun yn gwneud datganiad i'r Senedd—datganiad ysgrifenedig mae'n debyg, byddwn yn dychmygu. Mae'r trafodaethau hynny wedi dechrau ac, fel y dywedais, bydd mwy o wybodaeth yn cael ei chyflwyno. Rydych chi yn llygad eich lle, mae gennym ni draddodiad balch iawn. Rwy'n siŵr bod pobl eisoes yn cael eu nodi i fynd i gynorthwyo'r gwaith achub. Fel rydych chi'n dweud, mae'n erchyll i'r rhanbarth. Rwyf i yn meddwl y bydd nifer y bobl a laddwyd yn sylweddol, yn y miloedd, fel y gwnaethoch chi ei ddweud.
Rwy'n siŵr, fel Aelodau, y byddem ni'n gwerthfawrogi'n fawr iawn cael yr wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted â phosibl, oherwydd nid yn afresymol, yn amlwg, mae etholwyr a sefydliadau sy'n gallu helpu yn cysylltu â ni, a byddai hynny i'w groesawu'n fawr. Gallaf weld y Gweinidog yn nodi y bydd hynny'n digwydd.
Yr wythnos diwethaf, cawsom gan yr archwilydd cyffredinol yr adroddiad ar brynu Fferm Gilestone. Roedd yn ddiddorol iawn ei ddarllen. Y disgrifiad gan fwrdd asesu risg Llywodraeth Cymru oedd bod y broses a ddefnyddiwyd i brynu Fferm Gilestone yn 'newydd'. Mae rhai pobl yn meddwl am Yes, Minister neu Yes, Prime Minister yn y gwasanaeth sifil yn siarad pan fyddwch chi'n meddwl am iaith o'r fath. Ond, pan fyddwch chi'n ymchwilio i rai o'r sylwadau yn yr adroddiad hwnnw, mae'n nodi chwe chyfarfod dros y cyfnod pan oedd penderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud gyda swyddogion a Gŵyl y Dyn Gwyrdd. Roedden nhw ar 22 Hydref, 26 Ionawr, 28 Ionawr, 11 Chwefror, 7 Mawrth a 23 Mawrth. Ni chymerwyd yr un nodyn na chofnod o'r cyfarfodydd hynny. Dim un nodyn na chofnod. Rydych chi'n Weinidog uchel iawn eich parch, yn arweinydd y tŷ, ac wedi bod yn y Llywodraeth ers cryn amser. A allwch chi feddwl am sefyllfa lle byddai parti â buddiant yn cymryd rhan mor fawr mewn trafodaethau pan gallen nhw fod yn fuddiolwr swm sylweddol o arian cyhoeddus ac na chymerwyd un cofnod, nodyn na chofnod ysgrifenedig o chwe chyfarfod yn ystod y cyfnod hwnnw?
Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n Weinidog sy'n gwneud llawer o nodiadau. Rwyf i wedi gwneud hynny erioed, ac rwyf i wedi eu dyddio nhw erioed. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Ond, rwy'n credu mai'r hyn sydd angen i ni edrych arno o ran llythyr yr archwilydd cyffredinol—. Rwy'n credu ei bod hi'n ddiddorol ei ddarllen. Roedd llawer o bethau positif ynddo, yr wyf i'n siŵr na fyddwch chi'n eu croesawu, ond roedd llawer o bethau cadarnhaol o ran y ffordd y gwnaeth Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r cyllid hwnnw. Mae'n rhaid i ni fod ychydig yn fwy arloesol weithiau. Mae llywodraeth, yn ôl ei natur, yn osgoi risg, ac mae hynny'n gwbl gywir pan ydych chi'n ymdrin ag arian cyhoeddus. Mae'n rhaid i chi fod yn ofalus iawn. Ond roeddwn i yn credu, i mi, fe wnes i gymryd llawer o bethau cadarnhaol o'r llythyr hwnnw. Mae'r pwysau ar ein cyllideb wedi cael llawer iawn o sylw, yn enwedig y gostyngiad termau real sy'n ein hwynebu. Mae'n rhaid i unrhyw benderfyniadau i wneud defnydd o gyllid, beth bynnag fo'r amser o'r flwyddyn, sicrhau bod y cynigion yn cynnig gwerth am arian, ac mae'n rhaid iddyn nhw gyd-fynd yn eglur â'n blaenoriaethau polisi ac mae angen iddyn nhw ddilyn y drefn briodol. Ni welais i unrhyw beth yn y llythyr hwnnw nad oedd yn dweud ein bod ni wedi gwneud hynny.
Gweinidog, ceir busnesau ar hyd a lled y wlad sy'n gwneud ceisiadau i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am gymorth, weithiau am sawl can punt, weithiau am filoedd, weithiau am ddegau o filoedd, os nad miliynau. Yma mae gennym ni ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru o £4.5 miliwn pryd na allwch chi gyfeirio at yr un nodyn na chofnod o'r rhyngweithio rhwng darpar fuddiolwr yr ymyrraeth honno a swyddogion y Llywodraeth a oedd yn gwneud penderfyniadau i gynghori'r Gweinidog ar y pryd. A dweud y gwir, fe wnaeth yr un swyddogion Llywodraeth gomisiynu'r gwerthwyr a'r cwmni cyfreithiol i wneud y gwaith heb gyngor gweinidogol. Daeth eu cyngor i ben cyn i'r Gweinidog ddweud mewn gwirionedd y gallen nhw wario'r £60,000 ar gaffael y gwasanaeth hwnnw.
Fy mhwynt i yw bod llawer o fusnesau ar hyd a lled Cymru—a byddwch yn gyfarwydd â hyn o'ch bag post fel Aelod etholaeth—yn achwyn am lefel yr wybodaeth y mae'n rhaid iddyn nhw ei darparu i gefnogi cais am grant. Rydym ni'n deall bod yn rhaid cadw cydbwysedd, gan ei fod yn arian cyhoeddus. Ond pam, yn yr achos hwn, nad oedd yr un—dim un—nodyn y gellid cyfeirio ato i ddangos lefel y rhyngweithio a'r hyn a drafodwyd, o gofio'r ymyrraeth gyflym iawn a'r amser cyflawni a ddefnyddiwyd gan y Llywodraeth yn yr agwedd benodol hon ar brynu'r fferm, y mae'r archwilydd cyffredinol yn tynnu sylw ato. Nid oedd unrhyw bwysau amser, oherwydd nid oedd prynwr arall ar ôl yr eiddo. Mae hyn yn ei adroddiad. Gallaf weld y Gweinidog yn troi rownd ac yn dweud, 'Nid yw hynna'n wir.' Mae yn adroddiad yr archwilydd cyffredinol. Ni allai ddod o hyd i unrhyw gyfyngiad amser arall ac eithrio cyfyngiad amser hunanosodedig Llywodraeth Cymru. Felly, gofynnaf i chi eto: pa enghreifftiau yn eich gyrfa weinidogol allwch chi feddwl amdanyn nhw pryd na fyddai rhyngweithio o'r fath wedi arwain at gofnod, nodyn, cofnod ysgrifenedig fel y gellid cadw'r rheini yn y broses atebolrwydd a thryloywder ac y gall pobl deimlo y bydd ganddyn nhw siawns teg pan fyddan nhw'n gwneud cais am gyllid Llywodraeth?
Rwy'n meddwl ei bod hi'n deg dweud y bu trafodaethau gyda Dyn Gwyrdd am safleoedd posibl ers cryn amser. Nid rhywbeth a ddigwyddodd yn gyflym iawn oedd hyn. Roedd y trafodaethau hynny wedi bod yn digwydd ers tro, ac roedd yr achos busnes amlinellol lefel uchel a ddarparwyd yn ddigon i fwrw ymlaen â'r pryniant. Felly, fel y dywedais, rwy'n meddwl bod llawer o bethau cadarnhaol yn y llythyr hwnnw gan yr archwilydd cyffredinol ac rydym ni'n croesawu hynny'n fawr, ac yn amlwg byddwn yn ceisio dysgu gwersi fel bob amser. Mae gwersi i'w dysgu bob amser.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch yn fawr, Llywydd. Pan awgrymodd Plaid Cymru ym mis Tachwedd i chi ddefnyddio cyfuniad o danwariant adrannol cronfeydd wrth gefn Cymru a chyllid heb ei ddyrannu i ariannu cynnig cyflog gwell i staff y GIG, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wrthym nad oedd unrhyw wariant heb ei ddyrannu ar gael, nad oedd unrhyw danwariant, ac na allech chi ddefnyddio cronfa wrth gefn Cymru. 'Hyd yn oed pe bai gennym ni danwariant,' meddai,
'gadewch inni fod yn glir na ellid defnyddio hwnnw i ariannu dyfarniadau cyflog.... Ni ellir defnyddio cronfeydd wrth gefn ar gyfer gwariant bob dydd.'
Dywedodd
'Dim ond unwaith y gellir eu defnyddio, a chânt eu cadw ar gyfer argyfyngau.'
Am fisoedd fe wnaethoch chi wrthod negodi, am fisoedd fe wnaethoch chi wrthod cyfaddef y gellid dod o hyd i fwy o arian, ac am fisoedd fe wnaethoch chi wrthod cydnabod ein bod ni mewn argyfwng. Nawr, rydych chi wedi gwneud tro pedol ar hynny i gyd i bob pwrpas. Pam gymeroch chi gymaint o amser?
Wel, rydym ni'n falch iawn o gyhoeddi y llwyddwyd i wneud cynnig cyflog gwell i'r undebau llafur iechyd yr wythnos diwethaf, ac fe wnaeth hynny olygu bod nifer o'r undebau iechyd wedi gohirio'r streic ddoe a heddiw, ac mae'r trafodaethau hynny yn amlwg yn parhau. Bu'n rhaid i ni flaenoriaethu arian, bu'n rhaid i ni edrych ar gronfeydd wrth gefn, bu'n rhaid i ni edrych ar danwariant, ac, yn amlwg, wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen, mae'r tanwariant hwnnw yn dod i'r fei, yn enwedig yr adeg yma o'r flwyddyn. Rydym ni i gyd, fel Gweinidogion, yn pwyso ar ein swyddogion i wneud yn siŵr pa danwariant allai fodoli, ac i wneud yn siŵr ein bod ni'n ei ddefnyddio hyd eithaf ein gallu. Rydyn ni wedi dweud ar hyd yr amser y bydden ni wedi ffafrio ateb ar gyfer y DU gyfan, mewn gwirionedd, i hyn. Ni allem ni aros yn hwy i Lywodraeth y DU wneud hyn. Rydym ni wedi llwyddo i ddod o hyd i ychydig mwy o arian, ac rwy'n credu bod yr arian hwnnw wedi cael ei groesawu gan y mwyafrif o bobl.
Disgrifiwyd y cynnig nawr o ddim ond 1.5 y cant yn ychwanegol fel codiad cyflog ar ben eich cynnig sydd, mewn gwirionedd, yn chwerthinllyd, gan Sharon Graham o Unite fel 'plastr glynu'. I lawer yn y GIG bydd y toriad termau real hwn o fwy na 4 y cant i'w cyflogau yn rhwbio halen yn y briwiau dwfn a achoswyd gan dros ddegawd o gyni cyllidol. Pan fyddwch chi'n dweud nawr mai dyma eich cynnig olaf a therfynol, mai dyma, i ddyfynnu'r Gweinidog iechyd, 'yw'r unig fargen ar gael', yna pam ddylai unrhyw un gredu'r datganiad hwnnw pan ydych chi wedi gwrth-ddweud eich hunain fel Llywodraeth ar gymaint o achlysuron? Fe allech chi, oni allech, droi'r taliad untro hwnnw o 3 y cant yn godiad cyflog parhaol, eto drwy ddefnyddio cyfuniad o gronfa wrth gefn Cymru y flwyddyn nesaf a gostyngiad i wariant ar asiantaethau? Yn hytrach na gwrthod hynny nawr, dim ond i'w dderbyn yn ddiweddarach, pam na wnewch chi'r hyn sy'n iawn yn syth nawr?
Wel, rydym ni eisoes wedi defnyddio cronfeydd wrth gefn y ddwy flynedd nesaf, felly rydym ni eisoes wedi gwneud hynny. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn y cynnig ychwanegol hwnnw o 3 y cant yw—mae 1.5 y cant yn gyfnerthedig, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, ac nid yw'r 1.5 y cant arall. Mae'n rhaid i mi ddweud ein bod ni'n gwneud hyn gyda risg yn amlwg. Hon fu'r gyllideb anoddaf i mi ymdrin â hi erioed fel Gweinidog, ac rwy'n siŵr y byddai pawb sy'n eistedd o'm cwmpas ar y fainc flaen yn cytuno. Rydyn ni wedi gwneud ein gorau glas, ac rwy'n credu bod y Gweinidog a'i thîm, a weithiodd yn ddiflino i gyflwyno'r cytundeb hwn, a hefyd ynghyd â'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, sydd wedi dod o hyd i'r cyllid hwnnw, dylid eu llongyfarch nid eu beirniadu am dro pedol neu beth bynnag yr ydych chi eisiau ei alw. Croesawyd hyn gan y mwyafrif o bobl. Ni fyddem, wrth gwrs, wedi bod eisiau gweld gweithredu diwydiannol yn y ffordd yr ydym ni wedi ei weld, ac rydym ni'n falch iawn bod y mwyafrif o undebau llafur wedi gohirio'r streic yr oedden nhw'n mynd i'w chynnal ar y chweched a'r seithfed. Bydd hynny'n caniatáu amser i drafodaethau ystyrlon barhau. Mae drws y Gweinidog ar agor bob amser, ac rwy'n credu ei bod hi'n dda iawn ein bod ni wedi gallu parhau â'r trafodaethau hynny. Mae'n rhaid i ni ofyn i'r GIG wneud pethau hefyd. Felly, gwn, yn rhan o'r cynnig, bod y Gweinidog yn gofyn iddyn nhw edrych ar waith asiantaeth i weld pa arian y gellid ei arbed drwy staff asiantaeth hefyd. Felly, mae'n fater o bawb yn chwarae eu rhan ac yn gweithio gyda'i gilydd.
Ond gallwch fynd ymhellach na hynny, Gweinidog, oni allwch, oherwydd mae'r gallu gennych chi i godi refeniw ychwanegol drwy eich pwerau amrywio trethi? Nawr, rwy'n deall mai safbwynt y Llywodraeth yw nad ydych chi eisiau cyffwrdd â'r gyfradd sylfaenol, ond hyd yn oed pe baech chi ddim ond yn cydweddu'r cynnydd i'r cyfraddau uwch ac ychwanegol â'r rhai sy'n cael eu cyflwyno yn yr Alban ar 1 Ebrill—y 42c a'r 47c—byddai hynny'n codi £76 miliwn, digon i droi eich taliad untro eleni yn godiad cyflog parhaol. A phe baech chi'n gallu defnyddio dulliau eraill o wneud hynny, gallech ddefnyddio'r £76 miliwn hwnnw yn hytrach i godi cyflogau gweithwyr gofal i £12 yr awr. Pam na wnewch chi ddefnyddio'r pwerau sydd gennych chi ar hyn o bryd i wneud yr hyn sy'n iawn i'r grŵp hwn o weithwyr? Rydych chi'n disgrifio eich hun fel Llywodraeth sosialaidd; pam na wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn i ymddwyn fel un?
Rydym ni yn Llywodraeth sosialaidd, ac rwy'n credu bod yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn yr wythnos diwethaf hon yn unig yn dangos hynny'n llwyr; mae'n dangos y gwahaniaeth rhyngom ni a Llywodraeth y DU. Ond mae ein safbwynt ar dreth yn eglur iawn; mae unrhyw ddadansoddiad o'r ysgogiadau sydd ar gael i ni fel Llywodraeth drwy gyfraddau treth incwm Cymru yn dangos na allwn ni godi digon, yn ddigon teg i wneud iawn am y tyllau sydd wedi cael eu creu gan yr argyfwng economaidd a sicrhau cyflog uwch yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Felly, nid wyf i'n credu y byddai'n iawn mewn argyfwng costau byw i ofyn i unrhyw un sy'n talu'r gyfradd incwm sylfaenol dalu unrhyw arian ychwanegol. Ac rydych chi'n cyfeirio at y gyfradd uwch, ac nid ydym ni'n gwybod a fyddai unrhyw ganlyniadau anfwriadol. Rwy'n credu y byddwch chi wedi clywed y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn dweud yn yr un rhaglen pryd cawsoch chi eich cyfweld arni ddydd Sul y gallai fod canlyniadau anfwriadol. Nid yw pobl sy'n ennill y lefelau cyflog y byddai'n rhaid iddyn nhw eu hennill i dalu'r gyfradd uwch honno o dreth incwm fel pobl eraill. Gallen nhw benderfynu gadael Cymru a symud i Loegr, er enghraifft. Nid ydym yn gwybod beth fyddai'n digwydd, ac rwy'n credu bod hwnnw'n ddarn o waith y mae gwir angen edrych arno'n ofalus iawn. Nid wyf i'n siŵr mewn gwirionedd bod eich barn ar hyn yn gywir.